skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Drwy Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679 868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Adfyfyrio tawel neu weddi.

2.

ETHOL CADEIRYDD

ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21

 

3.

ETHOL IS-GADIERYDD

ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cyng. Dewi Roberts, Heledd Jones (NEU), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Edward Pari-Jones (Dyneiddwyr), Garem Jackson (Pennaeth yr Adran Addysg) a Dashu (Bwdïaeth)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

7.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 219 KB

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019 fel rhai cywir.

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Tachwedd 2019 fel rhai cywir.

 

8.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion o’r cofnodion.

 

9.

YMATEB I YMGYNGHORIAD CWRICWLWM I GYMRU: CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESAU pdf eicon PDF 262 KB

I ystyried ymateb i’r Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.  

Cofnod:

Nodwyd nad oedd cyfle wedi bod i gyfarfod i drafod yr ymateb a bod ymateb drafft wedi ei rannu gydag Aelodau ar gyfer sylwadau.  Ni dderbyniwyd sylwadau pellach.

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad.

 

10.

MATERION YN YMWNEUD A CYSAGAU pdf eicon PDF 437 KB

(a)  Llythyr i Athrawon Addysg Grefyddol

(b)  Linc i agenda CYSAGAU 20 Hydref 2020 –

http://wasacre.org.uk/cym-meetings.html

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at y papurau a dderbyniwyd ar gyfer cyfarfod diwethaf y CYSAGau.  Cyfeiriwyd yn benodol at y llythyr ‘Cyngor i Ysgolion’ ynglŷn â chyd-addoli yn ystod y pandemig a chafwyd cadarnhad fod y llythyr wedi cyrraedd yr ysgolion.

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad

 

11.

PRODFIADAU DISGYBLION AC ATHRAWON YN YSTOD Y CYFNOD GLO

I dderbyn adroddiad llafar.

Cofnod:

Rhannodd MA, CD, EBR a TRJ eu profiadau yn ystod y cyfnod heriol, ble nodwyd mai prin iawn

oedd yr amser ar gyfer paratoi.

Cyfeiriwyd at y sialensiau fel

Materion TG - nifer o’r disgyblion heb gyfrifiaduron a/neu gyswllt gwael i'r we a sgiliau rhai

teuluoedd ddim cystal ynghyd â phrinder cyfarpar

Lles - nodwyd y pwysau i gadw cyswllt gyda disgyblion yn ystod y cyfnod clo a’r angen am

gefnogaeth i’r plant wrth iddynt ddod yn ôl i’r ysgol, ond bod y plant yn gwerthfawrogi bod yn ôl yn

yr ysgol a gweld eu ffrindiau.

 

Nododd CYSAG ei werthfawrogiad o ymdrechion yr athrawon a’r ffaith bod Addysg Grefyddol i

weld yn cael yr un sylw yn y cyfnod clo, gan nodi bod yr athrawon wedi gwneud yn dda mewn

cyfnod anodd. 

Nododd y Cadeirydd fod yr uchod yn ddarlun calonogol iawn, gan gyfeirio at y pwysau ar

athrawon oedd yn dysgu o bell ac wyneb yn wyneb fyddai yn siŵr o fod yn gryn straen.

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad

 

12.

YSTYRIED SEFYLLFA ARHOLIADAU TGAU A LEFEL A

I dderbyn adroddiad llafar.  

Cofnod:

Yn dilyn datganiad y Gweinidog Addysg ar 10/11/20 am yr uchod, nodwyd pryder bod y datganiad yn codi llawer o gwestiynau a phryderon.  Cadarnhawyd, er nad oes disgwyl i ddisgyblion eistedd arholiadau yn 20/21, bod y disgyblion wedi colli llawer o amser, a dal angen cwblhau tair uned o waith.  O ran y drefn, nodwyd bod y profion i gael eu hasesu yn allanol, ond bod angen cael y manylder dipyn cyn y Nadolig, gan fod amser yn prysur fynd heibio.  Nodwyd, er gwybodaeth, bod y rhan fwyaf o bynciau yn yr un cwch.

Derbyniwyd yr adroddiad a chytunwyd

1.    Ceisio cael yr holl CYSAGau i gysylltu gyda y CBAC i ofn am eglurder cyn y Nadolig

2.    Cysylltu gyda CYSAGau eraill, a deilydd portffolio Addysg Cyngor Gwynedd a Siân Gwenllïan i fynegi pryder am y sefyllfa.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-21

I ddebyn diweddariad ar lafar am Adroddiad Blynyddol CYSAG.

Cofnod:

Cadarnhawyd ei bod yn ofyn statudol i greu Adroddiad Blynyddol, ac atgoffwyd CYSAG mai Bethan James oedd wedi ei wneud yn flaenorol, ond bod arbenigedd Bethan wedi ei golli oddi ar CYSAG erbyn hyn.  Ymddiheurodd y Cadeirydd nad oedd y gwaith wedi ei wneud ar gyfer 2018-19 na 2019-20.

Cytunwyd y byddai BMH yn trafod o fewn yr Adran, ac yna yn cysylltu gyda Bethan James ar ran CYSAG

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad.

 

14.

DYFODOL ADDYSG GREFYDDOL YM MHRIFYSGOL BANGOR A'R EFFAITH AR Y DDISGYBLAETH YN YSGOLION GWYNEDD

I dderbyn adroddiad ar lafar.

Cofnod:

Nodwyd mai ysgogiad yr eitem oedd y pryder ynglŷn â’r ail-strwythuro ym Mhrifysgol Bangor a’r pryder am ddyfodol y pwnc.  Nodwyd ei bod yn ymddangos bod unig aelod staff Addysg Grefyddol yr Adran yn gadael ddiwedd y flwyddyn er bod traddodiad hir o ddysgu AG yno.  Nodwyd ei bod yn ymddangos bod bwriad i ddod ag athrawon i mewn o ysgolion i wneud y rôl dysgu. 

Cytunwyd i dderbyniwyd yr adroddiad

 

15.

BETH I'W DYFODOL CANOLFAN ADDYSG GREFYDDOL Y BRIFYSGOL

Trafodaeth ar y mater uchod.  

Cofnod:

Saif Y Ganolfan ar Safle’r George ac mae ynddi lyfrau ac arteffactau pwysig a nodwyd pryder ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r casgliad hwn.

Nodwyd pryder am y sefyllfa uchod a’r sgil effaith o golli athrawon AG o ganlyniad.

Derbyniwyd yr adroddiad a chytunwyd y byddai y Cadeirydd yn :

1.    Gyrru llythyr at Brifysgol Bangor a’r Deilydd Portffolio Addysg yn holi am eu bwriadau, gan nodi pryder CYSAG am y sefyllfa ymarfer dysgu ac adnoddau. 

2.    Gan hefyd holi am ddyfodol y cwrs TAR yn sgil yr ail-strwythuro and yn sgil hynny dyfodol Canolfan AG Prifysgol Bangor fel adnodd.

Nodwyd y byddai yn ddiddorol gwybod pa golegau sydd yn cynnig cwrs AG Cymraeg ac yn cynnig ymarfer dysgu erbyn hyn.

 

16.

HUNAN ASESIAD YSGOLION pdf eicon PDF 764 KB

Adroddiad gan Catrin Lloyd Roberts, Pennaeth Ysgol Penisarwaun.

Cofnod:

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

Nodwyd bod y saith agwedd yn sgorio yn “dda” a llongyfarchwyd yr ysgol.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth i ben am 3.15 p.m.