Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Drwy Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679 868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Adfyfyrio tawel neu weddi. |
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd
i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADIERYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cyng. Dewi Roberts, Heledd Jones (NEU), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng
Nghymru), Edward Pari-Jones (Dyneiddwyr), Garem Jackson (Pennaeth yr Adran
Addysg) a Dashu (Bwdïaeth) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar
gyfer ystyriaeth Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 219 KB Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019 fel rhai cywir. Cofnod: Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod
o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Tachwedd 2019 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion o’r cofnodion. |
|
YMATEB I YMGYNGHORIAD CWRICWLWM I GYMRU: CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESAU PDF 262 KB I ystyried ymateb i’r Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Cofnod: Nodwyd
nad oedd cyfle wedi bod i gyfarfod i drafod yr ymateb a bod ymateb drafft wedi
ei rannu gydag Aelodau ar gyfer sylwadau.
Ni dderbyniwyd sylwadau pellach. Cytunwyd
i dderbyn yr adroddiad. |
|
MATERION YN YMWNEUD A CYSAGAU PDF 437 KB (a) Llythyr i Athrawon Addysg Grefyddol (b) Linc i agenda CYSAGAU 20 Hydref 2020
– http://wasacre.org.uk/cym-meetings.html Cofnod: Cyfeiriwyd
at y papurau a dderbyniwyd ar gyfer cyfarfod diwethaf y CYSAGau. Cyfeiriwyd yn benodol at y llythyr ‘Cyngor i
Ysgolion’ ynglŷn â chyd-addoli yn ystod y pandemig
a chafwyd cadarnhad fod y llythyr wedi cyrraedd yr ysgolion. Cytunwyd
i dderbyn yr adroddiad |
|
PRODFIADAU DISGYBLION AC ATHRAWON YN YSTOD Y CYFNOD GLO I dderbyn
adroddiad llafar. Cofnod: Rhannodd
MA, CD, EBR a TRJ eu profiadau yn ystod y cyfnod heriol, ble nodwyd mai prin
iawn oedd
yr amser ar gyfer paratoi. Cyfeiriwyd
at y sialensiau fel Materion
TG - nifer o’r disgyblion heb gyfrifiaduron a/neu gyswllt gwael i'r we a
sgiliau rhai teuluoedd
ddim cystal ynghyd â phrinder cyfarpar Lles
- nodwyd y pwysau i gadw cyswllt gyda disgyblion yn ystod y cyfnod clo a’r
angen am gefnogaeth
i’r plant wrth iddynt ddod yn ôl i’r ysgol, ond bod y plant yn gwerthfawrogi
bod yn ôl yn yr
ysgol a gweld eu ffrindiau. Nododd
CYSAG ei werthfawrogiad o ymdrechion yr athrawon a’r ffaith bod Addysg
Grefyddol i weld
yn cael yr un sylw yn y cyfnod clo, gan nodi bod yr athrawon wedi gwneud yn dda
mewn cyfnod
anodd. Nododd
y Cadeirydd fod yr uchod yn ddarlun calonogol iawn, gan gyfeirio at y pwysau ar
athrawon
oedd yn dysgu o bell ac wyneb yn wyneb fyddai yn siŵr o fod yn gryn
straen. Cytunwyd
i dderbyn yr adroddiad |
|
YSTYRIED SEFYLLFA ARHOLIADAU TGAU A LEFEL A I dderbyn adroddiad llafar. Cofnod: Yn dilyn datganiad
y Gweinidog Addysg ar 10/11/20 am yr uchod, nodwyd pryder bod y datganiad yn
codi llawer o gwestiynau a phryderon.
Cadarnhawyd, er nad oes disgwyl i ddisgyblion eistedd arholiadau yn
20/21, bod y disgyblion wedi colli llawer o amser, a dal angen cwblhau tair
uned o waith. O ran y drefn, nodwyd bod
y profion i gael eu hasesu yn allanol, ond bod angen cael y manylder dipyn cyn
y Nadolig, gan fod amser yn prysur fynd heibio.
Nodwyd, er gwybodaeth, bod y rhan fwyaf o bynciau yn yr un cwch. Derbyniwyd yr
adroddiad a chytunwyd 1. Ceisio cael yr holl CYSAGau
i gysylltu gyda y CBAC i ofn am eglurder cyn y Nadolig 2. Cysylltu gyda CYSAGau
eraill, a deilydd portffolio Addysg Cyngor Gwynedd a
Siân Gwenllïan i fynegi pryder am y sefyllfa. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-21 I ddebyn diweddariad ar lafar am Adroddiad
Blynyddol CYSAG. Cofnod: Cadarnhawyd ei bod yn ofyn statudol i greu
Adroddiad Blynyddol, ac atgoffwyd CYSAG mai Bethan James oedd wedi ei wneud yn
flaenorol, ond bod arbenigedd Bethan wedi ei golli oddi ar CYSAG erbyn
hyn. Ymddiheurodd y Cadeirydd nad oedd y
gwaith wedi ei wneud ar gyfer 2018-19 na 2019-20. Cytunwyd y byddai BMH yn trafod o fewn yr Adran,
ac yna yn cysylltu gyda Bethan James ar ran CYSAG Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad. |
|
DYFODOL ADDYSG GREFYDDOL YM MHRIFYSGOL BANGOR A'R EFFAITH AR Y DDISGYBLAETH YN YSGOLION GWYNEDD I dderbyn adroddiad ar lafar. Cofnod: Nodwyd mai ysgogiad yr eitem oedd y pryder
ynglŷn â’r ail-strwythuro ym Mhrifysgol Bangor a’r pryder am ddyfodol y
pwnc. Nodwyd ei bod yn ymddangos bod
unig aelod staff Addysg Grefyddol yr Adran yn gadael ddiwedd y flwyddyn er bod
traddodiad hir o ddysgu AG yno. Nodwyd
ei bod yn ymddangos bod bwriad i ddod ag athrawon i mewn o ysgolion i wneud y
rôl dysgu. Cytunwyd i dderbyniwyd yr adroddiad |
|
BETH I'W DYFODOL CANOLFAN ADDYSG GREFYDDOL Y BRIFYSGOL Trafodaeth
ar y mater uchod. Cofnod: Saif Y Ganolfan ar Safle’r George ac mae ynddi
lyfrau ac arteffactau pwysig a nodwyd pryder ynglŷn â beth fydd yn digwydd
i’r casgliad hwn. Nodwyd pryder am y sefyllfa uchod a’r sgil effaith
o golli athrawon AG o ganlyniad. Derbyniwyd yr adroddiad a chytunwyd y byddai y
Cadeirydd yn : 1. Gyrru
llythyr at Brifysgol Bangor a’r Deilydd Portffolio
Addysg yn holi am eu bwriadau, gan nodi pryder CYSAG am y sefyllfa ymarfer
dysgu ac adnoddau. 2. Gan
hefyd holi am ddyfodol y cwrs TAR yn sgil yr ail-strwythuro and yn sgil hynny
dyfodol Canolfan AG Prifysgol Bangor fel adnodd. Nodwyd y byddai yn ddiddorol gwybod pa golegau
sydd yn cynnig cwrs AG Cymraeg ac yn cynnig ymarfer dysgu erbyn hyn. |
|
HUNAN ASESIAD YSGOLION PDF 764 KB Adroddiad
gan Catrin Lloyd Roberts, Pennaeth Ysgol Penisarwaun. Cofnod: Derbyniwyd yr adroddiad. Nodwyd bod y saith agwedd yn sgorio yn “dda”
a llongyfarchwyd yr ysgol. Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth i ben am
3.15 p.m. |