Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr Gwyn Lewis. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. Judith Humphreys, Cynrig
Hughes (Yr Annibynwyr), Alwen Watkin, Heledd Jones (Undebau Athrawon) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Y Cynghorydd Dewi
Wyn Roberts fuddiant personol
yn Eitem 8 – Hunan Arfarnu Ysgolion gan ei fod
yn gwasanaethu ar Gorff Llywodraethu
Ysgol Abersoch.
Roedd o’r farn nad oedd
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu
ac ni adawodd y Siambr yn ystod |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: (Nid oedd y materion
canlynol wedi eu cynnwys ar
y rhaglen ond cytunodd y Cadeirydd i’w hystyried dan
Adan 100 (4)(b), Deddf Llywodraeth
Leol 1972). (a) Eglurodd y Cadeirydd ei fod
wedi derbyn holiadur gan ESTYN i’w gwblhau erbyn
27 Hydref 2017 ond ei fod wedi
gofyn am estyniad fel bo modd
derbyn barn aelodau CYSAG ar yr ymatebion
cyn ei anfon
ymlaen yn ddi-oed i ESTYN. Cyflwynwyd copi o’r holiadur
i’r Aelodau ac fe gytunwyd ar y diwygiadau
canlynol: (i)
Ychwanegu’r brawddegau isod i’r blychau yn
y mannau perthnasol (ac fe waned hyn gan
Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE tra yn y cyfarfod): “Hawl gan bob cynghorydd
i fod yn
aelod o Gorff Llywodraethu, ac felly mewn sefyllfa i drafod addysg grefyddol gydag athrawon a disgyblion eu hysgolion.
Mae tystiolaeth storïol yn awgrymu bod yr arlwy ar gyfer disgyblion cynradd
yn fwy cyfyng erbyn hyn, e.e. adalw stori Feiblaidd, yn hytrach na’u bod yn astudio effaith dysgeidiaethau crefyddol ar fywydau credinwyr neu’n ymgymryd â ‘phrosiect’
neu ymholiad sy’n seiliedig ar gwestiwn mawr neu sylfaenol. Sicrhau amser digonol i’r pwnc yn her i’r ysgolion cynradd. Prin yw’r cyfleoedd i adrannau AG i gydweithio gydag adrannau eraill ar
faterion sy’n gorgyffwrdd”. (ii)
Diddymu’r frawddeg a oedd yn
cyfeirio at absenoldeb staff gan nad oedd yn berthnasol. Penderfynwyd: Cymeradwyo’r holiadur a gofyn i’r Swyddog
Addysg Ardal Cynorthwyol anfon yr holiadur i
ESTYN. (b) Adroddodd y Cadeirydd ei fod
wedi derbyn cais gan Ddyneiddiwr
i wasanaethu ar CYSAG Gwynedd fel aelod gyda phleidlais. Yn y cyfamser roedd y Cadeirydd wedi cyfeirio’r cais i Swyddog Monitro'r
Cyngor er mwyn sicrhau y byddir yn cydymffurfio
â chyfansoddiad CYSAG. Adroddodd Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE bod canllawiau i’w dilyn ar gyfer
ffurfio CYSAG ac ym Mhwyllgor Addysg ym 1996 cytunwyd i sefydlu grwpiau
fel a ganlyn: Grŵp A -
Cristnogion a Chrefyddau Eraill Grŵp B - Athrawon Grŵp C - Yr Awdurdod Addysg Grŵp CH - Aelodau
Cyfetholedig Esboniwyd ymhellach bod Deddf 1993 sy’n diwygio Deddf
1944 a Deddf 1988 yn ei gwneud yn
ofynnol i’r AALl sicrhau bod cyfansoddiad pwyllgor A cynhadledd maes llafur cytûn a grŵp A CYSAG (enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill ac enwadau’r crefyddau hynny) gynrychioli’r gymuned leol. Mae’n ofynnol
i nifer y cynrychiolwyr o bob enwad a chrefydd adlewyrchu’n fras gryfder cyfrannol
yr enwad hwnnw neu’r grefydd
honno yn yr ardal leol,
cyn belled ag y bo hynny’n gyson â chyflawni’n effeithlon swyddogaethau’r pwyllgor neu’r grŵp. Gan hynny, mae’r
darpariaethau statudol yn cydnabod y bydd
achlysuron pan fydd buddiannau effeithlonrwydd yn drech na’r
gofyniad i sicrhau cynrychiolaeth uniongyrchol gyfrannol. Penderfynwyd: Nodi’r uchod a disgwyl ymateb gan y Swyddog Monitro. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017 fel rhai cywir yn
ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol: (a) Yn y Gymraeg: 7 (c) - “fel yn y sector cynradd…” yn lle “fel yn
