Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg
Chwefror 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11-02-21 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan
ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am
unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus
sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad
mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.
Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PRIF WEITHREDWR Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i
Aelodau’r Pwyllgor yn unig Penderfyniad: RHOI DAU
YMGEISYDD AR Y RHESTR FER Cofnod: Adroddodd y Cadeirydd bod 6 cais wedi
ei derbyn am y swydd. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion
y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. PENDERFYNWYD RHOI DAU YMGEISYDD AR
Y RHESTR FER Wrth ymhelaethu ar
y camau nesaf, amlygodd y Prif Weithredwr y byddai cwmni Goodman Thomas yn cynnal canolfan asesu gan ganolbwyntio
ar y profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr. Bydd y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol, 3 Aelod Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgorau Craffu yn cynnal cyfweliad
proffesiynol. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr
yn cael ei
ddarparu gan y ganolfan asesu a’r Prif Weithredwr
i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Penodi
Prif Swyddogion. Trafodwyd chwe cwestiwn a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliad. Cyfweliadau gan y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i’w cynnal 16 Ebrill
2021 |