skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020 / 21

 

Penderfyniad:

Ail ethol y Cynghorydd Dafydd Meurig yn Gadeirydd ar gyfer 2020 - 21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Dafydd Meurig yn Gadeirydd am 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Penderfyniad:

Ail ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Is-gadeirydd ar gyfer 2020 - 21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Is-gadeirydd am y cyfnod 2020/2021

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd a’r Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 223 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Chwefror 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11.02.20 fel rhai cywir

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwysio hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

CYFLOGAU PRIF SWYDDOGION

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

 

(copi ar wahân i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Penderfyniad:

a)    Derbyn bod angen adolygu rhai cyflogau prif swyddogion ond yn wyneb y ffaith y gallasem fod yn wynebu rhewi cyflogau swyddogion o fewn y sector gyhoeddus, gohirio rhoi ystyriaeth ffurfiol i gynnwys adroddiad y Prif Weithredwr hyd nes bydd staff y Cyngor yn derbyn codiad cyflog cyffredinol gan ail ymweld a’r adroddiad yn syth bryd hynny.

 

b)    Cynyddu cyflog y Swyddog Monitro ar ei uchafswm i tua £70,000 fel bod modd osgoi risgiau annerbyniol i’r Cyngor, gan adael yr union ffigwr i arfarniad yn unol a’r dull a nodir yn yr adroddiad.

 

c)    Hysbysebu swydd Prif Weithredwr ar y telerau presennol.

 

Cofnod:

Yn dilyn cais gan yr Aelodau yng nghyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Penodi (Chwefror 11 2020) cyflwynwyd adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion  gan y Prif Weithredwr.

 

Yn dilyn trafodaeth drylwyr ar gynnwys yr adolygiad ynghyd a’r opsiynau a gyflwynwyd,

 

            PENDERFYNWYD

 

a)    Derbyn bod angen adolygu rhai cyflogau prif swyddogion ond yn wyneb y ffaith y gallem fod yn wynebu rhewi cyflogau swyddogion o fewn y sector gyhoeddus, gohirio rhoi ystyriaeth ffurfiol i gynnwys adroddiad y Prif Weithredwr hyd nes bydd staff y Cyngor yn derbyn codiad cyflog cyffredinol gan ail ymweld â’r adroddiad yn syth bryd hynny.

 

b)    Cynyddu cyflog y Swyddog Monitro ar ei uchafswm i tua £70,000 fel bod modd osgoi risgiau annerbyniol i’r Cyngor, gan adael yr union ffigwr i arfarniad yn unol â’r dull a nodir yn yr adroddiad.

 

c)    Hysbysebu swydd Prif Weithredwr ar y telerau presennol

 

 

9.

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg a’r cyhoedd

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg a’r cyhoedd

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL POLISI TAL Y CYNGOR pdf eicon PDF 215 KB

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ac argymell y polisi tal i’r Cyngor gan nodi’r addasiadau y bydd angen eu hymgorffori yn sgil penderfyniad 8b uchod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi datganiad polisi tal yn flynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu polisi tal ar gyfer 2012/13, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Adroddwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried cynaladwyedd y polisi i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2021, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2021/22 yn ddarostyngedig i addasu cyflog y Swyddog Monitro (atodiad 1) yn unol â phenderfyniad 8b uchod.

 

11.

RECRIWTIO A PHENODI PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 375 KB

Cytuno ar y trefniadau ar gyfer recriwtio a phenodi Prif Weithredwr

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ynglyn a threfniadau recriwtio a phenodi Prif Weithredwr a chytuno ar yr amserlen isod

 

24ain o Chwefror – hysbyseb yn ymddangos yn y wasg.

 

11eg o Fawrth – dyddiad cau.

 

19eg o Fawrth – tynnu rhestr fer.

 

Wythnos yn dechrau’r 22ain o Fawrth – Canolfan Asesu (Rhithiol).

 

16eg o Ebrill - Cyfweld ac argymell ymgeisydd i’w penodi

 

23ain o Ebrill – Cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn cadarnhau’r penodiad

 

Cofnod:

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weithredwr o’i fwriad i ymddeol ar y 31ain o Fawrth 2021, cyflwynwyd adroddiad gan Rheolwr Adnoddau Dynol yn amlygu camau ar gyfer penodi Prif Weithredwr newydd. Amlygwyd, o ran yr amserlen, byddai penodi olynydd erbyn Mawrth 31ain yn rhy uchelgeisiol ac felly, yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor, penderfynwyd anelu at lenwi’r swydd erbyn dechrau mis Mai. Cadarnhawyd bod y Prif Weithredwr presennol wedi cytuno i barhau â’i swyddogaethau yn rhan amser hyd nes bydd olynydd wedi ei b/phenodi.

 

Trafodwyd yr amserlen arfaethedig ar gyfer y broses o benodi Prif Weithredwr

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Cynnig addasu dyddiadau oherwydd gwrthdaro gyda phwyllgorau eraill a threfniadau cyhoeddi

15/04/21 – Cyfweliadau ac argymell ymgeisyddcynnig 16/04/21

21/04/21 – Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawncynnig 23/04/21

·         Awgrym i gopi drafft o ddyletswyddau a swydd ddisgrifiad Prif Weithredwr ei gylchredeg i’r Aelodau am sylwadau

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad ynglŷn â threfniadau recriwtio a phenodi Prif Weithredwr a chytuno ar yr amserlen isod

 

24ain o Chwefrorhysbyseb yn ymddangos yn y wasg.

 

11eg o Fawrthdyddiad cau.

 

19eg o Fawrthtynnu rhestr fer.

 

Wythnos yn dechrau’r 22ain o FawrthCanolfan Asesu (Rhithiol).

 

16eg o Ebrill - Cyfweld ac argymell ymgeisydd i’w penodi

 

23ain o EbrillCyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn cadarnhau’r penodiad