skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2019/20

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dafydd Meurig yn Gadeirydd am 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is gadeirydd ar gyfer  2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Is-gadeirydd am y cyfnod 2019/2020

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R Medwyn Hughes, R Glyn Daniels, Selwyn Griffiths, Mair Rowlands a Dyfrig Siencyn

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Chwefror 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14.02.19 fel rhai cywir

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL

Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

 

Cofnod:

Amlygwyd pryder gan aelod yn nifer y ceisiadau ar gyfer swyddi allweddol ac awgrymwyd y dylid hysbysebu yn allanol er mwyn ceisio mwy o ddiddordeb. Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr bod hwn yn rhan o’r broses o gyflawni arbedion ac na fyddai modd gwneud hynny pe byddem yn mynd tu allan i’r Cyngor i benodi.  Ar ben hynny roedd angen cydnabod a rhoi cyfleoedd i staff y Cyngor ac roedd yn hyderus fod yna ddeunydd yn y ceisiadau fyddai’n gwneud Penaethiaid da.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod un cais  wedi ei dderbyn am y swydd oedd wedi ei hysbysebu yn fewnol yn unig.

 

Trafodwyd y cais yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

PENDERFYNWYD BOD YR YMGEISYDD YN GYMWYS I’W ROI AR Y RHESTR FER

 

9.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH TAI AC EIDDO

Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

Cofnod:

Nododd y Prif Weithredwr ei fod wedi cynnal adolygiad o drefniadau rheolaethol y Cyngor er mwyn ceisio cyfarch arbedion effeithlonrwydd. I wireddu’r amcanion hynny, a dymuniad y Cabinet i roi blaenoriaeth i’r Strategaeth Tai, penderfynwyd creu Adran Tai ac Eiddo. Byddai’r Pennaeth llwyddiannus yn arwain ar brosiectau o adeiladu tai ar gyfer pobl Gwynedd.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod dau gais  wedi ei dderbyn am y swydd, oedd wedi ei hysbysebu yn fewnol yn unig.

 

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

PENDERFYNWYD BOD YR YMGEISWYR YN GYMWYS I’W RHOI AR Y RHESTR FER

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau cynnal canolfan asesu, cadarnhaodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd costau'r Ganolfan asesu yn cael eu cyfrifo ar sail cost y pen. Nododd y Prif Weithredwr bod cynnal canolfan asesu yn greiddiol i broses penodi Penaethiaid er mwyn  sicrhau ansawdd a derbyn barn annibynnol.  Byddai cost dod i benderfyniad anghywir lawer uwch i drigolion Gwynedd. Ategwyd bod y darparwr gwreiddiol, a oedd yn cynnal gwasanaeth yn y  Gymraeg, bellach wedi ymddeol. O ganlyniad, adroddwyd y byddai  trefniant newydd yn cael ei brofi drwy ddefnyddio cwmni allanol i gynnal y profion seicometreg a threfniant  mewnol ar gyfer cynnal y ganolfan asesu ei hun.

 

Hysbyswyd aelodau’r Pwyllgor bod cyflog y swydd Pennaeth Tai ac Eiddo newydd wedi’i harfarnu ar lefel HS2 drwy ddefnyddio system Hay, sef yr un system a ddefnyddir ar gyfer arfarnu pob swydd ar lefel Pennaeth ac uwch.

 

Cytunwyd i gyflwyno argymhelliad i gyfarfod o’r Cyngor llawn ar y 18fed o Orffennaf yn datgan y dylid sefydlu cyflog y swydd ar raddfa HS2 a bod y Polisi Tâl ar gyfer 2019-20 yn cael ei addasu i adlewyrchu hynny.