Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Nia Jeffreys, Beth Lawton, a Gwynfor Owen

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 15fed Fai 2025 fel rhai cywir

.

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

 

6.

TYNNU RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

 

Cofnod:

Adroddodd y Prif Weithredwr bod naw cais wedi eu derbyn am y swydd a rhoddodd grynodeb byr o’r hyn roedd yn ei weld fel rôl Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Croesawyd y nifer ceisiadau, ac amrywiaeth y ceisiadau.

 

Trafodwyd yr holl geisiadau a bu i’r Aelodau ganolbwyntio ar ofynion y swydd a’r cymwyseddau allweddol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi tri ymgeisydd ar y rhestr fer.

 

Cynigwyd gwelliant i’r cynnig, i roi pump ymgeisydd ar y rhestr fer gyda dealltwriaeth, os na fydd ymgeisydd yn cyrraedd y gofynion yn dilyn canlyniadau o’r ganolfan asesu a’r profion seicometreg, bod y Pwyllgor yn rhoi hawl i’r Prif Weithredwr dynnu ymgeiswyr allan o’r broses cyn y cyfweliad.

 

Ail drafodwyd y ceisiadau

 

Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer.

 

PENDERFYNWYD:

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

 

Os na fydd ymgeisydd yn cyrraedd gofynion y swydd yn dilyn canlyniadau’r ganolfan asesu a’r profion seicometreg, bod y Pwyllgor yn rhoi hawl i’r Prif Weithredwr dynnu ymgeiswyr allan o’r broses cyn y cyfweliad terfynol

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd y Prif Weithredwr y byddai’r pedwar ymgeisydd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu mewnol yn cael ei chynnal, ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan ei arweiniad. Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion hynny yn cael eu cyflwyno ar lafar i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau.

 

Trafodwyd testun cyflwyniad a chwestiynau (drafft) ar gyfer y cyfweliad gyda’r Aelodau. Yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd, adroddwyd y bydd fersiwn derfynol o’r cwestiynau yn cael eu rhannu gyda hwy cyn diwrnod y cyfweliadau.