Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021 / 2022 Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Mair Rowlands yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22 Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Mair Rowlands yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2021/22 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2021 / 2022 Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22 Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins,
Eric M Jones, Peter Read, Gethin Glyn Williams a Simon Glyn (Cadeirydd y Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Y Cynghorydd Alwyn
Gruffydd yn eitem 8 ar y rhaglen oherwydd
bod ganddo gyswllt busnes agos a chysylltiad
personol gyda theulu un o’r
ymgeiswyr. Roedd yr Aelod
o’r farn ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ebrill 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 16eg o Ebrill 21 fel rhai
cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.
Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENNAETH TAI AC EIDDO I ystyried ceisiadau
gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Penderfyniad: ·
RHOI
PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER ·
Gwahodd y
Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo) i’r cyfweliadau fel
sylwedydd. Nodwyd na fydd ganddo hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ond bydd
cyfle iddo siarad ar gais y Pwyllgor. Cofnod: Adroddodd y Cadeirydd bod 14 cais wedi ei
derbyn am y swydd. Roedd hyn yn
galonogol iawn Gwahoddwyd y Prif Weithredwr i gyflwyno
crynodeb ar y ceisiadau. Trafodwyd y ceisiadau yn unol
â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. PENDERFYNWYD
RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf,
amlygodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y byddai canolfan asesu yn cael
ei chynnal ar y 9fed o Orffennaf 2021. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr yn
cael ei ddarparu
gan y ganolfan asesu i’w gyflwyno
i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.
Trafodwyd pum cwestiwn
a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer
y cyfweliad. Cyfweliadau i’w cynnal
16 Gorffennaf 2021 Cynigiwyd gwahodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i’r cyfweliadau fel sylwedydd PENDERFYNWYD
gwahodd y Cynghorydd Craig
ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo)
i’r cyfweliadau fel sylwedydd. Nodwyd na
fydd ganddo hawl i bleidleisio
ar y penderfyniad, ond bydd cyfle
iddo siarad ar gais y Pwyllgor. |