Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes, Cai Larsen, Beth Lawton, Gwynfor Owen a Rob Triggs

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 115 KB

Cofnod:

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH ADDYSG

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd

Penderfyniad:

Cofnod:

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Cyfwelwyd tri ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Addysg

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun, ‘Beth yw’r prif heriau sy’n wynebu’r Adran Addysg dros y blynyddoedd nesaf a sut fyddech yn mynd i’r afael a hwy?’

 

Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Menna Trenholme, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r tri ymgeisydd mewn cyfres o ymarferion cyn cyfweld. Cyflwynwyd canlyniadau profion ac ymarferion a gwblhawyd, ymateb i gyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr a Mr Dylan Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol) ac i ymarferion gyda phanel o Benaethiaid Ysgolion Gwynedd (yn cynnwys Cynradd, Uwchradd ac Arbennig) a dau Aelod Cabinet.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg, i gyflwyno sylwadau ar berfformiad yr ymgeiswyr yn y cyfweliad.

                                                

ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Gwern ap Rhisiart.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Gwern ap Rhisiart i’r swydd PENNAETH ADDYSG