Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Hughes, Peredur Jenkins, Eric M Jones,
Gethin Glyn Williams a Simon Glyn (Cadeirydd y
Cyngor) Collodd y Cynghorydd Peter Read gysylltiad wi-fi yn ystod
y cyfarfod ac o ganlyniad ni allai
gymryd rhan ymhellach |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Y Cynghorydd Alwyn
Gruffydd oherwydd bod ganddo
gyswllt busnes agos a chysylltiad personol gyda theulu
un o’r ymgeiswyr. Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 2 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 02-07-21 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO I dderbyn
adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd. Penderfyniad: Penodi Carys Fôn Williams i’r swydd Pennaeth Tai ac Eiddo Cofnod: a)
Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau. b)
Gwahoddwyd Mr Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Corfforaethol) i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd mewn Canolfan Asesu
allanol a gynhaliwyd
09/07/21 gan gwmni Edgecombe. Nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr. Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard
(Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth
cryno o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) a’r Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod
Cabinet Tai ac Eiddo). c)
Cyfwelwyd pedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd. Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i
roi cyflwyniad hyd at 10 munud ar y testun ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu’r Adran
Tai ac Eiddo dros y blynyddoedd nesaf a sut y byddech chi’n
bersonol yn ymateb iddyn nhw?’ Ymatebwyd pum cwestiwn ffurfiol
a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr
Aelodau. Gwahoddwyd y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod
Cabinet Tai ac Eiddo) i gynnig sylwadau ar ymatebion yr
ymgeiswyr. ch) Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei
chynnig i Carys Fôn Williams PENDERFYNWYD penodi Carys Fôn Williams i’r swydd Pennaeth
Tai ac Eiddo |