Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Wendy Cleaver, Annwen Hughes, Dafydd Meurig, Gwynfor Owen, Dyfrig Siencyn a Menna Trenholme, a Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 109 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 11eg o Chwefror 2026 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

TYNNU RHESTR FER AR GYFER PENNAETH ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (DROS DRO)

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

RHOI UN YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (DROS DRO)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol grynodeb byr o’r rhesymeg dros yr hysbysebiad a chyfrifoldebau’r swydd. Amlygodd bod y trefniadau presennol, o lenwi’r bwlch yn absenoldeb Pennaeth yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn anghynaladwy a bod angen Pennaeth cyfrifol ac atebol i arwain; Gyda phenodiad Pennaeth dros dro, bydd hyn yn caniatáu ôl lenwi swyddi gwag eraill o fewn yr Adran a sefydlu strwythur cadarn i’r gwasanaeth.

 

Adroddwyd bod un cais wedi ei dderbyn

 

Ystyriwyd bod y cais yn ymateb i ofynion y swydd a’r cymwyseddau allweddol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi yr un ymgeisydd ar y rhestr fer.

 

PENDERFYNWYD:

 

RHOI UN YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (DROS DRO)