Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr Rheinallt Thomas. |
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am y flwyddyn 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y
Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd
i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Gweno Glyn yn
Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn
2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitema sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Cofnod: (a)
Croesawyd Mai Bere i’w chyfarfod cyntaf
o CYSAG Gwynedd yn y rôl o Glerc CYSAG fel olynydd i Mr John Blake sydd bellach wedi ymddeol. Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi
Aelodau anfon gair o ddiolch i Mr Blake am ei wasanaeth a chefnogaeth i CYSAG yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf ac i ddymuno’n dda iddo. (b)
Cyfeiriwyd at benderfyniad Mr Wyn Myles Meredith i ymddeol
o wasanaethu ar CYSAG a deallir ei fod
yn trefnu i gynrychiolydd arall wasanaethu yn ei
le ar ran Yr Eglwys Fethodistaidd. Bu Mr Meredith yn aelod ffyddlon o GYSAG ers ei ymddeoliad
fel Aelod o Gyngor Gwynedd yn 2008 ac yr unig un sydd wedi
cynrychioli CYSAG Gwynedd ar
Gymdeithas CYSAGau Cymru gan fynychu’r
cyfarfodydd yn rheolaidd. Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi
Aelodau anfon llythyr i Mr
Meredith yn diolch iddo am ei ymroddiad
a’i gefnogaeth i CYSAG ar hyd y blynyddoedd
ac i ddymuno pob dymuniadau gorau iddo i’r dyfodol.
(c)
Cyfeiriwyd at benderfyniad Mr Noel Dyer i ymddeol
yn gynnar o’i swydd yn
Ysgol Glan y Môr ac felly yn yr un modd
yn ymddeol fel aelod o CYSAG Gwynedd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Mr Dyer am ei wasanaeth clodwiw
a’i gyfraniad gwerthfawr i waith CYSAG ar hyd y blynyddoedd
ac yr un pryd yn dymuno ymddeoliad
hapus iddo. Hyderir y gall efallai barhau i gyfrannu at waith CYSAG mewn rôl arall
yn ystod ei ymddeoliad. (ch) Nodwyd hefyd bod Mrs Miriam Amlyn i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth
ac estynnwyd pob dymuniad da iddi. Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog
Cefnogi Aelodau a Chraffu anfon llythyrau, ar ran CYSAG, i ddiolch ac i ddymuno’n dda i’r
rhai a nodwyd uchod. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2015. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2015 fel rhai cywir. Eitem 6 – Hunan Arfarniadau Ysgolion Yn deillio o’r cofnodion
diwethaf, tynnwyd sylw at benderfyniad i gynnal cyfarfod o CYSAG mewn ysgol ond
ni fu’n bosibl
i wneud trefniadau ar gyfer y cyfarfod
y tro hwn. Ceisir trefnu eto ar
gyfer y cyfarfod nesaf i’w gynnal
ym mis Tachwedd.
|
|
ADRODDIAD GAN YMGYNGHORYDD HER GWE I dderbyn adroddiad / cyflwyniad gan Miss Bethan James ar y canlynol: (a) Addoli ar y Cyd (b) Datblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3 (c) Diweddariad ar ymgynghoriad Yr Athro Donaldson ar Gwricwlwm i Gymru Cofnod: (a) Addoli ar y Cyd Adroddodd yr Ymgynghorydd Her bod ymdrech
wedi ei wneud i adnabod ffordd i ymgymryd â monitro safonau addoli ar y
cyd. Atgoffwyd y pwyllgor bod holiadur
wedi cael ei ddosbarthu oddeutu blwyddyn yn ôl er mwyn adnabod ffyrdd i
ymgymryd â chyfrifoldebau unigol dros fonitro safonau Addysg Grefyddol neu
addoli ar y cyd gyda’r ymatebion hynny yn llywio’r gwaith a’r bwriad bellach
ydoedd rhoi trefniadau mewn lle i fonitro. Cyfeiriwyd at arweiniad ESTYN i’w
harolygwyr ar yr hyn i’w fonitro wrth iddynt arolygu addoli ar y cyd. Cyfeiria’r arweiniad at y gofynion
cyfreithiol sef bod addoli ar y cyd yn digwydd yn ddyddiol ar unrhyw bryd yn
ystod y dydd a bod hawl gan rieni i dynnu eu plant o’r addoliad. Tra’n derbyn nad oedd Aelodau CYSAG yn hoff o
arolygu addoli ar y cyd gwnaed awgrym iddynt ymweld ag ysgolion i gael blas ar
addoli ar y cyd. Cyfeiriwyd ymhellach at
arweiniad gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yn nodi pam bod addoli ar y cyd yn
fuddiol i blant a’i fod yn hybu
datblygiad ysbrydol disgyblion ac yn cyfrannu at ddatblygiad personol ac yn
fuddiol i gael ymdeimlad bod ysgolion yn gymuned ac yn cysylltu’r ysgolion â’r
gymuned leol. Hefyd, fe graffir ar
adroddiadau ysgolion ac yn gofyn a ydynt yn diwallu gofynion statudol. Cyflwynwyd ffurflen i Aelodau yn ystod y
cyfarfod i helpu cofnodi wrth iddynt fynychu sesiynau addoli ar y cyd ac fe’i
tywyswyd drwy gynnwys y ffurflen. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y pwyntiau
canlynol: (a) Bod angen bod yn wyliadwrus