y sector …” yn
y 3ydd paragraff 8 (b) (b) “7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsam” yn lle
“23 Mehefin 2016 yn Rhyl” (b) Yn y Saesneg: Yn yr ymddiheuriadau – “Presbyterian
Church of Wales” yn lle
“Union of Welsh Baptists” 6 (b) – Ychwanegu “Talysarn” yn y paragraff 1af “Agreed” yn lle “Cytûn”
yn yr ail baragraff “was not fully
meeting” yn lle “was fully
meeting” yn y 3ydd paragraff 7 (a) “illness and confusion” yn
lle “confusion and error” 8 (b) (b) “7 July 2017 in Wrexham” yn
lle “23 June 2016 in Rhyl” |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG GWYNEDD 2016/17 PDF 672 KB I ystyried adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2016/17 cyn cyhoeddi copi terfynol. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Gwynedd am y flwyddyn
academaidd 2016-17, er cymeradwyaeth yr aelodau, cyn cyhoeddi’r
adroddiad terfynol. Adroddwyd gan yr Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant GwE, bod yr adroddiad yn
grynhoad o drafodaethau
CYSAG yn ystod y flwyddyn flaenorol o Fedi 2016 hyd Awst 2017, a’i fod gerbron
yr aelodau , er mwyn rhoi
cyfle iddynt fynegi barn ar yr adroddiad drafft. Eglurwyd mai swyddogaeth CYSAG oedd cynghori’r Awdurdod Addysg ar faterion yn
ymwneud â darparu Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd,
a’r Maes Llafur Cytûn ar
gyfer Addysg Grefyddol. Tywyswyd yr aelodau drwy’r
adroddiad gan gyfeirio ar y dulliau
a ddefnyddir i roi sylw cyson
i fonitro safonau Addysg Grefyddol, trwy graffu hunan arfarniadau
ysgolion ac fe welwyd bod ansawdd yr hunan arfarniadau
wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf; adroddiadau arolygu ESTYN ynghyd â monitro canlyniadau arholiadau. Tynnwyd sylw at gynllun gweithredu CYSAG Gwynedd a oedd yn amlinellu 4 blaenoriaeth. Cytunwyd i’r dyfodol i
ysgolion gyflwyno eu hunan arfarniadau
yn y tymor yn dilyn derbyn
arolygiad. Gwnaed fân ddiwygiadau i’r adroddiad drafft
tra yn y cyfarfod ac addawodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE y byddai’n gwirio’r ddogfen cyn cyflwyno’r
adroddiad terfynol. Diolchwyd i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE am baratoi’r Adroddiad Blynyddol Drafft. Penderfynwyd: Derbyn gyda diolch Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG ar gyfer 2016-17, a gofyn i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE wneud unrhyw gywiriadau a
newidiadau golygyddol a gytunwyd yn y cyfarfod cyn cyhoeddi’r adroddiad
terfynol. |
|
I dderbyn Canllawiau Atodol gan ESTYN a Chymdeithas CYSAGau Cymru ar addoli ar y cyd. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd Canllawiau Atodol gan ESTYN a Chymdeithas CYSAGau Cymru mewn
perthynas ag addoli ar y cyd mewn
ysgolion anenwadol. Derbyniwyd eglurder ar beth
yn union yw addoli ar y cyd
gan yr Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant GwE gan nodi bod Deddf
Diwygio Addysg 1988 a Chylchlythyr 10/94 Swyddfa Cymru yn pennu’r
gofynion cyfreithiol ar gyfer addoli
ar y cyd mewn ysgolion yng
Nghymru. Gofynnir i ysgolion
ddarparu addoli ar y cyd bod dydd
i bob disgybl cofrestredig gan ddilyn patrwm Cristnogol
yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Gall addoli ar y cyd gael
ei gynnal unrhyw bryd yn
ystod diwrnod yr ysgol ac nid
oes rhaid iddo fod yn
dorfol - gall gael ei ddarparu i
ddosbarth neu flwyddyn ysgol. Esboniwyd bod hawl gan rieni
i eithrio eu plant o addoli ar y cyd gydag
ysgolion yn gorfod cytuno i
geisiadau o’r fath. Gofynnwyd i Aelodau CYSAG i ba raddau maent
yn awyddus i fonitro addoli
ar y cyd mewn ysgolion. Pwysleisiwyd nad oedd angen
dod i farn
