skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Glyn Daniels

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Medwyn Hughes fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6 ar y rhaglen oherwydd bod un o’r ymgeiswyr yn gymydog iddo. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y cyfweliad a’r drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 58 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 27.06.19 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27.06.19 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu

 

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER PENNAETH TAI AC EIDDO

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd

Cofnod:

Cadarnhawyd trefn y cyfweliadau gyda’r Aelodau.

 

Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad ar ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau rydych chi’n ei weld ar gyfer yr Adran dros y ddwy flynedd nesa a sut ydych chi’n meddwl ymateb iddyn nhw?’. Ymatebwyd i nifer o gwestiynau dilynol ynghyd a phum cwestiwn ffurfiol.

 

Gwahoddwyd Mr Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i gyflwyno sylwadau o’r Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 12.7.19. Derbyniwyd crynodeb manwl o berfformiadau’r ddau ymgeisydd ynghyd a chanlyniadau profion seicometreg yr ymgeiswyr a gasglwyd gan gwmni Gatenby Sanderson.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Dafydd Gibbard.

 

PENDERFYNWYD PENODI MR DAFYDD GIBBARD I’R SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO

 

 

7.

CYFWELD YMGEISYDD AR GYFER PENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL

I gyfweld ymgeisydd ar gyfer y swydd

Cofnod:

Cadarnhawyd trefn y cyfweliadau gyda’r Aelodau.

 

Cyfwelwyd un ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad ar ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau rydych chi’n ei weld ar gyfer yr Adran dros y ddwy flynedd nesa a sut ydych chi’n meddwl ymateb iddyn nhw?’. Ymatebwyd i nifer o gwestiynau dilynol ynghyd a phum cwestiwn ffurfiol.

 

Gwahoddwyd Mr Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i gyflwyno sylwadau o’r Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 12.7.19. Derbyniwyd crynodeb manwl o berfformiad yr ymgeisydd ynghyd a chanlyniadaur profion seicometreg a gasglwyd gan gwmni Gatenby Sanderson.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Steffan Jones

 

PENDERFYNWYD PENODI MR STEFFAN JONES I’R SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhaglen mentora, mynegodd y Prif Weithredwr y byddai’n trafod yr anghenion cefnogaeth briodol gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu yn ei rôl fel Penaethiaid.