Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr: Lesley Day, Trevor Edwards, June Marshall,
Michael Sol Owen, Gethin Glyn Williams ac R.H.Wyn
Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3
Rhagfyr, 2015 fel rhai cywir. |
|
BIL DRAFFT LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) PDF 352 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm). 2.30pm – 3.30pm. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd yn gwahodd y pwyllgor i graffu
ymlaen llaw ymateb tebygol y Cyngor i’r Bil Llywodraeth Leol drafft cyn iddo
gael ei gymeradwyo’n ffurfiol yn y Cabinet ar 16 Chwefror. Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun
ac ystyriodd y pwyllgor yr ymdrech gyntaf ar sylwadau a gynhwyswyd fel rhan o’r
adroddiad. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Rhan 1 ·
Argymhellir bod y Cabinet yn mynnu
tystiolaeth am yr arbedion ariannol sydd i ddeillio o’r ymuno gan Lywodraeth Cymru,
hynny yw, bod y Cyngor angen achos busnes am yr ymuno. Yn ogystal, dylid herio a cheisio sicrwydd
ynglŷn â phwy sydd i ariannu’r “costau ad-drefnu” yn y cyfnod hwn o gyni
ariannol. ·
Dymuna’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol argymell 3 Cyngor ar gyfer Gogledd
Cymru. ‘Roedd y farn
yn seiliedig ar ystyried ffactorau ieithyddol, anghenion economaidd, yn ogystal
â threfniadau gweinyddol / daearyddol.
Datganwyd hefyd bod y polisi iaith (mewnol) wedi cryfhau’r polisi iaith
ehangach o fewn y sir ac y byddai goblygiadau i hyn gyda’r ymuno. Rhan 2 ·
Rhaid edrych ar drefniadau Llywodraeth leol ar y cyd ag edrych ar
drefniadau ehangach (o ran lleol, Cynulliad a Llywodraeth Prydain) i sicrhau
asiad synhwyrol. ·
Dymuna’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol nodi eu bod yn cyd-weld gyda’r
egwyddor gyffredinol o “bwer cyffredinol”, ond rhaid
newid diwylliant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth leol – dim micro-reoli,
ond yn hytrach canolbwyntio ar y deilliannau. Rhannau 3-7 ·
Cydweld gyda’r sylwadau drafft yn yr adroddiad. Cyffredinol ·
Dymuna’r Pwyllgor Craffu nodi eu bod hefyd o’r farn
y dylid cymryd y cyfle i nodi neges gyffredinol ein bod yn erbyn yr egwyddor
bod cyfrifoldeb gan awdurdod lleol dros gyrff eraill, e.e. hyfforddiant
cynghorau cymuned, ayb. Diolchwyd i’r Arweinydd a’r swyddogion am y
drafodaeth. |
|
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL GWYNEDD 2016-20 PDF 221 KB Ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet – Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb (ynghlwm). 3.30pm – 4.00pm Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyn ei
gyflwyno’n derfynol i’r Cabinet ar 15 Mawrth, 2016 i’w fabwysiadu. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd,
Amddifadedd a Chydraddoldeb yn gosod y cyd-destun ac yn ymateb i gwestiynau a
ddarparwyd ymlaen llaw mewn perthynas â:- ·
Sail y 4 amcan a ddewiswyd. ·
Digonolrwydd yr adnoddau i gyflawni’r prosiectau. ·
Trefniadau codi ymwybyddiaeth swyddogion ynglŷn â’r
cynllun a’i gynnwys, a dyletswyddau pob swyddog. ·
Cynlluniau i godi ymwybyddiaeth aelodau etholedig o’r cynllun a rôl
aelodau ym maes cydraddoldeb. ·
Y drefn ar gyfer sicrhau hyfforddiant cydraddoldeb i aelodau a
swyddogion a nifer yr aelodau sydd wedi bod ar yr hyfforddiant cydraddoldeb hyd
yma. ·
Yr hyn fydd yn wahanol mewn blwyddyn o fod wedi mabwysiadu’r cynllun
hwn. Ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a
Pherfformiad i gwestiynau/sylwadau pellach gan yr aelodau. Crynhodd y Cadeirydd brif neges y drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Cydnabod y gwaith da ar gyfer llunio’r cynllun. ·
Yr angen i fonitro cynnydd yn erbyn deilliannau’r prosiectau. Diolchwyd
i’r Aelod Cabinet a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad am y drafodaeth. |
|
Derbyn
cyflwyniad ar y Strategaeth TG
(strategaeth ddrafft ynghlwm). 4.00pm – 4.30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – y Strategaeth TG ddrafft a derbyniwyd
cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Technoleg
Gwybodaeth a Thrawsnewid ar gynnwys y strategaeth, gan fanylu ar:- ·
Y broses o adolygu’r strategaeth ·
Ystyriaethau’r Strategaeth TG newydd ·
Beth sydd ddim yn y Strategaeth newydd ·
Beth sydd yn y Strategaeth newydd ·
Themâu ·
Egwyddorion Ymatebodd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid i
gwestiynau/sylwadau gan yr aelodau. Dosbarthodd y Pennaeth Cyllid bapur yn nodi bod adroddiad a baratowyd
gan KMPG ar gostau “gweinyddol” cynghorau Cymru yn egluro bod cost TG yng Ngwynedd yn parhau yn is na chyfartaledd Cymru a bod y
Cyngor hwn wedi symud o’r 13eg i’r 14eg safle drwy Gymru. Nododd fod ffigurau bodlonrwydd cwsmer yn
eithaf da, ond bod angen edrych ar yr holl agweddau i sicrhau gwerth am arian
ac effeithlonrwydd. Crynhodd y Cadeirydd brif negeseuon y drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Argymhellir y dylid sicrhau eglurder am lwyddiant y strategaeth
flaenorol ac esbonio hynny gan ei ddefnyddio fel sail i’r strategaeth
newydd. Bydd hyn yn ein galluogi i fesur
cynnydd. Argymhellir bod angen i’r
gwasanaeth adnabod ac asesu lle mae’r Cyngor wedi cyrraedd, pa wersi a ddysgwyd
hyd yma, gan ymgorffori’r wybodaeth fel sail i’r strategaeth newydd. ·
Mae angen i’r Strategaeth TG fod yn hyblyg i ymateb i ofynion y cwsmer
(pan fo hynny’n glir) a bod mor hyblyg â phosib’ o
fewn cyfyngiadau diogelwch. ·
Dylid ystyried ymyriad Ffordd Gwynedd yn y Gwasanaeth TG yn fuan. Fe all yr ymyrraeth ryddhau adnoddau a allai gael eu defnyddio yn y mannau sy’n cael eu crybwyll
yn y Strategaeth. Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth. |