Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD 2025 - 2026 Ethol Cadeirydd ar gyfer 2025 /26 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ethol y Cynghorydd
Ioan Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2025/26 Cofnod: Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cynghorydd Ioan Thomas
yn Gadeirydd Cynigiwyd ac eiliwyd ethol y CYnghourdd Beth Lawton
yn Gadeirydd Pleidleisiwyd ar y cynigion PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2025/26 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD 2025 - 2026 Ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2025 - 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I ethol y Cynghorydd
Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2025/26 Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ethol y Cynghorydd Medwyn
Hughes yn Is-gadeirydd Pleidleisiwyd ar y cynnig PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2025/26. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Dafydd Meurig, Angela Russell, Dyfrig
Siencyn a Rob Triggs; y Prif Weithredwr Dafydd Gibbard |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Yn dilyn marwolaeth annisgwyl Mrs Sharon
Warnes, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i gydymdeimlo a’i theulu. Nodwyd bod
Sharon wedi bod yn swyddog gyda’r Cyngor ac yn ddiweddar yn Aelod Lleyg ar y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chyn Aelod o’r Bwrdd Pensiwn; yn berson
parchus a chydwybodol ac y bydd colled ar ei hol. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH OEDOLION, IECHYD A LLESIANT I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Penodi Mrs Mari Wynne
Jones i’r swydd Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant Cofnod: a) Cadarnhawyd trefn y diwrnod
gyda’r Aelodau. b)
Cyfwelwyd
dau ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant c)
Gwahoddwyd
yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun,’ Beth yw’r prif
gyfleoedd sy’n wynebu’r Adran Oedolion dros y blynyddoedd nesaf a sut fyddech
yn mynd i’r afael a hwy? Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd
gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Ioan Thomas, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr
Aelodau. Gwahoddwyd Mr Dylan Owen (Cyfarwyddwr
Statudol Gwasaethau Cymdeithsaol), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r
ddwy ymgeisydd mewn cyfres o ymarferion cyn cyfweld. Cyflwynwyd canlyniadau
profion ac ymarferion a gwblhawyd, ymateb i gyfweliadau proffesiynol ac i
gyfweliad gyda phanel defnyddwyr gwasaneth yng Gwynedd a chyfweliad gyda dau
Aelod Cabinet. Gwahoddwyd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, i gyflwyno sylwadau ar berfformiad yr
ymgeiswyr yn y cyfweliad. ch) Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael
ei chynnig i Mrs Mari Wynne Jones. PENDERFYNWYD penodi Mrs
Mari Wynne Jones i’r swydd Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant |