Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams a’r Cynghorydd Ioan Thomas

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 96 KB

Cofnod:

5.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL AR GYFER GWEITHLU'R CYNGOR pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 7fed 2024, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer 2024/25, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Amlygodd y Prif Weithredwr nad oedd newid i’r polisi a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 ac mai ymarfer da yw cael trosolwg a chyhoeddi amodau gwaith y staff yn flynyddol a hynny yn unol â gofynion y Ddeddf. Ategodd Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol bod trafodaethau a negodi blynyddol ynglyn a chodiadau cyflog blynyddol yn  digwydd tu allan i’r Cyngor - Prif Swyddogion yn cael eu pennu gan y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion a’r Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gweithlu Llywodraeth Leol yn pennu cyflogau o dan lefel prif swyddogion.  Cafwyd cytundeb ym mis Mai 2023 ar gyfer prif swyddogion a chytundeb ddechrau Tachwedd 2023 ar gyfer staff sydd yn gweithio o dan lefel prif swyddogion. Nid yw trafodaethau ar gyfer 2024/ 25 wedi dechrau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd trafodaethau ynglŷn â chodiadau cyflog yn digwydd cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd / gosod y gyllideb, nodwyd bod cyflogwyr yn amlwg yn ceisio derbyn y cynnig terfynol erbyn mis Ionawr fel bod modd datrys y cynnydd erbyn dechrau’r flwyddyn gyllidol (Ebrill),  ond bod yr Undebau efallai yn rhoi pwysau ychwanegol ar y cyflogwyr drwy gyflwyno eu hawliad cyflog yn hwyrach yn y flwyddyn newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng colofn ‘wedi eu herio’ a ‘heb eu herio’ yng nghyd-destun Cynllun Taliadau Etholiadau, nodwyd bod ‘wedi eu herio’ yn cyfeirio at gystadleuaeth o fewn ward tra bod ‘heb eu herio’ yn cyfeirio at ward lle na fu cystadleuaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y Datganiad i’r Cyngor ei fabwysiadu ar gyfer 2024/25

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 7fed 2024, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2024/25