skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels, Eryl Jones-Williams, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, Cai Larsen, Mair Rowlands a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

Dilwyn Williams (Prif Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5 ar y rhaglen gan ei bod yn brif swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tâl – y naill oherwydd y rhan yn ymwneud a chyflog y Prif Weithredwr a’r llall oherwydd y rhan yn ymwneud a chyflogau prif swyddogion. Pe byddai yna unrhyw drafodaeth ar y materion perthnasol, byddent yn ymadael a’r ystafell. 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 71 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Gorffennaf 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19.07.19 fel rhai cywir

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR pdf eicon PDF 67 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i baratoi datganiad polisi tal ac yn unol â chais y Cyngor, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad o gynaliadwyedd y polisi ac i gyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.  Adroddwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried cynaladwyedd y polisi i’r dyfodol.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr gan nad oeddem wedi adolygu cyflogau Penaethiaid y Cyngor ers cryn amser roedd yna berygl i ni syrthio tu ôl i gynghorau eraill yn ddiymwybod i ni ein hunain. O ganlyniad, amlygodd bod bwriad ganddo i gynnal adolygiad o’r cyflogau drwy gymharu cyflogau awdurdodau cyfagos gyda chyflogau cyfatebol mewn sefydliadau eraill yn y sector gyhoeddus. Ategodd y byddai’r adolygiad yn debygol o amlygu’r sefyllfa ynghyd a risgiau posib i’r Cyngor. Byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn ystod y flwyddyn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r drefn bresennol, nodwyd bod cyflogau Penaethiaid wedi eu gosod yn unol â chyngor a chynllun arfarnu yr Hay Group sydd yn cynghori awdurdodau ar draws y wlad. Nodwyd mai’r anfantais gyda hyn yw bod y gymhariaeth efallai yn rhy eang a bod angen canolbwyntio ar ystyriaethau a chymariaethau lleol.

 

Er nad oedd addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion.

-       Bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (llawn-amser). Mae’r gymhareb hon ar hyn o bryd yng Nghyngor Gwynedd yn 1:6.2 a’r gymhareb rhwng canolrif cyflog Prif Swyddogion a’r cyflog isaf yn 1:4.4.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i sylw bod angen adolygu’r cyflogau isel hefyd i sicrhaubalans’, atgoffwyd yr Aelodau bod dau bwynt isaf y cyn-strwythur tâl cenedlaethol wedi eu dileu ac oddi ar y 1af o Ebrill 2019, £9.18ya oedd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd. Yn Nhachwedd 2019, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw bod Cyflog Byw yn cynyddu i £9.30ya fyddai’n golygu bod staff Cyngor Gwynedd, gyda chynnydd o 2% oddi ar y 1af o Ebrill 2020, yn derbyn £9.36ya. Amlygwyd bod cynnig ffurfiol o 2% wedi ei wneud gan y cyflogwr eisoes ond bod yr Undebau wedi cyflwyno cais am gynnydd o 10%. Nodwyd bod trafodaethau cenedlaethol yn cael eu cynnal er mwyn ceisio cytundeb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygiad o’r holl gyflogau staff, adroddwyd bod yr adolygiad tal lleol wedi ei gynnal yn 2008 a bod y gwaith hwnnw wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer sicrhau cyflog cyfartal o fewn y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygiad o’r holl gyflogau staff, adroddwyd bod yr adolygiad diwethaf wedi ei gynnal yn 2008.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â datganiad yn yr adroddiad y byddai’r Cyngor Llawn yn cymeradwyo unrhyw newid i becyn cyflog swydd (cyflog o £100,000 a throsodd) nodwyd nad oedd y ffigwr yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.