Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 04-11-21 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.
Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am
yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r
wybodaeth yn eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH CYLLID I dderbyn adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld
ymgeiswyr ar gyfer y swydd. Penderfyniad: Penodi Dewi Morgan
i’r swydd Pennaeth Cyllid Cofnod: a)
Cadarnhawyd trefn y
diwrnod gyda’r Aelodau. b)
Gwahoddwyd Mr Geraint
Owen (Pennaeth Cefnogaeth Corfforaethol) i gyflwyno adborth cryno o
berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn Canolfan Asesu allanol a gynhaliwyd
15/11/21 gan gwmni Edgecombe. Nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a
chymwyseddau’r ymgeiswyr. Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno
o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda
chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) c)
Cyfwelwyd dau ymgeisydd
ar gyfer y swydd. Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad hyd at 10 munud ar y testun ‘Be
ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu’r Adran Cyllid dros y blynyddoedd
nesaf a sut y byddech chi’n bersonol yn ymateb iddyn nhw?’ Ymatebwyd pum
cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan
yr Aelodau. Gwahoddwyd y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Cyllid) i gynnig
sylwadau ar ymatebion yr ymgeiswyr. ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Dewi Morgan PENDERFYNWYD
penodi Mr Dewi Morgan i’r swydd Pennaeth Cyllid |