Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Agorwyd
y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Selwyn Grifiths. |
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn
2016/17. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Yn wyneb y ffaith bod sawl aelod wedi ymddiheuro am absenoldeb o’r cyfarfod, mai gwell fyddai
gohirio ystyriaeth yr Is-gadair tan y cyfarfod nesaf. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cyng. Tom Ellis, Gweno Glyn, Mrs Elizabeth Roberts (Undeb Bedyddwyr Cymru), Dr. Gwyn Lewis (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Cathryn Davey (Undeb Athrawon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2016 fel rhai
cywir. |
|
HUNAN ARFARNIADAU YSGOLION PDF 278 KB (a) I dderbyn,
er gwybodaeth, ffurflen monitro hunan arfarniadau ysgolion ar gyfer
Gwanwyn i Haf 2016. (Copi’n amgaeedig) (b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:
(i)
Ysgol Babanod Morfa Nefyn (ii)
Ysgol Cymerau (iii)
Ysgol Foelgron (iv) Ysgol Manod (iv)
Ysgol Nefyn (v)
Ysgol Pont y Gof (Copiau yn amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Tywysodd Ymgynghorydd Her GwE yr
Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi
crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu
sylw mai 4 ysgol gynradd a oedd wedi eu
harolygu gan ESTYN yn ystod tymor yr
Hydref 2015 ynghyd ag 5 ysgol
gynradd, ac 1 ysgol uwchradd yn ystod
cyfnod tymor y Gwanwyn 2016. Tynnwyd sylw bod canfyddiad ESTYN o’r farn “Da” yn cynnwys
fwy nag Addysg Grefyddol yn unig. (b)
Tywyswyd yr
Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Babanod Morfa Nefyn,
Cymerau, Foelgron, Manod, Nefyn a Pont y Gof, gan nodi
mai’r gobaith ydoedd bod ysgolion wedi dod i farn
drwy graffu ar lyfrau a rhoi
ystyriaeth i ddata ar addysg grefyddol. Tynnwyd sylw at engreifftiau o fewn yr hunan arfarniadau
gan nodi bod tystiolaeth o feintioli, arsylwadau gwersi a’r ysgolion wedi
barnu bod y safonau a’r ddarpariaeth yn dda. O’r hunan arfarniadau gosodir y cyd-destun o’r math o waith a wneir yn yr
ysgolion. PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi cynnwys yr
arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol
â’r drefn, i’r Swyddog Addysg
Cynorthwyol, anfon llythyr at yr ysgolion
uchod yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr
ysgolion i gyrraedd y graddau. |
|
CYNLLUNIAU LLYWODRAETH CYMRU AR ADDYSG GREFYDDOL PDF 290 KB I dderbyn adroddiad cynnydd gan Lywodraeth Cymru ar
adolygiad y cwricwlwm. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Atgoffodd
Ymgynghorydd Her GwE o fwriad yr Athro Graham Donaldson
i ddiwygio cwricwlwm Cymru gan egluro tra bod pynciau’r cwricwlwm yn gyfrifoldeb
Llywodraeth Cymru, bod addysg grefyddol yn gyfrifoldeb i’r CYSAGau
lleol a’u bod wedi mabwysiadu fframwaith cenedlaethol gyda’i statws yn gyffelyb
i bynciau eraill. Ymhelaethwyd
ymhellach o’r pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm newydd arfaethedig sef
cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn: ·
Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod I ddysgu
drwy gydol eu hoes ·
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod I chwarae
eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith ·
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r
byd ·
Unigolion iach, hyderus sy’n barod I fyw bywyd gan
wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas Caiff y cwricwlwm
ei drefnu’n chwe maes dysgu a phrofiad. Nodwyd bod yr
Athro Donaldson yn awyddus i’r cwricwlwm gael ei
weithredu o’r gwaelod i fyny ac y byddai’n rhaid rhoi cyfle i athrawon ei
dreialu. Ymhelaethodd Ymgynghorydd Her GwE ei bod yn rhan o Banel Ymgynghorol
a’u bod wedi cwrdd i geisio llunio arweiniad ar “beth
yw addysg grefyddol” a hyderir y bydd cyfarfod pellach yn yr wythnosau nesaf
fel y gellir rhannu gwybodaeth gyda’r ysgolion
arloesol. O safbwynt ysgoliol
arloesol yn ardal CYSAG Gwynedd, nodwyd bod arweinyddion yn y gwahanol feysydd
wedi eu hadnabod drwy GwE ar gyfer cyd-cynllunio ond mai ychydig iawn o
arweiniad sydd wedi ei gyflwyno hyd yma. O safbwynt yr
ysgolion cynradd, nodwyd bod Dellatec (Siwan Tecwyn)
yn cynnig cwrs ar ofynion argymhellion yr Athro Donaldson.
Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn a’r ysgolion arloesol, cadarnhaodd
Ymgynghorydd Her GwE y byddai’n rhannu’r rhestr gyda Aelodau CYSAG. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
ADDYSG GREFYDDOL A'R FAGLORIAETH I dderbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhannwyd
gwybodaeth gefndirol gyda’r Aelodau gan Ymgynghorydd Her GwE gan nodi bod
manyleb ar gyfer Bagloriaeth Cymru a weithredwyd mewn ysgolion ers 2015, gyda
nifer o CYSAGau wedi cwyno ac yn amlygu pryderon bod
hyn yn niweidiol i Addysg Grefyddol.
