Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Myfyrdod
distaw neu weddi COFNODION: Agorwyd
y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Menna Baines. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Miriam Amlyn, Cathryn Davey, Cyng. Judith Humphreys, Cyng. Dewi W
Roberts, Cyng. Cemlyn R Williams, Gwawr Maelor Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I
dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS I
nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 139 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir COFNODION: Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin fel rhai cywir. Bydd y cofnodion yn cael eu llofnodi yn y
cyfarfod nesaf. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CANLLAWIAU AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG O FEWN Y CWRIWLWM NEWYDD I dderbyn cyflwyniad ar yr uchod
Penderfyniad: Oherwydd nad oedd
cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd y cyflwyniad
a diolchwyd i Libby Jones am ei chyfraniad.
COFNODION: Rhoddodd Libby Jones gyflwyniad i Aelodau
CYSAG ar y Canllawiau uchod, gan gadarnhau bod Addysg Grefyddol wedi mynd drwy
newidiadau sylweddol. Cyfeiriodd at y
negeseuon ar gyfer CYSAG o ran y Maes Llafur Cytunedig a
chynllunio y cwricwlwm. Nododd hefyd y
negeseuon pwysig i ysgolion wrth gynllunio ar
gyfer CGM, gan gynnwys defnydd o is-lensiau.
Esboniodd hefyd, o dan Gyfraith Hawliau Dynol, y bydd y pwnc yn
wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol. Bu iddi gloi drwy gyfeirio at y cyfle o
ran dysgu proffesiynol. Daeth yn amlwg o’r cyflwyniad bod y
Canllawiau yn cyfeirio at yr angen am newidiadau mawr iawn, ac y byddai y pwnc CGM yn cynnwys
argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.
Un newid arall oedd bod dilyn y pwnc yn fandadol o’r
oedran 3-16, gyda mannau meithrin i gynnwys darpariaeth ar gyfer CGM. Ar y llaw arall, nodwyd ôl-16 mai optio i mewn i CGM fyddai disgybl. Cadarnhawyd y bydd fersiwn o’r Canllawiau, o dan
embargo, ar gael cyn y Nadolig. Ymhelaethodd ar y
negeseuon pwysig i CYSAG Mae
maes llafur cytunedig yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, ac mae angen iddo fod
mewn lle mewn da bryd er mwyn i’r ysgolion addysgu eu cwricwla newydd o fis
Medi 2022 ymlaen. Gall y Canllawiau
newydd fod yn sail i’r maes llafur, ond mae angen iddo beidio â bod yn rhy
gaeth – efallai bydd yr is-lensiau o gymorth. Mae angen trefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig, sydd ag
aelodaeth mor eang â phosib, a nodwyd yr angen i hysbysu ysgolion o’r
bwriad hwn cyn gynted â phosib. Holwyd ymhellach am yr is-lensiau, ble cadarnhawyd nad pynciau
na themâu mohonynt, ond disgyblaethau neu bersbectifau.
Nodwyd, wrth benderfynu ar themâu, bydd CGM yn cael eu harwain gan y safbwyntiau hyn. Yn dilyn yr hyn a adroddwyd gan Libby Jones, nodwyd pwysigrwydd
cael presenoldeb o Adran Addysg y Cyngor i roi
CYSAG ar ben ffordd gyda y newid hyn.
Cwestiynwyd a fyddai modd gweithio yn rhanbarthol, a nodwyd yr angen i Aelodau CYSAG ddeall beth yw
cyfraniad GwE, rôl y Cyngor a sut mae modd
cydweithio. Gan y bydd y pwnc yn fandadol, ac yn rhan greiddiol o’r
cwricwlwm newydd, nodwyd efallai y bydd angen cefnogaeth ar rai ysgolion i
allu gwireddu hyn. PENDERFYNWYD Oherwydd nad oedd cworwm,
nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd y cyflwyniad
a diolchwyd i Libby Jones am ei chyfraniad.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-2021 I dderbyn
diweddariad ar yr uchod Penderfyniad: Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd
diweddariad ar yr uchod ac awgrymwyd y ffordd ymlaen. COFNODION: Cadarnhawyd bod drafft o’r Adroddiad
Blynyddol ar y gweill ac y byddai yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf CYSAG
i’w gymeradwyo. PENDERFYNWYD Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd
diweddariad ar yr uchod ac awgrymwyd y ffordd ymlaen. |
|
I dderbyn
Adroddiad Blynyddol y CCYSAGAU ar gyfer 2020-2021 I dderbyn
Adroddiad Blynyddol Trysorydd y CCYSAGAU ar gyfer 2020-2021, gan gynnwys y
Datganiad o Gyfrifon I dderbyn
Cofnodion y cyfarfod CCYSAGAU a gynhaliwyd 16 Mehefin 2021 I dderbyn Diweddariad
o Gyfarfod yr Hydref o CCYSAGAU a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021 Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd yr
adroddiadau er gwybodaeth. COFNODION: Diolchwyd am Adroddiad Blynyddol y CCYSAGAU ar
gyfer 2020-2021, Adroddiad Blynyddol Trysorydd
y CCYSAGAU ar gyfer 2020- 2021, gan gynnwys y Datganiad o Gyfrifon a chofnodion
y
cyfarfod CCYSAGAU a gynhaliwyd 16 Mehefin 2021. Cafwyd
diweddariad o gyfarfod yr Hydref o CCYSAGAU a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021, ble
bu iddynt dderbyn cyflwyniad ar y Cwricwlwm
Newydd gan swyddog o Gonsortia Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru a GwE. Adroddwyd yn y
cyfarfod am y gefnogaeth oedd ar gael a chodwyd y pryder ei bod yn ymddangos
bod CCYSAGAU De Cymru yn cael rhan greiddiol mewn cymhariaeth â’r Gogledd. Nodwyd yn benodol y pryder am y diffyg
cefnogaeth gan GwE i CYSAG. Cyfeiriwyd hefyd at y gyfres sydd wedi ei
chyhoeddi gan Hodder i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd,
a gofynnwyd i’r neges gael ei lledaenu nad yw y gyfres o reidrwydd yn addas i
Gymru gan nad ydynt wedi derbyn unrhyw fewnbwn o Gymru wrth ei chreu. Yna
trafodwyd yr angen i drefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytûn cyn Medi 2022, ac
awgrymwyd efallai
y gellid cynnal y cyfarfod cyntaf ar Chwefror 1af. Cadarnhawyd fod y Gynhadledd yn gorff ar
wahân i CYSAG ond y byddai yn gwneud synnwyr i barhau gyda’r un aelodaeth. Yn sgil hyn awgrymwyd
efallai y byddai modd ysgrifennu at y cyrff crefyddol am enwebiadau gan fod
nifer o seddi
gwag ar y CYSAG a’r aelodaeth wedi dirywio mewn niferoedd. PENDERFYNWYD Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd yr
adroddiadau er gwybodaeth. Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 p.m. a daeth i ben am 3.10 p.m. CADEIRYDD |