Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams a’r Cynghorydd Ioan Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL AR GYFER GWEITHLU'R CYNGOR PDF 115 KB I ystyried
adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 7fed 2024, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2024/25 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn
nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl
blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer
2024/25, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad
blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn
adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. Amlygodd y Prif Weithredwr nad oedd newid i’r polisi a gymeradwywyd gan
y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 ac mai ymarfer da yw cael trosolwg a chyhoeddi
amodau gwaith y staff yn flynyddol a hynny yn unol â gofynion y Ddeddf. Ategodd
Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol bod trafodaethau a
negodi blynyddol ynglyn a chodiadau cyflog blynyddol
yn digwydd tu allan i’r Cyngor - Prif
Swyddogion yn cael eu pennu gan y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif
Swyddogion a’r Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gweithlu Llywodraeth Leol yn
pennu cyflogau o dan lefel prif swyddogion.
Cafwyd cytundeb ym mis Mai 2023 ar gyfer prif swyddogion a chytundeb
ddechrau Tachwedd 2023 ar gyfer staff sydd yn gweithio o dan lefel prif
swyddogion. Nid yw trafodaethau ar gyfer 2024/ 25 wedi dechrau. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd trafodaethau ynglŷn â chodiadau
cyflog yn digwydd cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd / gosod y gyllideb,
nodwyd bod cyflogwyr yn amlwg yn ceisio derbyn y cynnig terfynol erbyn mis
Ionawr fel bod modd datrys y cynnydd erbyn dechrau’r flwyddyn gyllidol
(Ebrill), ond bod yr Undebau efallai yn
rhoi pwysau ychwanegol ar y cyflogwyr drwy gyflwyno eu hawliad cyflog yn
hwyrach yn y flwyddyn newydd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng colofn ‘wedi eu
herio’ a ‘heb eu herio’ yng nghyd-destun Cynllun Taliadau Etholiadau, nodwyd
bod ‘wedi eu herio’ yn cyfeirio at gystadleuaeth o fewn ward tra bod ‘heb eu
herio’ yn cyfeirio at ward lle na fu cystadleuaeth. Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y Datganiad i’r
Cyngor ei fabwysiadu ar gyfer 2024/25 PENDERFYNWYD
Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 7fed 2024, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2024/25 |