Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 188 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04-11-21 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH CYLLID

I dderbyn adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

 

Penderfyniad:

Penodi Dewi Morgan i’r swydd Pennaeth Cyllid

 

Cofnod:

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Gwahoddwyd Mr Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Corfforaethol) i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn Canolfan Asesu allanol a gynhaliwyd 15/11/21 gan gwmni Edgecombe. Nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr.

 

Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

c)    Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad hyd at 10 munud ar y testun ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu’r Adran Cyllid dros y blynyddoedd nesaf a sut y byddech chi’n bersonol yn ymateb iddyn nhw?’ Ymatebwyd pum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Cyllid) i gynnig sylwadau ar ymatebion yr ymgeiswyr.

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Dewi Morgan

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Dewi Morgan i’r swydd Pennaeth Cyllid