Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Trevor Edwards a Hefin Underwood.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Gethin Glyn Williams fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Premiwm Treth Cyngor ar Gartrefi Gwag Hir Dymor ac Ail Gartrefi oherwydd bod aelodau agos o’i deulu yn berchen ar dai gwyliau.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2016 fel rhai cywir.  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2016 fel rhai cywir.

 

5.

TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 322 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd yn rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor hyd yma yn 2015/16 yn y meysydd Cyngor Effeithiol ac Effeithlon a Chynllunio Ariannol, yn ogystal â’r Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol.

 

Gwahoddwyd y tri Aelod Cabinet perthnasol i ymhelaethu yn unigol ar y gwahanol brosiectau sy’n rhan o’u portffolio, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·          Dylid cael rhagor o wybodaeth gan yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd o safbwynt ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc (os o gwbl).

·          Argymhellir bod y Tîm Ymgysylltu yn ystyried defnyddio dulliau gwahanol o ymgysylltu yn hytrach na defnyddio’r un bobl drwy’r amser.

·          Edrycha’r craffwyr ymlaen at y peilot gyda’r trefniadau craffu perfformiad newydd.

·          Awgrymir efallai bod lle i ofyn am adroddiad cynnydd ar EDRMS, h.y. o safbwynt oes mwy o rannu gwybodaeth, rhyddhau gofod rhag dyblygu a gwireddu arbedion ariannol.

 

6.

ADRODDIAD AR GYNNYDD Y CYNLLUN STRATEGOL CADW'R BUDD YN LLEOL pdf eicon PDF 403 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Craffu Corfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Caffael Corfforaethol ar gynnydd y Cynllun Strategol Cadw’r Budd yn Lleol yn dilyn cais gan y pwyllgor hwn i dderbyn diweddariad ar gynnydd mewnosod trefniadau newydd o gaffael.

 

Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i ddweud gair ar y cychwyn cyn i’r pwyllgor ystyried yr adroddiad fesul is-bennawd, sef:-

 

A. Rheolaeth Categori – Categori Pobl

B. Rheolaeth Categori ar draws y Cyngor

C. Cadw’r Budd yn Lleol

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Nodwyd bod lle i godi ymwybyddiaeth gydag asiantaethau eraill o’r gwaith sy’n mynd ymlaen o ran taliadau uniongyrchol fel eu bod yn gallu cynorthwyo (e.e. Age Cymru).

·         Nodwyd bod y craffwyr yn cefnogi ac yn argymell fod angen adeiladu ar sylwadau’r Brifysgol i gadw ac adeiladu perthynas gyda chwmnïau sydd heb fod yn llwyddiannus yn tendro er mwyn iddynt ddysgu gwersi a gallu paratoi yn well i’r dyfodol.

·         Gwerthfawrogwyd y gwaith sy’n cael ei wneud gyda ‘chwmnïau mawr’ i geisio gweld beth yw’r posibiliadau o ‘is-gontractio’ i gwmnïau llai yn lleol gan fod hyn yn ffordd o gyflogi’n lleol gyda’r cwmnïau mawr yn cymryd y risg ariannol.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·          Er bod y cyfrifoldebau wedi eu rhannu ar draws y Cyngor ym maes rheolaeth categori a phawb wedi ‘prynu i mewn’ i’r egwyddor yma, mae angen craffu ymhellach ymhen tua 6-9 mis i weld oes yna gymryd cyfrifoldeb o ddifri’ wrth weithredu.

·          Cwestiynir a oes digon o baratoi rhag-blaen gyda chwmnïau lleol, ac a yw cwmnïau lleol yn cael digon o amser i baratoi.  Yn wyneb hynny, mae angen cadw golwg ar y sefyllfa er mwyn gweld a oes yna raglen contractau fyw yn cael ei chynnal, ei diweddaru a’i rhannu.  Byddai hyn eto yn rhywbeth i’w adolygu ymhen 6-9 mis o sefydlu’r timau rheolaeth categori newydd.

·          Gwerthfawrogir bod rheolaeth categori am fod yn gwella ansawdd y gwaith i ddod a bod hynny’n cael ei glymu i mewn i gontractau i’r dyfodol gan fod mwy o arbenigedd ysgrifennu contractau o fewn y Cyngor.  Fodd bynnag, mae angen cadw llygaid ar yr hyn sy’n digwydd o ddifri’ o ran hyn er mwyn gweld a yw’r ansawdd ar lawr gwlad yno.  Yn benodol, dylid holi ymhen amser rhesymol a welwyd lleihad yn y nifer o gontractau lle y cafwyd problemau y bu’n rhaid eu datrys oherwydd bod y trefniadau tendro yn wan.

 

7.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIR DYMOR AC AIL GARTREFI pdf eicon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoi’r cyfle i’r pwyllgor ystyried y buddion a’r risgiau o godi premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hir dymor ac ail gartrefi.

 

Eglurwyd gan fod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau’n agored tan 4 Tachwedd, ei bod felly’n anodd iawn craffu’r mater yn llawn yn y cyfarfod hwn.  Gan hynny, trefnwyd i graffu’r mater ymhellach ar 21 Tachwedd, boed hynny ar ffurf Gweithdy Craffu neu gyfarfod arbennig o’r pwyllgor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth:-

 

·          Argymhellwyd bod y Cabinet angen ystyried sut orau i ddefnyddio’r arian ychwanegol fydd yn cael ei gasglu os yw premiwm yn cael ei godi.  Derbynnir na ddylid clymu dwylo’r Cyngor newydd a bod angen i’r broses ddemocrataidd ddigwydd gyda’r Cyngor newydd, yn arbennig yn wyneb y ffaith nad ydym yn gwybod beth fydd sefyllfa ariannol y Cyngor erbyn 2017/18, ond dylid o leiaf ystyried neilltuo peth o’r arian ar gyfer:-

 

o    Cynorthwyo perchnogion tai gwag i atgyweirio eiddo er mwyn ei ddychwelyd i ddefnydd fel preswylfa.

o    Ystyried buddsoddi mewn swyddi er mwyn sicrhau incwm treth i’r Cyngor trwy gryfhau trefniadau arolygu’r Cyngor ar gyfer gwirio dilysrwydd datganiadau gan berchnogion eiddo nad yw bellach yn ail gartref neu yn wag.

 

·          Nodwyd y dylid ystyried codi’r premiwm yn raddol fesul blwyddyn (e.e. 25% ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2, ayb) fel nad yw’n ormod o ‘sioc’ ac fel bod nifer llai yn ystyried symud drosodd i’r dreth fusnes.

·          Mynegwyd y farn na ddylid mynd yn rhy uchel o ran canran, rhag ofn gwthio gormod drosodd i’r gyfundrefn dreth fusnes, ac fel bod cyfle yn y flwyddyn / blynyddoedd cyntaf i gael gweld beth yw’r effaith mewn awdurdodau eraill sydd eisoes wedi cyflwyno premiwm, ac addasu wrth fynd ymlaen.

·          I’r gwrthwyneb, awgrymwyd y dylid codi premiwm uwch o’r cychwyn gan fod ‘digolledu’ am fod os oes rhai yn symud i’r gyfundrefn trethi annomestig.

 

PENDERFYNWYD ail-ymgynnull y Grŵp Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi ar fore’r 21ain o Dachwedd i graffu’r mater yn llawn yn sgil derbyn canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyno argymhellion i’r Cabinet ar yr 22ain o Dachwedd.