Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Lesley Day

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2016 fel rhai cywir.

.

 

5.

TREFN GWYNION Y CYNGOR pdf eicon PDF 141 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb  (ynghlwm).

 

2.30pm – 3.00pm

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet (Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb) yn manylu ar Drefn Gwynion y Cyngor ac yn ymateb i gwestiynau a ddarparwyd ymlaen llaw mewn perthynas â:-

 

·         Sut mae’r drefn newydd yn gwahaniaethu o’r hyn oedd yn digwydd yn y gorffennol a sut mae o fudd i drigolion Gwynedd.

·         Y canlyniadau i drigolion Gwynedd a thystiolaeth i brofi hynny.

·         Y berthynas gyda Galw Gwynedd a Siopau Gwynedd fel y pwyntiau cyswllt cyntaf

·         Ymateb y gwasanaethau i’r drefn newydd.

·         Hyfforddiant i staff ar y drefn newydd a sut i ddelio â chwynion.

·         Y gwersi a ddysgwyd dros y flwyddyn ddiwethaf a sut maent wedi eu cyfathrebu.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif neges y drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod pryder ynglŷn â chapasiti Galw Gwynedd i ateb galwadau.

·         Argymhellid y dylid rhannu gwybodaeth ynglŷn ag ymchwiliadau ffurfiol gydag aelodau lleol os gwelir bod patrwm o gwynion yn datblygu o fewn ardal benodol.

·         Gwerthfawrogir y ffaith bod yr adnodd cefnogol i gydlynu’r drefn newydd yn gweithredu’n annibynnol ac yn edrych ar y sefyllfa o safbwynt y cwsmer, gan ymateb yn amserol i gwynion.

·         Bod angen sicrhau cysondeb a dysgu gwersi o drefn gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

          Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth gan nodi o bosib’ y gofynnid iddynt ddod yn ôl gerbron y pwyllgor ymhen blwyddyn.

 

 

6.

Y BUDD I WYNEDD O GADW'R DRETH FUSNES pdf eicon PDF 730 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau a’r Aelod Cabinet Economi  (ynghlwm).

 

3.00pm – 3.45pm

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd:-

 

·         Mewn trafodaeth yn y Cyngor llawn ym mis Hydref 2015, y bu i aelod dynnu sylw’r Cyngor fod y Llywodraeth ganolog yn Lloegr wedi penderfynu bod cynghorau lleol Lloegr am gael cadw’r dreth busnes i gyd er mwyn ei ail fuddsoddi yn lleol, ond nad dyma’r sefyllfa yng Nghymru.

·         Mewn ymateb i gynnig yr aelod i gysylltu gyda Llywodraeth Cymru i ofyn am yr un amodau yng Nghymru, awgrymodd y Prif Weithredwr fod gwaith craffu manwl yn cael ei wneud cyn hynny, er mwyn sicrhau a fyddai’r un drefn yng Nghymru yn debygol o arwain at fuddiannau, colledion, cyfleoedd neu beryglon i Wynedd.

 

          Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu ac ystyried buddion a risgiau cadw’r trethi busnes yn lleol ac yn ymateb i gwestiynau a ddarparwyd ymlaen llaw mewn perthynas â:-

 

·         Chynnwys datganiad y Canghellor.

·         Yr effaith ar awdurdodau lleol yn Lloegr.

·         Y goblygiadau i Wynedd petai’r un amodau ar gael yng Nghymru.

·         Y tebygolrwydd i Wynedd gael budd, colled, cyfle neu berygl o gadw’r dreth busnes a gesglir yn lleol.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwr Refeniw a Risg ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif neges y drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Llongyfarch yr Aelodau Cabinet a’r swyddogion ar lunio adroddiad clir a dealladwy ar fater hynod dechnegol.

·         Wedi edrych ar y cyfleoedd a’r risgiau, nid oedd y pwyllgor wedi’i argyhoeddi ar hyn o bryd y byddai cyflwyno’r un amodau yng Nghymru yn dod ag unrhyw fudd i Wynedd, ond yn hytrach, ‘roedd o’r farn y byddai’n creu risgiau sylweddol.

·         Ei bod yn gynamserol i lobïo’r Cynulliad ar hyn o bryd.

·         Pe cyfyd mwy o fanylion am ddatblygiadau tebyg i Gymru, argymhellir bod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn gwneud gwaith craffu pellach ar y mater bryd hynny.

 

Diolchwyd i’r Aelodau Cabinet a’r swyddogion am y drafodaeth.