Lleoliad: Yn Rhithiol Drwy Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Cyfle am
weddi neu fyfyrdod tawel COFNODION: Agorwyd y cyfarfod
gyda gweddi gan Y Cynghorydd Paul Rowlinson a
chymerwyd y cyfle am fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau ymlaen llaw gan Nathan Abrams,
Cyng. Menna Baines, Sion Huws, Heledd Jones a Gwawr M Williams a derbyniwyd
ymddiheuriadau hwyr gan Bethan Jones a Naomi Wood. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 132 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir COFNODION: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf, 2022, fel rhai cywir a bu i’r Cadeirydd eu
llofnodi, ar yr amod bod y cywiriadau canlynol yn cael eu nodi : Eitem 6 – Ychwanegu “… yr ysgolion sydd yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ym Mlwyddyn 7” Eitem 6 – Dileu “Chwefror
2021” Eitem 8 –
Ail-eirio “Ychwanegwyd mwy o gynrychiolwyr o’r credoau” |
|
AELODAETH A GWAITH CYSAG Cyflwyniad
gan Aelodau CYSAG a golwg ar waith CYSAG Penderfyniad: Derbyn
y cyflwyniad i waith CYSAG. COFNODION: Cyflwynodd pawb eu hunain
a pwy yr oeddynt yn ei gynrychioli. Rhoddodd Y Cynghorydd Paul Rowlinson gyflwyniad
llafar ar waith y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg
Grefyddol (CYSAG) a Chymdeithas
Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg
Grefyddol Cymru (CCYSAGauC)
CYSAG gan gyfeirio at y Llyfryn “Felly Rydych yn Ymuno a’ch CYSAG Lleol” : Llawlyfr
i Aelodau CYSAG yng Nghymru. Nodwyd bod nifer o’r materion
sydd yn cael eu trafod yn y Llyfryn wedi eu
trafod gan CYSAG, megis Cynnal cynhadledd pob pum mlynedd Trafod y cwricwlwm newydd Maes llafur cytunedig Newid enw y pwnc Cefnogi ysgolion Danfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd CCYSAGauC Ymateb i ymgynghoriadau Ystyried sut i fonitro ysgolion Pa wahaniaeth mae CYSAG yn ei wneud? Sut all CYSAG Gwynedd wella? Diffyg arbenigedd yn y maes. PENDERFYNWYD: Derbyn
y cyflwyniad i waith CYSAG. |
|
SUT GALL CYSAG FONITRO SAFONAU O FEWN YSGOLION GWYNEDD O 2022? PDF 840 KB Papur
trafod ar ffordd bosib ymlaen Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad ac ysgrifennu at CCYSAGauC am arweiniad. COFNODION: Atgoffwyd y Pwyllgor
o’r rol fonitro
sydd gan CYSAG, a cyfeiriwyd at y pecyn oedd wedi ei
atodi, yn dangos y sefyllfa cyn 2020. Nodwyd bod dogfen yn cael ei rhannu i
pob Ysgol oedd yn cael Arolwg ESTYN i’w chwblhau, ac yna ei chyflwyno
i CYSAG, ond nodwyd bod y cyd-destun wedi newid erbyn
hyn. Nodwyd y pryder
nad yw mor
hawdd cael gwybodaeth erbyn hyn, bod ESTYN ddim yn graddoli ysgolion nac yn eu cymharu,
ond yn rhoi fwy o naratif yn eu hadroddiadau, ac o ganlyniad bod y ffordd bresennol o fonitro ddim
yn addas erbyn hyn. Yn ychwanegol, nodwyd y nod i leihau y baich
gweinyddol ar athrawon. Nodwyd y pryder
am y diffyg cefnogaeth arbenigol i CYSAG yn dilyn newidiadau gan GwE, ond bu
i’r Pennaeth Addysg gadarnhau bod cyfarfod ar y gweill ganddo
fyddai, o bosib, yn cynnig datrysiad. Teimlwyd efallai
na aros a gweld fyddai mwyaf
addas ar hyn o bryd, gan
ein bod yn y camau cychwynnol o gyfnod o newid. PENDERFYNWYD
derbyn
yr adroddiad ac ysgrifennu at CCYSAGauC
am arweiniad |
|
Diweddariad
ynglyn a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn i
Cwricwlwm Newydd Penderfyniad: Derbyn y diweddariad COFNODION: Cyfeiriodd Clerc CYSAG at y camau a gymerwyd
i dderbyn y maes llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn
y Cwricwlwm Newydd i Gymru, ac er na chafwyd sel bendith y Cabinet erbyn Medi 2022, bod y sel
bendith wedi ei roi erbyn hyn. PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad. |
|
GOHEBIAETH WEDI EI DDERBYN GAN Y CYSAGAU PDF 135 KB I rannu
gohebiaeth fel a ganlyn : a. Cynhadledd yr Hydref y CYSAGAU b. Manylion yr Wythnos Ryng-Ffydd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
y wybodaeth COFNODION: Cynhadledd yr Hydref y CCYSAGauC Nododd y Cynghorydd
Paul Rowlinson ei fod wedi mynychu cynhadledd
yr Hydref CCYSAGauC, ac adroddodd fel a ganlyn : Bu i’r mynychwyr dderbyn cyflwyniad ar becyn
adnoddau Blwyddyn8, ac er
bod nifer o fodiwlau yn y
broses o gael eu hasesu, eu bod yn edrych yn dda. O ran Materion Llywodraeth Cymru, nododd bod y cwestiwn wedi codi
yn dilyn diddymu yr hawl i
riant dynnu ei blentyn o wersi, ble cwestiynwyd a fyddai hyn yn creu
yr un problemau a hawl rhiant i
dynnu disgybl o wersi addysg rhyw,
ond nid oeddynt
o’r farn fod y sefyllfa yr un peth. Codwyd y mater o fonitro safonau a chadarnhawyd bod angen trafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen
i bob CYSAG baratoi Adroddiad Blynyddol a thrafodwyd fformat yr adroddiadau presennol. Manylion yr Wythnos Ryng-Ffydd Nodwyd pryder
ei bod yn ymddangos bod gweithgareddau wedi eu canslo mewn
rhai ardaloedd, ond roedd yn ymddangos
mai mewn un ardal yn unig oedd
hyn wedi digwydd. PENDERFYNWYD derbyn yr
ohebiaeth. Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 4.30 p.m. CADEIRYDD |