Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL Y CYNGHORYDD
MENNA TRENHOLME YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2023 / 24 Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y
Cynghorydd Menna Trenholme yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023 / 24 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol is-gadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL Y
CYNGHORYDD NIA JEFFREYS YN IS GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2023 / 24 Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn Is Gadeirydd y
Pwyllgor hwn ar gyfer 2023 / 24 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Gwynfor Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 10fed o Chwefror 2023 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff
yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion
penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd
cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r
wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth
am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
TYNNU RHESTR FER PENNAETH ADDYSG I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i
Aelodau’r Pwyllgor yn unig Penderfyniad: Cofnod: Adroddodd y Prif Weithredwr bod 5 cais wedi ei derbyn
am y swydd ac fe gyflwynodd grynodeb o’r ceisiadau. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion
y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi pedwar ymgeisydd
ar y rhestr fer PENDERFYNWYD: RHOI
PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH ADDYSG Wrth ymhelaethu
ar y camau nesaf, amlygodd Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol) y byddai’r pedwar ymgeisydd yn cael eu
gwahodd i gymryd rhan mewn
cyfres o ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu mewnol yn cael
ei chynnal 20fed o Dachwedd 2023, ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn cael
eu cyflwyno ar lafar gan
y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Penodi
Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau. Nodwyd y bydd
cwestiynau ar gyfer y cyfweliad yn cael eu
rhannu gyda’r Aelodau am sylwadau. Cynigwyd bod Aelod Cabinet Addysg yn cael
gwahoddiad i fod yn rhan
o’r broses. |