Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Medwyn Hughes, June Jones a Beth Lawton

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

COFNODION:

·        Cynghorydd Cai Larsen yn Aelod o Fwrdd Adra

·        Cynghorydd Elwyn Jones, er yn Aelod Lleol ym Mhenisarwaun, nid oedd yn adnabod un o’r ymgeiswyr mewn cyd-destun personol.

·        Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn perthyn o bell i un o'r ymgeiswyr

 

Roedd yr Aelodau o’r farn nad oedd eu buddiannau yn rhai oedd yn rhagfarnu

 

3.

MATERION BRYS

COFNODION:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 115 KB

COFNODION:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8fed o Orffennaf 2025 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

COFNODION:

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Penodi Catrin Thomas i’r swydd Cyfarwyddwr Corffraethol

 

COFNODION:

DECISION:

 

Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

Cyfwelwyd pedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol

 

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun,

 

“Beth yw'r prif heriau fydd yn wynebu Cyngor Gwynedd dros y cyfnod nesaf yn eich barn chi? Sut y byddwch chi'n defnyddio meddylfryd "mae ateb i bob problem" (solution based approach) i gefnogi'r Prif Weithredwr i sicrhau fod y Cyngor yn ymdopi gyda'r heriau hyn a chyflawni gweledigaeth Aelodau?”

 

Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Ioan Thomas, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr) i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd mewn cyfres o ymarferion cyn cyfweld. Cyflwynwyd canlyniadau profion ac ymarferion seicolegol a gwblhawyd drwy gwmni Edgecumbe, ymateb i gyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Corfforaethol, cyfweliad teledu a thasg gydag Aelodau.

 

Trafodwyd bob ymgeisydd yn eu tro

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y swydd i Catrin Thomas

 

PENDERFYNWYD penodi Catrin Thomas i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol