Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, y Cynghorydd June
Jones a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 28ain Gorffennaf 2022 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Eitem 6: Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid
oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Petai y cynnig
yn mynd ymlaen yna byddai y newidiadau yn cael eu cyhoeddi fel rhan o
addasiadau i’r Datganaid Polisi Tal. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwysio
hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig Eitem 7: Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth
am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr
unigolion yma. O ganlyniad mae’r
budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
CWBLHAU CAM OLAF YR ADOLYGIAD UWCH REOLAETHOL I ystyried
yr adroddiad COFNODION: Yn dilyn cais gan yr Aelodau mewn cyfarfod
o’r Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd Chwefror 11eg 2020, cyflwynodd y Prif
Weithredwr adroddiad oedd yn cynnwys casgliadau o’r adolygiad a wnaed gan y cyn
Brif Weithredwr o gyflogau Prif Swyddogion (a gyflwynwyd i Bwyllgor Chwefror
11eg 2021) a diweddariad o’r sefyllfa bresennol. Yn ei gyflwyniad amlygodd y Prif Weithredwr
bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd Mehefin 28ain 2022, wedi mabwysiadu
argymhellion i ail ddyrannu cyfrifoldebau sawl Pennaeth Adran yn dilyn
adolygiad o strwythur uwch reolaethol y Cyngor ynghyd a diddymu swydd un
Pennaeth o’r strwythur. Adroddwyd hefyd bod llwyddiant mewn penodi dau
gyfarwyddwr a phennaeth cyllid diweddar wedi profi nad oedd lefel cyflog yn
rhwystr rhag gallu denu ymgeiswyr mewnol ac allanol o safon uchel PENDERFYNWYD: 1. Argymell i'r Cyngor Llawn y dylid diwygio Polisi
Datganiad Tâl y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 i adlewyrchu
casgliadau terfynol yr adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion a gynhaliwyd ar
gais y Pwyllgor yn 2021. 2. Nodi fod hyn yn cwblhau cam olaf adolygiad y Prif
Weithredwr o strwythur Uwch Reolaethol y Cyngor a thrwy hynny yn arwain at
gyflawni arbediad refeniw parhaol o £44,930 y flwyddyn. |
|
TYNNU RHESTR FER AR GYFER PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Penderfyniad: COFNODION: Adroddodd y Prif Weithredwr bod 5 cais wedi ei derbyn
am y swydd ac fe gyflwynodd grynodeb o’r ceisiadau. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion
y swyddi gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. Mynegwyd siom nad
oedd cais wedi ei gyflwyno
gan ferch a bod angen adolygu’r broses hysbysu i geisio
denu mwy o ddiddordeb ac annog marched i geisio. PENDERFYNWYD ·
RHOI TRI YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI
PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL Wrth ymhelaethu
ar y camau nesaf, amlygodd Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol) y byddai Canolfan Asesu gyda chefnogaeth cwmni allanol yn
cael ei gynnal
24ain o Hydref 2022 ynghyd
a threfniadau asesu mewnol o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr ac adborth o’r perfformiad yn cael ei
ddarparu gan y Ganolfan Asesu a’r Prif Weithredwr
i’w gyflwyno ar lafar i’r
Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau. Trafodwyd pum cwestiwn
a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer
y cyfweliadau sydd i’w cynnal 28 Hydref
2022. Bydd y cyfweliadau
yn cael eu
cynnal ar ffurf hybrid gan roi dewis i’r
ymgeiswyr, Aelodau Pwyllgor
a’r swyddogion fynychu wyneb yn
wyneb neu yn rhithiol. |