skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom / Zoom Virtual Meeting

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Myfyrdod tawel neu weddi

Cofnod:

   Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr Eurfryn Davies. 

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cyng. Dewi Roberts, Heledd Jones (NEU), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Garem Jackson (Pennaeth yr Adran Addysg), Cemlyn R Williams (Aelod Cabinet Addysg) a Sion Huws (Adran Gyfreithiol)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried..

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 307 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020. (Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd

2020 fel rhai cywir, a’u llofnodi.

6.

GWAHODDIAD GAN CYSAGAU pdf eicon PDF 195 KB

Gwahoddiad i enwebu 4 cynrychiolydd i fynychu Cynhadledd Wanwyn CYSAGAU – sydd i’w chynnal 23 Mawrth 2021, drwy Zoom.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr enwebiadau ar gyfer mynychu y gynhadledd :

Dashu

Cynghorydd Paul Rowlinson

Eurfryn Davies

Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at y gwahoddiad gan CYSAGAU Cymru i hyd at 4 aelod o CYSAG Gwynedd fynychu eu Cynhadledd Wanwyn, yn rhithiol, ar 23 Mawrth 2021.

 

Penderfynwyd :

Derbyn yr enwebiadau ar gyfer mynychu y gynhadledd:

Dashu

Cynghorydd Paul Rowlinson

Eurfryn Davies

Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

7.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYSAG

Diweddariad ar y Cynnydd gyda Adroddiadau Blynyddol CYSAG ar gyfer 2018-2019 a 2019-2020

Penderfyniad:

Derbyn y sefyllfa, ond annog y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG yn cysylltu gyda Bethan James ar fyrder i symud y mater ymlaen.

Cofnod:

Nodwyd pryder nad oes Adroddiad Blynyddol wedi ei chwblhau ar gyfer y cyfnod 2018-2019 na 2019-20 er ei fod yn ofyn statudol.

 

Penderfynwyd :

Derbyn y sefyllfa, ond annog y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG i gysylltu gyda Bethan James ar fyrder i symud y mater ymlaen.

 

8.

YMATEB GAN BRIFYSGOL BANGOR YNGLYN A DYFODOL AG pdf eicon PDF 211 KB

I dderbyn a thrafod yr ymateb a dderbyniwyd gan Brifysgol Bangor ynglyn a

 

Dyfodol Canolfan AG Prifysgol Bangor, a

 

Dyfodol AG ym Mhrifysgol Bangor

 

 

 

 

 

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at y Dirprwy Is-Ganghellor gan gynnig iddo wahodd darlithydd o’r Brifysgol i fynychu cyfarfod nesaf CYSAG i roi cyflwyniad ar yr heriau sydd yn wynebu Addysg Grefyddol o fewn y Cwricwlwm newydd o fewn y dyniaethau

 

Cofnod:

Atgoffwyd y Grŵp bod pryder wedi ei godi yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â dyfodol AG ym Mhrifysgol Bangor a bod y Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Brifysgol i nodi y pryder hwn.  Rhannwyd yr ymateb gyda CYSAG a theimlwyd y byddai yn fuddiol gwahodd darlithydd o’r Adran i roi cyflwyniad ar yr heriau yn sgil y cwricwlwm newydd.

 

Penderfynwyd :

Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at y Dirprwy Is-Ganghellor gan gynnig iddo wahodd darlithydd o’r Brifysgol i fynychu cyfarfod nesaf CYSAG i roi cyflwyniad ar yr heriau sydd yn wynebu Addysg Grefyddol o fewn y Cwricwlwm newydd o fewn y dyniaethau

9.

ADDOLI AR Y CYD

I drafod addoli ar y cyd mewn Ysgolion

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi bod llawer o adnoddau ar gael - nid yn unig yr adnoddau a gyfeirir atynt gan CYSAGAU Cymru eu hunain ond yn y gymuned yn lleol.  Cytunwyd i gasglu yr holl bwyntiau cyswllt at ei gilydd cyn anfon llythyr atgoffa at yr ysgolion yn amlygu yr adnoddau hyn, a’u hannog  i ystyried addoli ar y cyd.

Cofnod:

Atgoffwyd y Grŵp o’r llythyr oedd wedi ei dderbyn gan CYSAGAU Cymru ynglŷn ag addoli ar y cyd tra mae ysgolion ar gau.  Nodwyd y farn bod addoli ar y cyd yn rhan werthfawr o fywyd ysgol ond na ddylai fod yn rhoi pwysau ychwanegol ar athrawon yn y cyfnod anodd hwn.  Nodwyd bod llythyr CYSAGAU Cymru yn cynnig adnoddau ac yn rhoi syniadau i’r perwyl.  Nododd y Cadeirydd bod dyletswydd ar CYSAG i fonitro addoli ar y cyd ac ystyried a oes unrhyw beth arall y gallai CYSAG ei wneud i helpu?

 

Cyfeiriwyd at brofiadau aelodau o’r Pwyllgor a nodwyd bod ysgolion yn dod o hyd i’w traed erbyn hyn, ond eu bod o dan bwysau mawr o ran TGAU.  Serch hynny, efallai ei bod yn amser nawr i geisio hyrwyddo normalrwydd.  Nodwyd efallai fod y platfform yn ei le i athrawon allu ymateb i hyn?  Nodwyd bod rhai asiantaethau wedi creu pethau, ar lefel leol yn barod allai fod o gymorth o bosib?

Nodwyd pryder bod disgyblion yn treulio llawer o amser ar y sgrin, ac efallai y byddai gwasanaeth byw yn creu straen ychwanegol ormodol, a chadarnhawyd mai y peth diwethaf oedd CYSAG eisiau ei wneud oedd creu straen a phwysau ychwanegol.

Cyfeiriwyd hefyd at argaeledd gwasanaethau rhithiol a chwestiynwyd oni fyddai modd gyrru cyswllt rhithiol i un gwasanaeth, fyddai ar gael i bob ysgol?  Byddai hyn yn lleihau straen ar athrawon ac yn caniatáu i gael mynediad at amrywiol grefyddau ar yr un pryd.

Soniwyd am un ysgol ble mae y Gweinidog lleol wedi paratoi gwasanaeth ar adegau penodol megis y Nadolig, ond wrth gwrs bod materion diogelu i’w hystyried cyn gallu cael presenoldeb y Gweinidog yn yr ysgol ei hun.

 

Penderfynwyd :

Derbyn yr adroddiad a nodi bod llawer o adnoddau ar gael - nid yn unig yr adnoddau a gyfeirir atynt gan CYSAGAU Cymru eu hunain ond yn y gymuned yn lleol.  Cytunwyd i gasglu yr holl bwyntiau cyswllt at ei gilydd cyn anfon llythyr atgoffa at yr ysgolion yn amlygu yr adnoddau hyn, a’u hannog i ystyried addoli ar y cyd.