skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 214 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Chwefror 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11-02-21 fel rhai cywir

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

6.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PRIF WEITHREDWR

Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

 

Penderfyniad:

 

RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

 

Cofnod:

 

Adroddodd y Cadeirydd bod 6 cais wedi ei derbyn am y swydd.

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

PENDERFYNWYD RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd y Prif Weithredwr y byddai cwmni Goodman Thomas yn cynnal canolfan asesu gan ganolbwyntio ar y profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr. Bydd y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol, 3 Aelod Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgorau Craffu yn cynnal cyfweliad proffesiynol. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr yn cael ei ddarparu gan y ganolfan asesu a’r Prif Weithredwr i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Trafodwyd chwe cwestiwn a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliad.

Cyfweliadau gan y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i’w cynnal 16 Ebrill 2021