Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Gweddi neu fyfyrdod
tawel Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y
Cynghorydd Judith Humphreys. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cathryn Davey, Dashu, Cyng. Selwyn E
Griffiths |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar
gyfer ystyriaeth Cofnod: Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost oedd wedi dod i law gan
CCYSAGau Cymru yn holi am enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith, gyda dyddiad cau o 8
Ebrill, a chytunwyd i gylchredeg yr e-bost. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfodydd o’r
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021 a 23 Tachwedd 2021 yn cael eu
harwyddo fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y ddau gyfarfod
diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin a 23 Tachwedd fel rhai
cywir. Bydd y cofnodion yn cael eu
llofnodi yn y cyfarfod nesaf. |
|
I drafod y
Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig Sydd ar y Gweill Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond
rhannwyd y wybodaeth am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar y cyd gyda Ynys
Môn, o dan arweiniad Phil Lord o GwE. Cofnod: Amlinellodd y Cadeirydd yr angen i bob Awdurdod Addysg
sefydlu Cynhadledd fel endid ar wahân i’r cyfarfod CYSAG ar gyfer yr uchod. Adroddwyd bod y Gynhadledd, sydd i’w chynnal ar y cyd gydag Ynys Môn wedi ei threfnu ar gyfer 15 Chwefror
2022 o dan arweiniad Phil Lord o GwE. Ni ellir
gorbwysleisio pwysigrwydd y Gynhadledd, a’r cyfle yma i gytuno ar y maes llafur. Cadarnhawyd bod
angen i’r Pwyllgor lleol ystyried Canllawiau Llywodraeth Cymru, ac yna i ysgolion gymryd i ystyriaeth y maes llafur cytunedig. Cyfeiriwyd at y Canllawiau oedd wedi eu paratoi gan y
Llywodraeth, ynghyd â’r statws cyfreithiol. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau ar y
canllawiau ac anogwyd cymaint o Aelodau CYSAG Gwynedd â phosib i fynychu Y
Gynhadledd. PENDERFYNWYD: Oherwydd nad oedd cworwm,
nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud Penderfyniad ond rhannwyd y wybodaeth am y gynhadledd sydd i’w
chynnal ar y cyd gydag Ynys Môn, o dan arweiniad Phil Lord o GwE. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020/2021 PDF 926 KB I ystyried
Adroddiad Blynyddol CYSAG ar gyfer 2020/2021 Penderfyniad: Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd
modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond diolchwyd am yr adroddiad drafft, a
gwnaethpwyd ambell i awgrym. Nodwyd
pryder am nifer y seddi gwag ar Bwyllgor CYSAG a’r angen i holi eto am
enwebiadau i’r seddi hyn. Cofnod: Atgoffwyd yr aelodau bod yr adroddiad yn
ystyried y flwyddyn academaidd Medi 2020 i Awst 2021, ac yn dilyn yr un patrwm
â’r blynyddoedd a fu. O ganlyniad i’r pandemig roedd rhai materion na chawsant eu cwblhau, fel yr
amlygir yn yr adroddiad. Nodwyd bod
angen diweddaru yr aelodaeth. Atgoffwyd
yr Aelodau bod nifer o faterion pwysig wedi eu trafod mewn cyfarfodydd CYSAG yn
ystod y cyfnod, gan gynnwys Dyfodol Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Bangor,
cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG a lles disgyblion yn ystod y cyfnod. Adroddwyd ar y pryder nad oedd modd trafod
dogfennau ymgynghorol mewn pwyllgor, ond yn hytrach bod y gwaith hel ymatebion
wedi gorfod cael ei wneud yn electroneg. Edrychwyd ar argymhellion yr adroddiad a
chytunwyd i’w haddasu gan dynnu allan y cyfeiriad at CBAC a’r sefyllfa
arholiadau, cynnwys cyfeiriad at arweiniad pynciol a thynnu allan y frawddeg
sydd yn sôn am wahodd Aelodau CYSAG i addoli ar y cyd mewn ysgolion, gan nad
oedd modd i hyn ddigwydd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen am lyfrau ar gyfer y maes
llafur newydd, nodwyd eu bod yn cael eu comisiynu drwy CBAC, a’r gobaith y
byddai y Gymraeg a’r Saesneg yn cyrraedd gyda’i gilydd. Nodwyd yr angen ychwanegol i fod yn
wyliadwrus o ddeunydd oedd wedi ei baratoi y tu allan i Gymru gan fod y maes
llafur yn wahanol. Mewn ymateb i sylw am yr Aelodaeth, a’r ffaith mai dyma’r ail waith i’r
Pwyllgor gyfarfod heb gworwm, cadarnhawyd y bydd Aelodaeth yn cael ei drafod
yng nghyfarfod nesaf Fforwm Undebau Athrawon ac y bydd yn cael ei drafod yn y
Fforwm Penaethiaid maes o law, yn y gobaith o ehangu yr aelodaeth. O ran cynrychiolaeth o’r gwahanol grefyddau,
cadarnhawyd bod cyswllt wedi ei wneud gyda nifer o grefyddau eraill i geisio
cael enwebiadau ond nad oedd unrhyw ymateb wedi bod. Cytunwyd i barhau gyda’r gwaith a chysylltu
gyda’r Brifysgol am gymorth. Nododd y Cadeirydd ei siom nad oedd cworwm eto yn y cyfarfod hwn, er
ymdrechion i hysbysu aelodau’r Pwyllgor am y cyfarfod, ond serch hynny ei bod
wedi bod yn drafodaeth fuddiol. Atgoffwyd
pawb am y Gynhadledd Maes Llafur sydd i’w chynnal 15 Chwefror, 2022. PENDERFYNWYD Oherwydd nad
oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond diolchwyd am yr
adroddiad drafft, a gwnaethpwyd ambell i awgrym. Nodwyd pryder am nifer y seddi gwag ar
Bwyllgor CYSAG a’r angen i holi eto am enwebiadau i’r seddi hyn. Dechreuodd y cyfarfod am 2.15 p.m. a daeth i ben am 2.50 p.m. CADEIRYDD. |