Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL GWEITHLU'R CYNGOR PDF 269 KB I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth yr 2il 2023, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2023/24 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn
nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl
blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer
2023/24, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad
blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn
adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yng nghyfarfod Hydref 11eg 2022,
diwygiwyd Polisi Tal 2023/24 i adlewyrchu addasiad yng nghyflogau rhai o
Benaethiaid Adran y Cyngor. Roedd yr addasiad yn ymateb i gais penodol gan y
Pwyllgor yn Chwefror 2021 i’r Prif Weithredwr gynnal adolygiad o gyflogau prif
swyddogion. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i awgrym bod uwch swyddogion yn derbyn tâl ychwanegol am
oriau anghymdeithasol o gymharu â gofalwyr a staff rheng flaen sydd yn derbyn
tâl sylfaenol am yr oriau hyn, cadarnhawyd nad oedd uwch swyddogion yn derbyn
tâl ychwanegol a bod y Cyngor yn sefyll yn gadarn drwy sicrhau cyfartaledd a
thegwch ar draws y gweithlu. Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth yr 2il 2023, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2023/24 |