Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans
01286 679878
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU
I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb
COFNODION:
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anwen Hughes a’r Cynghorydd Simon Glyn
|
2. |
DATGAN BUDDIANT PERSONOL
I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol
COFNODION:
|
3. |
MATERION BRYS
Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
COFNODION:
|
4. |
COFNODION PDF 188 KB
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 19 Mawrth 2021, fel rhai cywir
COFNODION:
Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 19-03-21 fel rhai cywir
|
5. |
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig
COFNODION:
PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig.
|
6. |
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PRIF WEITHREDWR
I dderbyn
adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.
Penderfyniad:
Argymell i’r Cyngor Llawn benodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd
Prif Weithredwr
COFNODION:
a)
Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.
b)
Gwahoddwyd Ms Siân Goodson o gwmni Goodson
Thomas i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd yn y Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 29/03/21 drwy nodi canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr. Roedd copi o’r
adroddiad wedi ei ddosbarthu i’r
Aelodau.
Gwahoddwyd Mr Dilwyn
Williams (Prif Weithredwr),
i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd 01/04/21 gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol, 3 Aelod Cabinet a Chadeirydd y Fforwm Craffu. Roedd copi
o’r adroddiad wedi ei ddosbarthu
i’r Aelodau.
c)
Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar
gyfer y swydd.
Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad
ar “Mae nhw’n dweud bod y 100 diwrnod cyntaf yn bwysig mewn
taith unrhyw Arweinydd. Be fyddech chi yn ei wneud
yn eich 100 diwrnod cyntaf a pham?” Ymatebwyd i chwe chwestiwn
ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael
ei chynnig i Mr Dafydd Gibbard.
PENDERFYNWYD: Argymell i’r Cyngor Llawn (mewn cyfarfod
arbennig a gynhelir
23/04/21), benodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif
Weithredwr
|