Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Cai Larsen, Beth
Lawton, Gwynfor Owen a Rob Triggs |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â
hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn
disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH ADDYSG I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Penderfyniad: Cofnod: a) Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau. b) Cyfwelwyd tri ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Addysg c) Gwahoddwyd
yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun, ‘Beth yw’r prif heriau sy’n
wynebu’r Adran Addysg dros y blynyddoedd nesaf a sut fyddech yn mynd i’r afael
a hwy?’ Ymatebwyd
i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Menna
Trenholme, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau. Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif
Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r tri ymgeisydd mewn
cyfres o ymarferion cyn cyfweld. Cyflwynwyd canlyniadau profion ac ymarferion a
gwblhawyd, ymateb i gyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr a Mr Dylan
Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol) ac i ymarferion gyda phanel o Benaethiaid
Ysgolion Gwynedd (yn cynnwys Cynradd, Uwchradd ac Arbennig) a dau Aelod
Cabinet. Gwahoddwyd y Cynghorydd Beca
Brown, Aelod Cabinet Addysg, i gyflwyno sylwadau ar berfformiad yr ymgeiswyr yn
y cyfweliad. ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Gwern ap
Rhisiart. PENDERFYNWYD penodi Mr
Gwern ap Rhisiart i’r swydd PENNAETH
ADDYSG |