Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur
Jenkins, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: Dilwyn Williams (Prif Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol) yn eitem 5 ar y rhaglen gan
ei bod yn brif swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tal. Pe byddai yna
unrhyw drafodaeth ar y mater hwnnw, byddai’r ddau yn ymadael a’r ystafell. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 8.11.17 fel rhai cywir
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 08.11.17 fel rhai cywir |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR PDF 218 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod i
bob pwrpas yn adrodd ar y sefyllfa ddiweddaraf a bod y polisi ei hun heb ei
addasu. Byddai unrhyw newidiadau tebygol i’r polisi, yn ganlyniad i
drafodaethau gyda’r undebau ar hyn o bryd i gyrraedd targed effeithlonrwydd, yn
cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol, amlygwyd nad oedd
trafodaethau cenedlaethol wedi eu cynnal hyd yma i drafod cyflogau prif
weithredwyr a phrif swyddogion. Byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i gytundeb
cenedlaethol ar gyflogau staff, fydd yn debygol o ddilyn yr un trywydd a’r hyn
fydd wedi ei gytuno ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol yn gyffredinol. Cyfeiriwyd at y cynnig presennol gan y
cyflogwr yn genedlaethol i godi cyflogau gweithwyr llywodraeth leol am y ddwy
flynedd nesaf. Nodwyd petai’r cynnig yn cael ei dderbyn, bod rhagolygon y
byddai isafswm cyflog Cyngor Gwynedd yn uwch na’r Cyflog Byw (Sefydliad Cyflog Byw) erbyn 1af Ebrill
2019. Eglurwyd mai canran fechan o staff y Cyngor sydd yn parhau i dderbyn
cyflog is na’r hyn adnabyddir fel Cyflog Byw (8.75 yn bresennol). Cyfeiriwyd hefyd at y trafodaethau adeiladol
a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr yr undebau ynglŷn â newidiadau i elfennau
o’r amodau gwaith lleol. Adroddwyd nad oedd modd cynnal balot gan nad oedd
Swyddfa Genedlaethol Unsain yn caniatau i’r gangen leol roi’r cynnig gerbron
aelodau mewn balot oherwydd y byddai’n arwain at ddirywiad mewn amodau gwaith.
O ganlyniad bu i’r Cyngor ohebu yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff fyddai’n
cael ei heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i bwrpas ymgynghori. Tynnwyd sylw at y newidiadau arfaethedig o
fewn y cynnig a phwysleiswyd y byddai’n ofynnol diweddaru cynnwys y Polisi Tal
yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau a
gymeradwyir maes o law. Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol am y cyflwyniad. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chyflogau gofalwyr sydd yn gweithio oriau gyda’r nos a’r cynnig i ddod a’r
taliad ychwanegol am weithio rhwng 8 a 10pm i ben, adroddodd Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Pennaeth
Oedolion Iechyd a Llesiant ynglŷn â’r newid arfaethedig hwn gan y byddai
carfan o weithwyr gofal yn cael eu heffeithio.. Eglurodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol
bod angen cysoni’r taliad am weithio yn ystod y dydd hyd 10pm a derbyniodd ei
fod yn ymddangos ar yr wyneb bod staff sydd yn gweithio rhwng 8 - 10pm am fod
ar eu colled, Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen edrych ar y darlun yn
ehangach h.y. yn wyneb y gytundeb cenedlaethol ar godi cyflogau. Eglurodd y
bydd cynnydd sylweddol uwch i gyflogau ar waelod y strwythur tal o gymharu â
chytundebau gweddill staff y Cyngor, sef codiad fydd uwchben y 2% sydd wedi ei
gynnig gan y cyflogwr i’r rhan helaethaf o swyddogion ac y byddai hyn yn arwain
at raddfa yr awr o £9.55 yr awr oddi ar y 1af o Ebrill i’r rhan fwyaf o ofalwyr
a gyflogir gan y Cyngor. Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet yn fyw i’r trafferthion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |