Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn a Michael Sol Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
11 Mehefin, 2015 fel rhai cywir
(ynghlwm). Noder – amcan yn unig yw’r amseroedd a nodir isod Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11
Mehefin, 2015 fel rhai cywir. Nododd y
Cynghorydd Lesley Day iddi ymddiheuro o’r cyfarfod oherwydd buddiant, ond nad
oedd y rheswm hwnnw wedi’i gofnodi.
Eglurwyd nad oedd yn arferol i nodi’r rhesymau dros absenoldebau yn y
cofnod a bod modd i aelodau gynnwys gwybodaeth o’r fath yn eu hadroddiadau
blynyddol. |
|
STRATEGAETH CAFFAEL CYNGOR GWYNEDD - RHEOLAETH CATEGORI A CHADW'R BUDD YN LLEOL PDF 642 KB Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies Ystyried adroddiad
y Rheolwr Caffael Corfforaethol (ynghlwm). 10.40am – 11.40am Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd bawb eu hunain, ac ar gais y
Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol esboniad byr o ystyr y term
rheolaeth categori a sut mae’n gweithio’n ymarferol. Gosododd yr Aelod
Cabinet Economi'r cyd-destun gan bwysleisio pwysigrwydd cario’r momentwm a
sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r trefniadau newydd. Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Caffael
Corfforaethol yn diweddaru’r pwyllgor ar gynnydd y Strategaeth Gaffael newydd
drwy ymateb i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas â:- ·
Chyrhaeddiad
o ran mewnosod Rheolaeth Categori ym maes Gofal ynghyd â chynnydd yn erbyn y
rhaglen waith a’r amserlen. ·
Y
gwersi a ddysgwyd o osod y Rheolaeth Categori ym maes Gofal, sy’n bwysig i’w
cadw mewn cof ar gyfer y ddau faes Rheolaeth Categori arall. ·
Y
rhaglen waith ar gyfer mewnosod Rheolaeth Categori yn y ddau faes arall. ·
Sut
mae’r drefn yn y maes Gofal yn annog gweithredu yn wahanol i’r hen drefn a beth
sydd wedi gwella o ran y drefn newydd. ·
Parodrwydd
y Rheolwyr i brynu i mewn i’r drefn Rheolaeth Categori ym maes gofal ac ar
draws y Cyngor ac unrhyw anawsterau a ganfuwyd. ·
Effaith
y trefniadau ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Cyngor. ·
Y
bwriadau o ran sicrhau cyfleoedd i ddarparwyr lleol ym maes Gofal ac ar draws y
Cyngor. ·
Y
gwaith cefndir a gyflawnwyd o ran adnabod anghenion ac adnabod y farchnad ym
maes Gofal ac ar draws y Cyngor. ·
Y
diweddaraf am y perfformiad ar wariant gyda chwmnïau ‘lleol’ yng Ngwynedd ac ar lefel Gogledd Cymru a Chymru. ·
Y
camau a gymerwyd i hybu cysylltu â chwmnïau lleol a gwerthu’n lleol. ·
Dulliau
o sicrhau buddion ehangach i’r sir drwy’r cymalau
cymdeithasol. ·
Canran
yr anfonebau sy’n cael eu talu o fewn 30 diwrnod. ·
Rôl
yr Adran Economi a Chymuned o ran y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol a beth sydd
wedi’i gyflawni hyd yma. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau pellach gan yr aelodau mewn perthynas â:- ·
Sut
mae’r system newydd yn mynd i godi ymwybyddiaeth ar draws y Cyngor o gaffael
gan sicrhau fod hynny’n digwydd mewn ffordd unedig a
strategol. ·
Yr
opsiynau o ran cynorthwyo pobl i sefydlu busnesau newydd. ·
Cyfyngiadau
deddfwriaeth a rheolau caffael Ewropeaidd. ·
Pwysigrwydd
mewnbwn yr Adran Economi a Chymuned o safbwynt cadw’r budd yn lleol a’r cyswllt
gyda chontractwyr lleol. ·
Yr
her, wrth symud i drefn ganolog, o geisio perswadio
cwmnïau bychain lleol i ymgeisio am gontractau, a hynny heb sicrwydd o unrhyw
waith ar ddiwedd y broses. ·
Hyblygrwydd
y broses gaffael a’i gallu i newid ac addasu’n gyson er mwyn adnabod anghenion
y farchnad leol. ·
Yr
her o adnabod a chreu cyfleoedd ar gyfer mentrau cymdeithasol. ·
Yr
angen i fod yn effro i effaith cyflwyno’r cyflog byw ar allu’r Cyngor i ennill
contractau. ·
Newidiadau
mewn prosesau. ·
Effaith
unrhyw doriadau yn yr Adran Economi a Chymuned ar y maes caffael gan ei fod yn
ddibynnol ar y gefnogaeth fusnes mae’n dderbyn gan yr adran. ·
Monitro
a rheoli safonau contractau. · Y diffiniad o gwmni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNNAL A CHEFNOGI'R GWEITHLU PDF 311 KB Aelod Cabinet: Y Cynghorydd
Peredur Jenkins Ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet Adnoddau (ynghlwm). 11.40am – 12.40pm Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd bawb eu hunain. Gosododd yr Aelod
Cabinet Adnoddau'r cyd-destun ac ychwanegodd y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol fod y Cyngor yn cymryd ei ddyletswydd o ofal ar unrhyw adeg o
ddifri’ ac yn gwneud popeth i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael ymysg y gweithlu. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Adnoddau yn manylu ar y ddarpariaeth ar gyfer cynnal a chefnogi staff mewn
cyfnod o dorri ar wasanaethau a newid mawr yn y ffordd mae’r gwasanaethau yn
cael eu cyflawni drwy ymateb i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas
ag:- ·
Asesiad
gorau’r Cyngor ar hyn o bryd o nifer y staff all gael eu heffeithio gan y
toriadau a’r arbedion effeithlonrwydd. ·
Strategaeth
y Cyngor ar gyfer paratoi’r gweithlu ar gyfer y toriadau a’u cefnogi yn ystod y
broses ynghyd â’r trefniadau o ran symud staff o fewn
y Cyngor a dod o hyd i gyfleoedd eraill o fewn y Cyngor. ·
Cefnogaeth
emosiynol i staff sy’n wynebu colli eu swyddi. ·
Trefniadau
gydag asiantaethau eraill ar gyfer adnabod sgiliau staff ac adleoli staff gydag
asiantaethau eraill. ·
Unrhyw
waith sy’n mynd rhagddo, neu gynlluniau ar y gweill, i gefnogi staff cyfredol i
fod yn sefydlu eu busnesau eu hunain er mwyn ateb y gofynion am ddarpariaeth
newydd / gwahanol. ·
Unrhyw
asesiad a gynhaliwyd ynghylch straen ar y staff sy’n weddill, a chasgliadau
hynny. ·
Unrhyw
gamau a gymerwyd ar gyfer dechrau paratoi i gefnogi staff ar gyfer yr ad-drefnu
nesaf. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau pellach gan yr aelodau mewn perthynas â:- ·
Phryder
y gallai swyddi ddiflannu cyn i gyfleoedd eraill godi. ·
Yr angen i ragweld cyfleoedd tymor hwy a chyfleoedd
i ail-hyfforddi. ·
Y
ffaith nad yw’r sefyllfa am wella ac mai’r gwasanaethau lleol sy’n cael eu taro
bob tro. ·
Bod
y Cyngor yn cymryd y gwaith o gefnogi a chynnal o ddifri’ a’i fod eisoes wedi
cynorthwyo unigolion i barhau mewn cyflogaeth. ·
Yr
angen i gefnogi’r staff fydd ar ôl yn wyneb y pwysau cynyddol fydd arnynt a’r
ffaith y gall fod yn anodd i’r staff hynny gael yr amser i fynychu sesiynau
hyfforddi. ·
Pwysigrwydd
y cyswllt gyda’r Adran Economi a Chymuned o safbwynt cynghori pobl sy’n gadael
gwasanaeth y Cyngor ac yn awyddus i sefydlu eu busnes eu hunain, ac ati. ·
Y
deialog ymlaen llaw cyn ystyried unrhyw ddiswyddiadau. ·
Anhawster
adleoli staff mewn rhai achosion oherwydd natur wledig y sir. ·
Parhad
y drefn apêl a’r niferoedd achosion tebygol. Yn ei sylwadau cloi, nododd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol fod darpariaeth y Cyngor yn y maes hybu iechyd a lles
ei staff wedi ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Dyfarnwyd y Cyngor fel sefydliad lefel aur o
ran y safon iechyd corfforaethol ac yn Ebrill y llynedd, gwahoddwyd y Cyngor i
roi cyflwyniad ar ei waith yn y maes mewn cynhadledd genedlaethol yn Llundain. Crynhodd y Cadeirydd brif negeseuon y
drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Derbyn
yr adroddiad a diolch am y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig. · Monitro’r sefyllfa wrth i effaith y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |