Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD 2024-25

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

I ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024-25

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

I ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Angela Russell a’r Cynghorydd Annwen Hughes

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 94 KB

Cofnod:

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL AR GYFER GWEITHLU'R CYNGOR pdf eicon PDF 147 KB

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 6ed 2025, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2025/26

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer 2025/26, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Amlygodd y Prif Weithredwr nad oedd newid i’r polisi a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 ac mai ymarfer da yw cael trosolwg a chyhoeddi amodau gwaith y staff yn flynyddol a hynny yn unol â gofynion y Ddeddf. Nodwyd bod trafodaethau a negodi blynyddol ynglyn a chodiadau cyflog blynyddol yn digwydd tu allan i’r Cyngor - Prif Swyddogion yn cael eu pennu gan y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion a’r Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gweithlu Llywodraeth Leol yn pennu cyflogau o dan lefel prif swyddogion.  Cafwyd cytundeb ym mis Hydref ar gyfer swyddi o dan lefel prif swyddogion ar gynnydd o £1290 ar gyflog blynyddol pob Aelod o staff hyd at bwynt cyflog 43, ac yna 2.5% ar y pwyntiau cyflog uwchlaw hynny. Ategwyd nad oedd trafodaethau ar gyfer 2025/ 26 wedi dechrau.

 

Cyfeiriwyd at gynnydd sylweddol yn nyletswyddau a chyfrifoldebau’r Swyddog Monitro ac mewn ymateb cynhaliwyd arfarniad o’r cyfrifoldebau ychwanegol hynny gan gwmni Korn Ferry. Daethpwyd i’r casgliad bod y cyfrifoldebau ychwanegol yn gwarantu newid yng ngraddfa’r swydd ac y byddai’r trefniant yn un parhaol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn am yr addasiadau i raddfa cyflog y Swyddog Monitro a hynny ar sail trefniant parhaol, amlygwyd bod yr addasiad wedi ei ymgorffori i’r Polisi Tâl (drafft).

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y Datganiad o Bolisi Tâl (drafft) i’r Cyngor ei fabwysiadu ar gyfer 2025/26

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 6ed 2025, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2025/26