skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

            Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr Cynrig Hughes. 

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:           Ethol y Cynghorydd Paul J. Rowlinson yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.   

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cyng. Mike Stevens, Dr. Gwyn Lewis  (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Eirian Bradley-Roberts (Yr Eglwys Gatholig), Alwen Watkin, Heledd Jones (Undebau Athrawon)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw gysylltiad personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

7.

COFNODION pdf eicon PDF 245 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 fel rhai cywir.

 

8.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 258 KB

(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod y Gwanwyn i Haf 2017.   

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:  

 

 

(i)         Ysgol Glanymor, Pwllheli

(ii)        Ysgol Talysarn

(iii)       Ysgol Bro Hedd Wyn

(iv)       Ysgol Llanllyfni

(v)        Ysgol Bro Tegid

 

(Copïau’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)   Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw bod 5 ysgol gynradd, ac 1 ysgol uwchradd wedi eu harolygu gan ESTYN  yn ystod tymor y Gwanwyn 2017.

 

(b)              Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Glanymôr, Talysarn, Bro Hedd Wyn, Llanllyfni a Bro Tegid. 

 

Canmolodd Ymgynghorydd Her Gwe ysgolion Gwynedd am ei parodrwydd i rannu eu hunan arfarniadau o addysg grefyddol ac addoli ar y cyd gan bwysleisio mai un o gyfrifoldebau CYSAG ydoedd monitro safonau addysg grefyddol. Eglurwyd y ceisir derbyn yr hunan arfarniadau gan ysgolion yn ystod y tymor arolygiad neu yn fuan ar ôl hynny.  Gan nad yw addysg grefyddol yn bwnc cwricwlwm cenedlaethol, gwelir o’r hunan arfarniadau bod yr ysgolion yn cyflawni gofynion maes llafur Cytûn sydd yn cael ei lunio yn lleol gan CYSAG.

O’r hunan arfarniadau a gyflwynwyd gwelwyd bod ysgolion wedi barnu bod y safonau, y ddarpariaeth addysg yn dda a’r addoli ar y cyd yn bodloni’r gofynion statudol.  Cyflwynwyd hunan arfarniad Ysgol Llanllyfni yn seiliedig ar waith dros gyfnod hir ond cyfeiriwyd at  adroddiad arolygiad diweddar ESTYN oedd yn nodi nad oedd y ddarpariaeth  yng nghyfnod allweddol 2 yn bodloni gofynion y maes llafur cytun yn llawn.  Bydd yr ysgol yn llunio camau gweithredu er mwyn  mynd i ‘rafael â’r gwaith a hyderir y gwelir CYSAG gynnydd ac engreifftiau o waith ym mis Hydref.

Cyfeirwyd at y materion gwella a nodwyd gan yr ysgolion: 

·         Ysgol Glan y Môr yn awyddus i helpu bechgyn gyflawni gwell safonau mewn addysg grefyddol drwy ddatblygu llythrennedd, darllen ac ysgrifennu.

·         Ysgol Talysarn yn awyddus i sicrhau bod y disgyblion yn gallu dangos cynnydd wrth astudio crefyddau amrywiol; sicrhau bod addysg grefyddol yn cael ei graffu gan Banel Cwricwlwm yr Ysgol yn rheolaidd

·          Ysgol Bro Hedd Wyn yn awyddus i sicrhau bod y Cyfnod Sylfaen yn cael profiadau mwy eang a chyfoethog

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â threfniadau monitro CYSAG, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y gwneir hynny fel a ganlyn:

·         Craffu ar ganlyniadau allanol ym mis Hydref neu yng nghyfarfod y Gwanwyn

·         Pori trwy adroddiadau arolygiadau

·         Gwahodd ysgolion i gyflwyno hunan arfarniadau gan sicrhau bod y cynnwys yn arfarnol ac yn feintiol

·         Gwahodd ysgolion i roi cyflwyniadau ar y gwaith a wneir ar lawr y dosbarth

O safbwynt gofynion addoli ar y cyd, esboniwyd ei fod i’w gynnal yn ddyddiol, ond nad oes rheidrwydd i’r Gwasanaeth fod dorfol, gall ei gynnal mewn dosbarthiadau ac nad oedd amser penodol ar ei gyfer.  Yn unol â’r ddeddf rhaid i’r sesiwn fod yn bennaf gristnogol gyda chais i ysgolion fod yn sensitif i grefyddau eraill.  Eglurwyd bod hawl gan rhieni i eithrio plant o addoli ar y cyd fel mae hawl ganddynt i’w heithrio o ddosbarthiadau addysg grefyddol.  Mae hawl gan Ysgol i fod yn gristnogol mewn addoli ar y cyd ond o safbwynt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYFLWYNIADAU

I dderbyn cyflwyniadau gan gynrychiolwyr ysgolion ar arferion da / pryderon mewn addysgu Addysg Grefyddol.     