Penderfynodd Cymdeithas CYSAGau Cymru i lunio
holiadur i’w anfon i ysgolion er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n
digwydd mewn gwirionedd. Bu i 8 ysgol
uwchradd o Wynedd gwblhau’r holiadur ac ar y cyfan
nodwyd bod ysgolion Gwynedd yn nodi nad oedd llawer o newid. Gwerthfawrogwyd a diolchwyd i’r ysgolion am
ymateb gan nodi bod athrawon da yn gwarchod addysg grefyddol. Nodwyd bod Ysgol Friars wedi cychwyn cynnig 2 wers yr wythnos ac yn parhau
gyda’r drefn tan y Nadolig. Penderfynwyd: (a)
Derbyn a nodi’r uchod. (b) Gofyn i Glerc CYSAG anfon llythyr i’r
ysgolion i gyfleu diolch a gwerthfawrogiad CYSAG iddynt am eu hymateb i’r
holiadur. |
|
DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD HER GwE I dderbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddodd
Ymgynghorydd Her GwE (a) bod pryderon
wedi eu hamlygu yn ddiweddar yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau
Cymru yn gysylltiedig ag INCERTS (a weithredir yn yr ysgolion cynradd ar gyfer
tracio cyrhaeddiad disgyblion). Nodwyd
disgrifiadau lefel o fewn y rhaglen yn briodol ar gyfer pynciau megis Cymraeg,
Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Ond,
ar gyfer addysg grefyddol mae dryswch wedi codi gan bod dau ddisgrifiad sef
“Fframwaith Gwreiddiol” a “Fframwaith Enghreifftiol”. Nodwyd mai’r disgrifiad cywir i’w ddefnyddio
ydoedd “Fframwaith Enghreifftiol”. Roedd
hyn yn adlewyrchiad ar CYSAG am y diffyg arweiniad i ysgolion o pa ddisgrifiad
lefel y dylid ddefnyddio. Awgrymwyd y dylid
ysgrifennu i holl ysgolion cynradd Gwynedd i’w hysbysu i wirio bod y
disgrifiadau lefel “Fframwaith Enghreifftiol” yn cael ei ddewis wrth gofnodi
Addysg Grefyddol i’r INCERTS oherwydd mai’r lefel hwn sy’n berthnasol i Faes
Llafur Cytun Gwynedd a Mon. (b) TGAU –
awgrymwyd y dylid annog Penaethiaid i sicrhau bod athrawon Addysg Grefyddol yn
cael mynediad i unrhyw gyrsiau ac i gydweithio gyda Mavis
Jones, Pennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, sydd yn
gydlynydd y rhanbarth ac a fydd ar gael i gynorthwyo Gwynedd a Mon. (a)
Er gwybodaeth, nodwyd bod cwmni CYNNAL wedi ennill
contract 5 mlynedd i ddatblygu e-gylchgrawn ar gyfer daearyddiaeth ac y
byddai’n fodel da i’w efelychu ar gyfer addysg grefyddol. Penodwyd dau unigolyn o Wynedd
fel golygyddion y cylchgrawn sef Huw Dylan, Ysgol y Berwyn, Y Bala, a Noel Dyer, cyn athro yn Ysgol
Glan y Mor, Pwllheli. Bydd rhifyn cyntaf
o’r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi ar HWB+
tua diwedd tymor yr Hydref. Penderfynwyd: (a)
Derbyn a nodi’r uchod. (b) Gofyn i Glerc CYSAG anfon llythyr ar ran
CYSAG: (i) i holl ysgolion cynradd Gwynedd i ddwyn i’w
sylw am yr arweiniad i ddewis “Fframwaith Enghreifftiol” ar gyfer Addysg
Grefyddol o fewn yr INCERTS. (ii) i fynegi ei gwerthgawrogiad o’r cynllun ‘athrawon arweiniol’ GwE er
mwyn sicrhau bod athrawon Astudiaethau Crefyddol TGAU yn derbyn cefnogaeth a chyfleoedd
i gydweithio wrth baratoi at y manyleb TGAU newydd. (iii) dymuno’n dda i Mefys Edwards Jones, pennaeth adran addysg grefyddol Ysgol
Syr Thomas Jones, Amlwch yn ei gwaith fel athrawes arweiniol. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 505 KB (a) I dderbyn cofnodion draft cyfarfod
Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2016 yn Hwlffordd. (Copi’n amgaeedig) (b) I nodi bod cyfarfod nesaf y Gymdeithas uchod i’w
gynnal ar 23 Mehefin yn Rhyl. (c) I ystyried enwebiadau ar gyfer
Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGAU Cymru – enwebiadau yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cofnodion
cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2016 yn Hwlffordd. Tynnwyd sylw gan Ymgynghorydd Her GwE at y materion
canlynol: ·
Bod cwrs
CBAC wedi ei ohirio ·
Bod y Panel Ymgynghorol wedi paratoi canllawiau ar gyfer hawl
plenty / rhieni i dynnu allan o addoli ar y cyd (b)Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. (b) Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 23 Mehefin 2016 yn Rhyl. (c) Gofyn i Ymgynghorydd Her GwE fwrw pleidlais ar ran CYSAG Gwynedd i’r tri a enwir isod: Mary Parry Huw Stephens Mathew Maidment |