Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels, Eryl Jones-Williams, Alwyn
Gruffydd, Annwen Hughes, Cai Larsen, Mair Rowlands a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: Dilwyn Williams (Prif
Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5 ar
y rhaglen gan ei bod yn brif
swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tâl – y naill oherwydd
y rhan yn ymwneud a chyflog y Prif Weithredwr a’r llall oherwydd
y rhan yn ymwneud a chyflogau prif swyddogion. Pe byddai yna
unrhyw drafodaeth ar y materion perthnasol,
byddent yn ymadael a’r ystafell. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19
Gorffennaf 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 19.07.19 fel rhai cywir |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR PDF 67 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i baratoi datganiad polisi tal ac
yn unol â chais y Cyngor, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
gynnal adolygiad o gynaliadwyedd y polisi ac i gyflwyno unrhyw argymhellion yn
dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. Adroddwyd nad oedd addasiadau i’r polisi
eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried cynaladwyedd y
polisi i’r dyfodol. Amlygodd y Prif Weithredwr gan nad oeddem wedi
adolygu cyflogau Penaethiaid y Cyngor ers cryn amser roedd yna berygl i ni syrthio
tu ôl i gynghorau eraill yn ddiymwybod i ni ein hunain. O ganlyniad, amlygodd
bod bwriad ganddo i gynnal adolygiad o’r cyflogau drwy gymharu cyflogau
awdurdodau cyfagos gyda chyflogau cyfatebol mewn sefydliadau eraill yn y sector
gyhoeddus. Ategodd y byddai’r adolygiad yn debygol o amlygu’r sefyllfa ynghyd a
risgiau posib i’r Cyngor. Byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn ystod y
flwyddyn Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r drefn bresennol, nodwyd bod cyflogau Penaethiaid wedi eu gosod yn
unol â chyngor a chynllun arfarnu yr Hay Group sydd yn cynghori awdurdodau
ar draws y wlad. Nodwyd mai’r anfantais
gyda hyn yw bod y gymhariaeth efallai yn rhy
eang a bod angen canolbwyntio ar ystyriaethau a chymariaethau lleol. Er nad
oedd addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion. -
Bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn
y Sector Gyhoeddus yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r
cyflog isaf (llawn-amser). Mae’r gymhareb hon ar hyn o bryd yng
Nghyngor Gwynedd yn 1:6.2 a’r gymhareb rhwng
canolrif cyflog Prif Swyddogion a’r cyflog isaf
yn 1:4.4. Diolchwyd am y cyflwyniad. Mewn ymateb i sylw
bod angen adolygu’r cyflogau isel hefyd
i sicrhau ‘balans’, atgoffwyd yr Aelodau bod dau bwynt isaf y
cyn-strwythur tâl cenedlaethol wedi eu dileu ac oddi ar y 1af o Ebrill 2019,
£9.18ya oedd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd. Yn Nhachwedd
2019, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw bod Cyflog Byw yn cynyddu i £9.30ya fyddai’n golygu bod staff Cyngor Gwynedd,
gyda chynnydd o 2% oddi ar y 1af o Ebrill 2020, yn derbyn £9.36ya. Amlygwyd bod cynnig ffurfiol o 2% wedi ei wneud
gan y cyflogwr eisoes ond bod yr Undebau wedi
cyflwyno cais am gynnydd o 10%. Nodwyd bod trafodaethau cenedlaethol yn cael eu
cynnal er mwyn ceisio cytundeb. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag adolygiad o’r holl
gyflogau staff, adroddwyd
bod yr adolygiad tal lleol wedi
ei gynnal yn 2008 a bod y gwaith hwnnw wedi gosod
seiliau cadarn ar gyfer sicrhau
cyflog cyfartal o fewn y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag adolygiad o’r holl
gyflogau staff, adroddwyd
bod yr adolygiad diwethaf wedi ei
gynnal yn 2008. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â datganiad yn yr adroddiad y byddai’r Cyngor Llawn yn cymeradwyo unrhyw newid i becyn cyflog swydd (cyflog o £100,000 a throsodd) nodwyd nad oedd y ffigwr yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |