Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda chyfle am fyfyrdod tawel.

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024-2025.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Menna Baines yn gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024-2025.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

·       Cynghorwyr Meryl Roberts, Elin Walker Jones, John Pugh Roberts a Beca Brown.

·       Athrawon: Heledd Jones ac Emma Roberts

·       Nathan Abrams (Iddewiaeth)

·       Eurfryn Davies (Undeb Bedyddwyr Cymru)

·       Nick Sissons (Yr Eglwys Fethodistaidd)

 

Diolchwyd i Einir Rhian Davies (Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth) am flynyddoedd o wasanaethau i’r Cyfarfodydd CYSAG. Rhannwyd datganiadau o ddymuniadau gorau iddi yn ei swydd newydd.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

7.

COFNODION pdf eicon PDF 94 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwna gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Datganwyd tristwch ar farwolaeth frawychus o sydyn Bethan James (GwE) ddechrau mis Ionawr a diolchwyd am ei gwaith a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd. Rhannwyd datganiadau o gydymdeimlad gyda theulu Bethan.

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG GWYNEDD 2022/23 pdf eicon PDF 314 KB

I gysidro Adroddiad blynyddol CYSAG Gwynedd 2022/23.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan y Cadeirydd gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Cydnabuwyd ei fod yn flwyddyn anodd oherwydd bod y cyd-destun ar gyfer gwaith y CYSAG wedi newid cryn dipyn.

 

Cyfeiriwyd mai un o brif ddyletswyddau’r CYSAG yw monitro safonau yn yr ysgolion. Esboniwyd bod hon yn dasg heriol oherwydd bod dulliau adolygu ESTYN wedi newid. Atgoffwyd yr Aelodau bod y CYSAG wedi bod yn gofyn i ysgolion lenwi holiaduron hunan arfarnu yn y gorffennol ond cadarnhawyd nad yw’r holiadur hwn yn cael ei gylchredeg mwyach.

 

Tynnwyd sylw at ail brif ddyletswydd y CYSAG sef ymgynghori ar Addoli mewn ysgolion. Nodwyd bod hyn wedi bod ar y rhaglen waith yn ddiweddar, gyda’r dyhead o ddiweddaru’r Canllaw Cyd-addoli mewn ysgolion.

 

Mynegwyd siom nad oedd y maes llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y cwricwlwm Newydd wedi’i gyflwyno yn amserol . Ymhelaethwyd nad oedd hyn yn bosib oherwydd roedd peth amser rhwng i’r maes llafur cytunedig gael ei gytuno ac i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yna seddi gwag ar gyfer CYSAG Gwynedd ar hyn o bryd ac fe’u hanogwyd i awgrymu unigolion addas i’w llenwi er mwyn sicrhau aelodaeth lawn.

 

Nodwyd cywiriad i’r Adroddiad cyn ei gyhoeddi gan sicrhau bod Aelodaeth yn cael ei ddiweddaru.

 

Diolchwyd i bawb am eu gwaith i’r CYSAG a’u holl gyfraniadau gwerthfawr dros y blynyddoedd diwethaf. Diolchwyd hefyd i Swyddog Adnoddau Cynorthwyol a Chlerc CYSAG am lunio’r Adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad gyda’r addasiadau a godwyd fel rhan o’r drafodaeth.

 

 

9.

PROSIECT LLAN pdf eicon PDF 4 MB

I dderbyn cyflwyniad llafar gan Nia Roberts (Swyddog Ymgysylltu Pererindodau Ysgolion) ar ‘Brosiect Llan’.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Swyddog Ymgysylltu Pererindodau Ysgolion, Prosiect Llan gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod y prosiect yn derbyn cefnogaeth Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru ar gyfer datblygu pererindod o fewn yr Esgobaeth a dysgu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod y prosiect wedi cael ei ariannu am 7 mlynedd.

 

Manylwyd mai un elfen o waith y prosiect ydi ail-ddatblygu llwybrau pererindod. Nodwyd bod y cyntaf o’r rhain ‘Llwybr Cadfan’ wedi cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, gan fanylu bod y llwybr mynd o Dywyn i Ynys Enlli. Cadarnhawyd bod dolen ar wefan ‘Eventbrite’ yn caniatáu i ddefnyddwyr gerdded y llwybr yn ogystal ag ymuno â grwpiau sy’n cerdded y llwybr. Eglurwyd bod map o’r llwybr hefyd i’w gael ar wefan ‘Outdoor Active’ a bydd copi papur o’r map ar gael i’w brynu yn fuan. Ymhelaethwyd bod ail lwybr o’r enw ‘Llwybr Cybi a Seiriol’ hefyd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ym Môn. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn datblygu mapiau a rhannu gwybodaeth am y llwybrau hyn.

 

Esboniwyd mai un o brif rolau’r Swyddog Ymgysylltu Pererindodau Ysgolion, Prosiect Llan yw ysgogi athrawon i ddefnyddio’r thema ‘pererindod’ o fewn eu gwaith dosbarth yn ogystal â hyrwyddo hanes crefyddol a’r iaith Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y prosiect yma ar gael i bob ysgol, nid dim ond ysgolion eglwys. Nodwyd y gobeithir bydd pecynnau gwersi, ymweliadau a chyflwyniadau ar gael i holl ysgolion yn fuan. Rhannwyd enghreifftiau o’r pecynnau addysgu hyn. Mynegwyd balchder bod athrawon yn rhannu adborth cadarnhaol am y prosiect hyd yma ac yn gwerthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion.

 

Tynnwyd sylw at brosiectau eraill sydd yn cael eu datblygu fel rhan o’r prosiect gan gynnwys gwefan ar gyfer athrawon, prosiectau ar draws ysgolion, gweithdai ar safleoedd eglwysi, adnodd ffilm a hefyd llyfrau am seintiau lleol.

 

Llongyfarchwyd pawb sydd ynghlwm â’r prosiect am eu gwaith yn y maes pererindodau ac i ddatblygu hyder ysgolion wrth addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

10.

CYMDEITHAS HANES IDDWEIG DE CYMRU

I dderbyn cyflwyniad llafar gan Klavdja Erzen (Rheolwr Rhaglen a Phrosiect) am Adnoddau dwyieithog i addysgu am yr Holocaust.

Cofnod:

Cadarnhawyd i’r swyddogion dderbyn cais gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru i ohirio’r eitem hon tan y cyfarfod nesaf. Ymhelaethwyd y bydd yr eitem yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod CYSAG a gynhelir ar 19 Tachwedd 2024.

 

11.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhannwyd copi o gofnodion cyfarfod CYSAGau Cymru yn ddiweddar gan ddiolch i Eurfryn Davies a’r Cynghorydd Meryl Roberts am fynychu’r cyfarfod ar ran Gwynedd.

 

Rhannwyd llythyr a ddosbarthwyd i arweinwyr crefyddol Cymru yn ogystal â Llywodraeth Cymru i ddatblygu Canllaw Cyd-addoli. Atgoffwyd yr Aelodau am yr angen i ddiweddaru’r canllaw a diolchwyd i’r Cynghorydd Elin Walker Jones a Nick Sissons am edrych ar y canllawiau presennol yn ogystal â llunio argymhellion am y ffordd ymlaen. Er hyn, cydnabuwyd nad oes yna lawer o ymatebion i’r llythyr ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD i’r Cadeirydd ail-yrru’r llythyr at arweinwyr crefyddol a Llywodraeth Cymru gan drafod unrhyw ymatebion yng nghyfarfod 19 Tachwedd 2024.