ar ansawdd yr addoliad ond
yn hytrach bod yr ymarferiad ar
gyfer gwella deallusrwydd Aelodau o’r hyn a gyflwynir gan ysgolion yn
yr addoliad. Awgrymwyd gan Aelodau y byddent yn fodlon mynychu’r
ysgolion hynny lle maent yn
gwasanaethu ar y cyrff llywodraethu ac y byddai’n gwrtais i’r awdurdod addysg
gysylltu â’r ysgolion hynny i’w hysbysu o’r
bwriad ac wedyn i’r ysgolion estyn
gwahoddiad i Aelodau CYSAG fynychu pan fyddent yn cynnal eu
haddoliad ar y cyd. Penderfynwyd: (a) Derbyn a chymeradwyo i’r 6 aelod etholedig sy’n gwasanaethu ar CYSAG fonitro addoli ar y cyd
yn yr ysgolion
hynny lle maent yn llywodraethwyr
yn eu wardiau. (b) Gofyn i’r Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol gysylltu â’r ysgolion i’w
hysbysu o’r bwriad uchod fel
bo modd i’r
Penaethiaid a’r Aelodau drefnu iddynt fynychu
sesiwn addoli ar y cyd. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 251 KB (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan
Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod yr Haf i Gwanwyn 2017. (Copi’n amgaeedig) (b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr
ysgolion canlynol: (i) Ysgol Abersoch (ii) Ysgol Felinwnda (Copïau’n
amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Tywysodd y Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd
yn nodi crynodeb
o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw
bod 4 ysgol gynradd, a dim
un ysgol uwchradd nac ysgol arbennig
wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor
yr Haf 2017. Cyfeiriwyd at sylwadau ESTYN o dan baragraff Gofal,
cymorth ac arweiniad, gan nodi mai
ychydig iawn o fanylder a roddir i addysg grefyddol. Yng nghyswllt Ysgol Rhosgadfan
o safbwynt y dyfarniad o anfoddhaol o dan y pennawd Gofal, cymorth ac arweiniad, nodwyd y cyfeirir at ddarpariaeth ar gyfer disgyblion
ag anghenion dysgu ychwanegol gyda datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol disgyblion yn dda. (b) Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Abersoch a Felinwnda gyda’r safonau, y ddarpariaeth addysg yn dda
a chyfeiriwyd bod yr Ysgolion wedi adnabod
elfennau i dderbyn sylw, megis: ·
Datblygu sgiliau
ysgrifennu estynedig disgyblion wrth iddynt ddysgu am grefydd arall ar
wahân i Gristnogaeth ·
Mwy o gyfleoedd
i’r disgyblion fagu hyder wrth
ofyn ac ateb cwestiynau penodol er mwyn mynegi
barn am faterion moesol perthnasol ·
Sicrhau bod cyfleoedd
rheolaidd yn cael ei roi
i ymwelwyr ddod i gyfnodau
addoli ar y cyd PENDERFYNWYD: (a) Derbyn a nodi cynnwys
yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau
a gofyn, yn unol â’r drefn,
i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol, anfon llythyr at yr ysgolion
uchod yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr
ysgolion i gyrraedd y graddau. (b) Gofyn i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg Cynorthwyol lythyru hefo’r ysgolion hynny sydd wedi derbyn
arolygiad ym mis Hydref i
ofyn iddynt gyflwyno eu hunan
arfarniad i gyfarfod nesaf CYSAG ym mis Chwefror. |
|
DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT GWE I dderbyn diweddariad llafar gan Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE ar y materion canlynol: · Fframwaith Arolygu newydd ESTYN – goblygiadau i weithdrefnau monitro CYSAG Gwynedd · Cwricwlwm am Oes– ymateb i argymhellion “Dyfodol Llwyddiannus” Cofnod: (a) Ffurflen Hunan Arfarniad
Drafft Cyfeiriodd yr
Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE at dudalennau 32-33
yn y Rhaglen a oedd yn cynnwys
ffurflen hunan arfarniad a anfonir at ysgolion i’w cyflwyno
ar gyfer monitro gan CYSAG Atgoffwyd yr
