Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Trevor Edwards a Hefin
Underwood. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Gethin Glyn Williams
fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Premiwm Treth Cyngor ar Gartrefi
Gwag Hir Dymor ac Ail Gartrefi oherwydd bod aelodau agos o’i deulu yn berchen
ar dai gwyliau. ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant
sy’n rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir
eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2016 fel rhai cywir. (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16
Mehefin, 2016 fel rhai cywir. |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 PDF 322 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd yn rhoi trosolwg o berfformiad y
Cyngor hyd yma yn 2015/16 yn y meysydd Cyngor Effeithiol ac Effeithlon a
Chynllunio Ariannol, yn ogystal â’r Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol. Gwahoddwyd y tri Aelod Cabinet perthnasol i ymhelaethu yn unigol ar y
gwahanol brosiectau sy’n rhan o’u portffolio, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Dylid cael rhagor o wybodaeth gan yr Aelod Cabinet
Plant, Pobl Ifanc a Hamdden ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd o safbwynt
ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc (os o gwbl). ·
Argymhellir bod y Tîm Ymgysylltu yn ystyried
defnyddio dulliau gwahanol o ymgysylltu yn hytrach na defnyddio’r un bobl
drwy’r amser. ·
Edrycha’r craffwyr ymlaen at y peilot gyda’r
trefniadau craffu perfformiad newydd. ·
Awgrymir efallai bod lle i ofyn am adroddiad
cynnydd ar EDRMS, h.y. o safbwynt oes mwy o rannu gwybodaeth, rhyddhau gofod
rhag dyblygu a gwireddu arbedion ariannol. |
|
ADRODDIAD AR GYNNYDD Y CYNLLUN STRATEGOL CADW'R BUDD YN LLEOL PDF 403 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Craffu Corfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Caffael Corfforaethol ar gynnydd y
Cynllun Strategol Cadw’r Budd yn Lleol yn dilyn cais gan y pwyllgor hwn i
dderbyn diweddariad ar gynnydd mewnosod trefniadau newydd o gaffael. Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i ddweud gair ar y cychwyn cyn i’r pwyllgor
ystyried yr adroddiad fesul is-bennawd, sef:- A. Rheolaeth Categori – Categori Pobl B. Rheolaeth Categori ar draws y Cyngor C. Cadw’r Budd yn Lleol Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau pellach gan yr aelodau. Yn
ystod y drafodaeth:- ·
Nodwyd
bod lle i godi ymwybyddiaeth gydag asiantaethau eraill o’r gwaith sy’n mynd
ymlaen o ran taliadau uniongyrchol fel eu bod yn gallu cynorthwyo (e.e. Age
Cymru). ·
Nodwyd bod y craffwyr yn cefnogi ac yn argymell fod
angen adeiladu ar sylwadau’r Brifysgol i gadw ac adeiladu perthynas gyda
chwmnïau sydd heb fod yn llwyddiannus yn tendro er mwyn iddynt ddysgu gwersi a gallu
paratoi yn well i’r dyfodol. ·
Gwerthfawrogwyd
y gwaith sy’n cael ei wneud gyda ‘chwmnïau mawr’ i geisio gweld beth yw’r
posibiliadau o ‘is-gontractio’ i gwmnïau llai yn lleol gan fod hyn yn ffordd o
gyflogi’n lleol gyda’r cwmnïau mawr yn cymryd y risg ariannol. Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Er bod y cyfrifoldebau wedi eu rhannu ar draws y
Cyngor ym maes rheolaeth categori a phawb wedi ‘prynu i mewn’ i’r egwyddor yma,
