Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elwyn Jones (Is-gadeirydd y
Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Y Cynghorydd Eric M Jones a’r Cynghorydd
Selwyn Griffiths oherwydd bod eu plant yn gweithio yn y Cyngor. Nid oedd yr
Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu gan mai’r Polisi Tâl
oedd yn cael ei adolygu ac nid cyflogau swyddogion. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26ain o Dachwedd 2021 fel rhai cywir |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL POLISI TAL Y CYNGOR PDF 214 KB I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2022, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2022/23 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn
nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl
blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer
2012/13, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad
blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn
adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. Adroddwyd nad oedd addasiadau yn cael eu
cynnig i’r polisi eleni, Tynnwyd sylw at adolygiad cyflogau Prif Swyddogion. Atgoffwyd yr Aelodau
bod y Pwyllgor wedi argymell adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion, ond na
ddylid cynnal yr adolygiad hyd nes bod penderfyniad ar lefel cenedlaethol wedi
ei wneud yn y lle cyntaf. Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd hyd yma
ar gyfer 2021/22. Y bwriad yw cynnal yr adolygiad a chyflwyno’r canfyddiadau
i’r Pwyllgor o ganlyniad i gyhoeddi’r gytundeb cenedlaethol. Yng nghyd-destun cyflogau swyddi o dan lefel prif swyddogion, nodwyd,
fel cyflogau prif swyddogion nad oedd cytundeb cenedlaethol wedi ei gyrraedd.
Ategwyd bod trafodaethau yn parhau rhwng yr Undebau a’r Cyflogwyr, bod balot wedi ei chynnal a bod ymateb i’w ddisgwyl yn yr
wythnosau nesaf. Yn dilyn cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2021) i ariannu
cynnydd yng nghyflogau staff maes gofal i lefel Cyflog Byw (£9.90), bydd angen
i gynghorau sicrhau cydymffurfiad a’r cyfarwyddyd hwnnw o fis Ebrill 2022
Nodwyd, petai cynnydd mewn cyflogau 2021/22 a 2022/23 byddai cyflog yr awr i
ofalwyr y Cyngor, uwchlaw’r Cyflog Byw; os na fydd
cytundeb cenedlaethol, bydd rhaid cymryd camau i godi’r lefelau cyflog o’r 1af
o Ebrill 2022, yn unol â’r cyfarwyddyd. Ategwyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu meini prawf Cynllun Arfarnu Swyddi
GLPC fel sail i osod graddfa cyflog ar gyfer pob swydd sydd o dan Amodau Gwaith
Gweithwyr Llywodraeth Leol. Eglurwyd bod y berthynas rhwng tâl Prif Swyddogion
a gweithwyr eraill wedi ei ddylunio i alluogi’r Cyngor i recriwtio a chadw’r
gweithwyr addas a gorau yn ei swyddi amrywiol, wrth gynnal y pwyntiau
gwahaniaethol a arfarnwyd yn yr arfarniad swyddi. Amlygwyd bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell
cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (llawn-amser)
- cymhareb Gwynedd ar hyn o bryd yn 1:6.4. Ers cyhoeddi’r adroddiad, nodwyd bod cytundeb cenedlaethol wedi ei
gyrraedd i gynyddu cyflogau Prif Weithredwyr o 1.5%. Yn ddarostyngedig i
dderbyn y Datganiad Polisi Tâl, bydd yr adroddiad i’r Cyngor Llawn (03/03/22),
yn cael ei ddiweddaru i arddangos y cynnydd. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Pam na ellid codi’r Cyflog Byw i £10 yr awr – rhif cyflawn? – hyn yn
debygol o ddenu mwy o weithwyr i’r maes gofal ·
Angen cynnig cyflog
mwy cystadleuol i weithwyr maes gofal, gwaith o fewn y sector breifat, megis
siopau manwerthu, yn talu mwy am lai o gyfrifoldebau ·
Angen sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost o gynyddu’r
tâl i weithwyr maes gofal · Bod y Cyngor yn gweithio at darged lefel isel cyflog byw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |