Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod tri chais wedi ei derbyn
am y swydd gyda dau yn cyfateb
i’r meini prawf hanfodol.
Trafodwyd y ceisiadau
yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.
Er
yn siomedig gyda’r nifer ceisiadau,
argyhoeddwyd yr Aelodau bod y swydd
wedi ei hysbysebu
yn ddigonol, oedd yn cynnwys
gwefannau, asiantaethau a chyhoeddiadau allanol.
Cynigiwyd ac eiliwyd
rhoi dau ymgeisydd ar y rhestr fer.
PENDERFYNWYD:
RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH OEDOLION,
IECHYD A LLESIANT
Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf,
amlygodd Eurig Williams (Rheolwr
Gwasanaethau Ymgynghorol
Adnoddau Dynol) y byddai’r ddau
ymgeisydd yn cael eu gwahodd
i gymryd rhan mewn cyfres
o ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu mewnol yn
cael ei chynnal,
ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion hynny yn cael
eu cyflwyno ar lafar i’r
Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau.
Trafodwyd cwestiynau
(drafft) ar gyfer y cyfweliadau gyda’r Aelodau. Yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd, adroddwyd y bydd fersiwn derfynol o’r cwestiynau yn cael eu
rhannu gyda hwy cyn diwrnod
y cyfweliadau.