Aelodau bod Fframwaith Arolygu
ESTYN wedi newid ers Medi 2017, mewn cydweithrediad â chydweithwyr a swyddogion CYSAG, roedd yr Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant GwE wedi addasu’r ffurflen
ac fe gyflwynwyd y drafft i’r Aelodau, er canfod eu
barn o’r cynnwys. Eglurwyd bod maes
arolygu 1 yn y Fframwaith newydd yn cyfeirio at safonau addysg grefyddol gan ofyn
pa mor dda mae’r disgyblion yn gwneud cynnydd mewn addysg grefyddol,
sef bod yn ymwybodol o safonau’r disgyblion. Cyfeiria’r ail faes at Les ac agweddau
at ddysgu - efallai bod
CYSAG yn awyddus i wybod sut
mae disgyblion yn teimlo tuag
at addysg grefyddol yn yr Ysgol, a ydynt yn mwynhau’r
pwnc ac yn cyfrannu at eu datblygiad at ddinasyddion llwyddiannus Ym maes
arolygu 3 cyfeirir at brofiadau mae plant yn cael. Rhoddir cyfle i gyfeirio
at y gwersi -
a yw’r disgyblion yn cael croestoriad
o grefyddau, ydynt yn mynd ar
ymweliadau a fyddai yn helpu plant i wella addysg
grefyddol. O safbwynt Gofal, cymorth ac arweiniad mewn addysg grefyddol – h.y. beth yw
effaith yr addysg grefyddol, gofynnir i ysgolion
nodi i ba
raddau mae addysg grefyddol yn dod a chymuned
at ei gilydd, a yw’r disgyblion yn cael profiadau
eang yn eu
cymunedau. Yng nghyd-destun
Arweinyddiaeth a rheolaeth,
gofynnir i ba raddau mae
athrawon yn craffu ar addysg
grefyddol, a ydynt yn adnabod y cryfderau
a gwendidau i sicrhau bod addysg grefyddol yn gyson
dda. Gofynnwyd am farn
y Pwyllgor o gynnwys y ffurflen
ddrafft uchod ac mewn ymateb amlygwyd
y pwyntiau canlynol: (a) Y byddai’r ffurflen yn cael
ei throsglwyddo i Benaethiaid pwnc
i’w chwblhau ac nid o reidrwydd yn cael ei
chwblhau gan Bennaeth ysgol (b) Bod y gofyn yn ormod eleni
wrth i Benaethiaid
orfod ddygymod â’r Fframwaith Arolygu newydd. Gwyntyllwyd y syniad i gadw’r
ffurflen yn ôl am flwyddyn gan fod Penaethiaid
yn gorfod ymdopi hefo trefn
newydd beth bynnag. (c)
A
yw’r cwestiynau braidd yn gyffredinol,
h.y. pa dystiolaeth fydd yn cael
ei ddefnyddio i ymateb i’r
cwestiynau ac a yw hunan ddatblygiad y plentyn yn cael
ei golli? (d) Bod pob
pwnc arall yn cael eu
bandio o fewn chwarteli yn CA3 heblaw addysg grefyddol. Fodd bynnag cyflwyna ysgolion ddata i GwE ond nid
oedd yn hawdd
tracio ar lefel ehangach. (e) Nad oedd
addysg grefyddol yn cael sylw
pob blwyddyn mewn ysgolion cynradd
fel hunan arfarniad pynciol Nododd un aelod
y byddai’n barod i gwblhau’r ffurflen
ar ran Ysgol Eifionydd. Penderfynwyd: Y byddir
yn rhoi dewis
i ysgolion pa ffurflen i’w chwblhau
ond efallai dewis ambell Ysgol i’w dreialu yn
y flwyddyn newydd. (b) Cwrs TGAU Astudiaeth Grefyddol
Newydd Mynegwyd pryder yngl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 435 KB (a) I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsam. (Copi’n amgaeedig) (b) I nodi dyddiadau o gyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru fel a ganlyn: · Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2017 – Canolfan Ddinesig, Pen-y-Bont Ar Ogwr · Dydd Gwener, 9 Mawrth 2018 – Canolfan Ddinesig, Abertawe (c) I dderbyn diweddariad ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cofnodion
cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017. (b) Nodi dyddiadau
o gyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru: ·
Dydd Gwener,
10 Tachwedd 2017 - Canolfan
Ddinesig, Pen-y-bont Ar Ogwr ·
Dydd Gwener, 9 Mawrth 2017 – Canolfan Ddinesig, Abertawe (c) Cyflwynwyd diweddariad ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm gan Manon
Jones, Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. (b) Nodi’r dyddiadau uchod. (c) Nodi’r diweddariad. |