Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Eryl
Jones-Williams a Cyng. Simon Glyn (Cadeirydd y Cyngor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf
2021 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENNAETH CYLLID I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei
dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Penderfyniad: RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER Cofnod: Adroddodd y Cadeirydd bod 2
gais wedi ei derbyn am y swydd. Gwahoddwyd y Prif Weithredwr i
gyflwyno crynodeb ar y ceisiadau. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y
swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. PENDERFYNWYD RHOI DAU YMGEISYDD
AR Y RHESTR FER Wrth ymhelaethu ar y camau
nesaf, amlygodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y byddai canolfan asesu yn
cael ei chynnal yn ystod wythnos yn cychwyn y 15 Tachwedd. Bydd adroddiad
ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr yn cael ei ddarparu gan y ganolfan asesu i’w
gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Trafodwyd pum cwestiwn a
thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliad. Bydd dyddiad y cyfweliadau i’w
gadarnhau. |