 

 

Cofnod:

(a)              Eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei bod wedi gwahodd y bedair athrawes ganlynol i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor ar waith addysg grefyddol y cyfnodau allweddol:

 

Nia Hughes, Ysgol Talysarn                  -           Cyfnod Sylfaen

Heulwen Jones, Ysgol Bro Hedd Wyn  -           CA2

Miriam Amlyn                                         -           CA3

Heledd Jones                                         -           CA4

 

ond yn anffodus, oherwydd anhwylder ac amryfusedd ynglyn á lleoliad, dwy athrawes oedd yn bresennol.

 

(b)              Croesawyd Nia Hughes o Ysgol Talysarn, Athrawes Cyfnod Sylfaen a oedd yn gyfrifol am addysgu addysg grefyddol i ddosbarthiadau Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2.  Derbyniwyd cyflwyniad diddorol ganddi a gwelwyd engreifftiau da o waith a wneir yn Ysgol Talysarn yn seiliedig ar elfennau iaith, profiadau, empathi, gwasanaethau boreuol, a.y.b.  

 

Nodwyd bod y Cyfnod Sylfaen yn gofyn am fedrau sylweddol gan athrawon sef i ddilyn y plentyn, gosod ardaloedd gwahanol yn yr ystafell ddosbarth ac i gyd yn seiliedig ar eu profiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelodau unigol, nodwyd mai prin iawn ydoedd gwybodaeth plant meithrin am storiau beiblaidd ar gyrraedd yr ysgol ac nad oedd yr ysgol yn cydweithio hefo’r Eglwys a’r Capel yn Nhalysarn. Ychwanegwyd ei bod yn her i rai ysgolion sydd yn awyddus i ddefnyddio adnoddau lleol ond nad oedd bob tro yn hawdd os nad oedd cymunedau’n gyfoethog o addoldai a chymunedau ffydd.      

           

 

Nododd Aelod wrth edrych i’r dyfodol ar drefniadaeth addysg yn ardal Bangor, y byddai’n syniad i’r Pwyllgor hwn roi mewnbwn i’r trafodaethau fel bo unrhyw ysgol newydd yn gynhwysol o safbwynt ystyriaeth i gefndiroedd ffydd poblogaeth Bangor.  

 

(c)      Croesawyd Miriam Amlyn o Ysgol Eifionydd (sydd yn aelod o CYSAG fel cynrychiolydd Undeb NASUWT), i rannu gwybodaeth o gyflwyno’n draws-gwricwlaidd fel Pennaeth Adran Addysg Grefyddol. 

 

Nodwyd bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yn y sector uwchradd a’r pwnc yn cael ei gyflwyno am awr yr wythnos yn CA3 ac yn amrywio o ysgol i ysgol gyda phrofiadau y disgyblion yn wahanol ond ar y cyfan cyflwynir wers arferol academaidd i’w dysgu am grefydd. 

 

Gwelwyd uned o waith wnaethpwyd efo Blwyddyn 7 ar y pwnc Hindwaeth ac o hynny  adeiladu cyfres o wersi am ffyrdd o addoli, addoliad a’r adeiladau. Yn deillio o’r gwaith, bu i 85 disgybl greu ffilm a dangoswyd engraifft i’r Pwyllgor.  Tynnwyd sylw bod pwyslais yn y sector uwchradd fel yn y sector ar ddatblygu gwaith sy’n datblygu medrau trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a’r athrawon yn cydweithio’n llwyddiannus fel bo’r gwaith yn plethu’n gywir ac yn cyfrannu at addysg grefyddol. 

 

Penderfynwyd:             Derbyn, nodi a llongyfarch yr athrawon am y cyflwyniadau diddorol a diolch iddynt am eu gwaith a’u hymroddiad i’r pwnc.

 

         B.           DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD HER GwE

 

(i)            Cyflwynwyd i’r Aelodau

 

·         Llyfryn o dan y teitlRydych yn ymuno â’ch CYSAG lleol

·         Maes Llafur Cytun Gwynedd a Môn

·         Dyfodol Llwyddiannus

 

 

(ii)           Cwrs TGAU Astudiaeth Crefyddol Newydd

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod athrawon Addysg Grefyddol rhanbarth GwE, dan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU pdf eicon PDF 412 KB

(a)          I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b)        I ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)    Cofnodion cyfarfod diwethaf

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 3  Mawrth 2017.

 

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas uchod ar 7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsam a bod hawl i CYSAG Gwynedd enwebu un cynrychiolydd o blith yr Aelodau Etholedig, un cynrychiolydd o blith yr enwadau ac un cynrychiolydd o blith yr athrawon i fynychu’r cyfarfodydd hyn.

 

(b)          Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith ac Is-gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru .

 

 

Penderfynwyd:             (a)        Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion.

 

                                       (b)       Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar  23 Mehefin 2016 yn Rhyl.  

 

(c) Gofyn i Ymgynghorydd Her GwE fwrw pleidlais ar ran CYSAG Gwynedd fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Gwaith:         Gill Vaisey

                                       Alison Lewis