mae angen craffu ymhellach ymhen tua 6-9 mis i weld oes yna gymryd cyfrifoldeb
o ddifri’ wrth weithredu. ·
Cwestiynir a oes digon o baratoi rhag-blaen gyda
chwmnïau lleol, ac a yw cwmnïau lleol yn cael digon o amser i baratoi. Yn wyneb hynny, mae angen cadw golwg ar y
sefyllfa er mwyn gweld a oes yna raglen contractau fyw yn cael ei chynnal, ei
diweddaru a’i rhannu. Byddai hyn eto yn
rhywbeth i’w adolygu ymhen 6-9 mis o sefydlu’r timau rheolaeth categori newydd. ·
Gwerthfawrogir bod rheolaeth categori am fod yn
gwella ansawdd y gwaith i ddod a bod hynny’n cael ei glymu i mewn i gontractau
i’r dyfodol gan fod mwy o arbenigedd ysgrifennu contractau o fewn y
Cyngor. Fodd bynnag, mae angen cadw
llygaid ar yr hyn sy’n digwydd o ddifri’ o ran hyn er mwyn gweld a yw’r ansawdd
ar lawr gwlad yno. Yn benodol, dylid holi
ymhen amser rhesymol a welwyd lleihad yn y nifer o gontractau lle y cafwyd
problemau y bu’n rhaid eu datrys oherwydd bod y trefniadau tendro yn wan. |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIR DYMOR AC AIL GARTREFI PDF 502 KB Ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoi’r cyfle i’r pwyllgor ystyried y buddion
a’r risgiau o godi premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hir dymor ac ail
gartrefi. Eglurwyd
gan fod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau’n agored tan 4 Tachwedd, ei bod
felly’n anodd iawn craffu’r mater yn llawn yn y cyfarfod hwn. Gan hynny, trefnwyd i graffu’r mater
ymhellach ar 21 Tachwedd, boed hynny ar ffurf Gweithdy Craffu neu gyfarfod
arbennig o’r pwyllgor. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Argymhellwyd bod y Cabinet angen ystyried sut orau
i ddefnyddio’r arian ychwanegol fydd yn cael ei gasglu os yw premiwm yn cael ei
godi. Derbynnir na ddylid clymu dwylo’r
Cyngor newydd a bod angen i’r broses ddemocrataidd ddigwydd gyda’r Cyngor
newydd, yn arbennig yn wyneb y ffaith nad ydym yn gwybod beth fydd sefyllfa ariannol
y Cyngor erbyn 2017/18, ond dylid o leiaf ystyried neilltuo peth o’r arian ar
gyfer:- o
Cynorthwyo perchnogion tai gwag i atgyweirio eiddo
er mwyn ei ddychwelyd i ddefnydd fel preswylfa. o
Ystyried buddsoddi mewn swyddi er mwyn sicrhau
incwm treth i’r Cyngor trwy gryfhau trefniadau arolygu’r Cyngor ar gyfer gwirio
dilysrwydd datganiadau gan berchnogion eiddo nad yw bellach yn ail gartref neu
yn wag. ·
Nodwyd y dylid ystyried codi’r premiwm yn raddol
fesul blwyddyn (e.e. 25% ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2, ayb) fel nad yw’n
ormod o ‘sioc’ ac fel bod nifer llai yn ystyried symud drosodd i’r dreth
fusnes. ·
Mynegwyd y farn na ddylid mynd yn rhy uchel o ran
canran, rhag ofn gwthio gormod drosodd i’r gyfundrefn dreth fusnes, ac fel bod
cyfle yn y flwyddyn / blynyddoedd cyntaf i gael gweld beth yw’r effaith mewn
awdurdodau eraill sydd eisoes wedi cyflwyno premiwm, ac addasu wrth fynd
ymlaen. ·
I’r gwrthwyneb, awgrymwyd y dylid codi premiwm uwch
o’r cychwyn gan fod ‘digolledu’ am fod os oes rhai yn symud i’r gyfundrefn
trethi annomestig. PENDERFYNWYD ail-ymgynnull y Grŵp
Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi ar fore’r 21ain o Dachwedd i graffu’r
mater yn llawn yn sgil derbyn canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyno
argymhellion i’r Cabinet ar yr 22ain o Dachwedd. |