o ran cadw at yr hyn sy’n statudol o safbwynt Addysg Grefyddol oherwydd mewn
rhai ysgolion erbyn hyn bod gofynion eraill ar athrawon yn ystod cyfnodau
cofrestru megis cyflwyno llythrennedd, darllen, a’i fod yn anoddach cynnal
gwasanaeth dosbarth oherwydd hyn. (b) Bod rhai
llywodraethwyr yn cael ei dynodi yn bencampwyr i roi rhagolwg ar Addysg
Grefyddol a/ neu bynciau eraill ac a
fyddai modd defnyddio’r llywodraethwyr hyn i’r eithaf ar gyfer monitro rhag
dyblygu’r gwaith. Mewn ymateb, nodwyd bod gan CYSAG rôl statudol i
fonitro drwy samplo ac arsylwi bod yr hyn mae ysgolion yn nodi yn yr hunan
arfarniadau yn cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol. (c) Croesawyd y ffurflen gan
ychwanegu y byddai’n ddefnyddiol ac o gymorth i’r ysgolion a llywodraethwyr
hefyd. (d) Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â rhwystredigaeth mewn addoli ar y cyd lle ceir nifer o wahanol
grefyddau, ni ragwelir y byddai hyn yn broblem gan fod rhieni yn eithaf hapus
i’w plant gymryd rhan mewn gwasanaeth / gweithgareddau ysgol a bod hwythau fel
rhieni yn cymryd cyfrifoldeb dros y ffydd. (e) Bod Aelodau CYSAG Ynys
Môn eisoes yn ymweld ag ysgolion i fonitro addoli ar y cyd a’r trefniadau wedi
bod yn llwyddiannus gydag ymateb ysgolion yn bositif iawn. Penderfynwyd: Derbyn y ffurflen monitro a chymeradwyo i
arbrofi’r defnydd ohoni wrth ymweld â’r ysgolion gan bwysleisio bod y broses ar
gyfer cefnogi ysgolion ac nid i’w harolygu. (b) Datblygu Llythrennedd a Rhifedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Gwanwyn 2015 – Haf 2015. (b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: (i) Ysgol Coed Mawr (ii) Ysgol Bro Plennydd (iii) Ysgol Tanygrisiau (iv) Ysgol Yr Eifl (v) Ysgol Ffridd y Llyn (vi) Ysgol Felinheli Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Tywysodd Clerc CYSAG yr
Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi
crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu
sylw bo 5 ysgol gynradd a 2 ysgol uwchradd wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor y Gwanwyn
2015 ynghyd ag Ysgol y Traeth
gyda’r adroddiad heb ei chyhoeddi
hyd yma. Rhagwelir y bydd 4 ysgol arall yn
cael eu harolygu
yn ystod y tymor hwn sef
Ysgolion Llanaelhaearn, Llanrug, Llanelltyd a Hirael. (b) O safbwynt CYSAG, er mai anfoddhaol nodwyd gan ESTYN o safbwynt Ysgol Gynradd Dolgellau,
tynnwyd sylw y cyfeiria hyn at drefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu
disgyblion. (c) O
safbwynt yr adroddiad blynyddol, tynnir sylw at gasgliadau a godir yn nhermau darpariaeth
ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. (ch) Nodwyd mai anaml
mae adroddiadau yn eu cyfanrwydd
yn cyfeirio at addysg grefyddol. Cyfeiria adroddiad Ysgol Dyffryn Nantlle bod y ddarpariaeth ar gyfer CA4 yn
anfoddhaol o ran amserlen
ac felly awgrymwyd fel
Aelodau CYSAG y byddai’n fuddiol
i wahodd yr ysgol i rannu eu
hadborth. Mewn ymateb, awgrymwyd
ymhellach y byddai adroddiad ysgrifenedig yn dderbyniol yn
hytrach na thynnu'r athro / athrawes allan o’r ysgol. (d) Tywyswyd
yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Coed Mawr, Bro Plennydd, Tanygrisiau, Yr Eifl, Ffridd y Llyn a Felinheli, gan gyfeirio at y tri chwestiwn allweddol sef: 1. Pa mor dda
yw’r deilliannau mewn Addysg Grefyddol? 2. Pa mor dda
yw’r ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol? 3. Pa mor dda
yw’r ddarpariaeth ar gyfer addoli
ar y cyd? Cytunwyd bod yr hunan arfarniadau yn cyfartalu â’r hyn
a nodir yn arolygiadau ESTYN. Nododd Ymgynghorydd
Her GwE bwysigrwydd i gyfeirio
at addysg grefyddol yn yr hunan
arfarniadau er mwyn i CYSAG gael blas o’r hyn
maent yn wneud ynghyd â’r
defnydd o eirfa briodol. PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi cynnwys
yr arolygiadau a’r |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU (a) I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015 yn Sir Benfro. (b) I nodi bod cyfarfod nesaf y Gymdeithas uchod i’w gynnal ar 25 Mehefin 2015 yn Sir Fflint. Cofnod: (a) Cofnodion cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas
a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015 yn Sir Benfro. Adroddwyd nad oedd
mater penodol yn codi o’r cofnodion
gan fod Aelodau CYSAG eisoes wedi derbyn
cyflwyniadau a gyflwynwyd i
Gymdeithas CYSAGau Cymru o dan eitem
7 uchod. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. (b) Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 25 Mehefin 2015 yn Sir Fflint. |