Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

ETHOL Y CYNGHORYDD MENNA TRENHOLME YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2023 / 24

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Ethol y Cynghorydd Menna Trenholme yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023 / 24

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

ETHOL Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS YN IS GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2023 / 24

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer

2023 / 24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

 

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10fed o Chwefror 2023 fel rhai cywir

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

TYNNU RHESTR FER PENNAETH ADDYSG

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

 

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENNAETH ADDYSG

 

Cofnod:

Adroddodd y Prif Weithredwr bod 5 cais wedi ei derbyn am y swydd ac fe gyflwynodd grynodeb o’r ceisiadau.

 

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer

 

PENDERFYNWYD:

 

RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH ADDYSG

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol) y byddai’r pedwar ymgeisydd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu mewnol yn cael ei chynnal 20fed o Dachwedd 2023, ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn cael eu cyflwyno ar lafar gan y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau.

 

Nodwyd y bydd cwestiynau ar gyfer y cyfweliad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau am sylwadau.

 

Cynigwyd bod Aelod Cabinet Addysg yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r broses.