Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Ann Roberts 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Ymddiheuriadau: Y Cynghorydd Gweno Glyn a John Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: 1. DATGAN
BUDDIANT PERSONOL Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Nid oedd materion brys
i’w trafod. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar y 5ed o Orffennaf 2016 fel rhai cywir Cofnod: 2. COFNODION Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5
Gorffennaf 2016 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet - y Gymraeg Cofnod: 3. ADRODDIAD
YR AELOD CABINET – Y GYMRAEG Cyflwynwyd –
adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau
diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:- ·
Awdit Iaith a’r cynllun gweithredu. Cyfarfod pedwar Pennaeth Gwasanaeth – Economi
a Chymuned, Rheoleiddio, Oedolion,
Iechyd a Llesiant, ac Ymgynghoriaeth i bwysleisio
pwysigrwydd yr iaith Gymraeg gan ofyn iddynt raglennu gwaith i ymateb i’r
materion a godwyd. ·
Ceisiwyd cyfarfod efo Aelodau Cabinet Cynghorau
cyfagos i drafod sut maent yn bwriadu ymateb i ofynion Safonau Iaith ond
methiant llwyr fu’r ymgais hynny. Wedi
cyfarfod buddiol iawn efo Swyddog Iaith Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy,
cytunwyd i gynnal cyfarfod ar y cyd ym mis Ionawr gyda holl Swyddogion Iaith i drafod y Safonau
Iaith. ·
Cafwyd
cyfarfod buddiol gyda swyddog o Swyddfa’r Comisiynydd Iaith i rannu gwybodaeth. ·
Cyfarfod Grŵp Strategol Hunaniaith
wedi ei gynnal, yno cytunwyd i wahodd aelodau Grŵp Gweithleoedd hunaniaith a chynrychiolaeth o Fforwm Iaith Môn i’r
cyfarfod nesaf ar gyfer trafod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. ·
Lansio
Popdy - Canolfan Iaith Bangor yfory gydag Alun Davies
AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru . ·
Bu Alun Davies AC ar ymweliad, yn Ysgolion Abercaseg a
Phen-y-bryn, Bethesda heddiw. Yno cafwyd
sgwrs gyda Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg, Llywodraeth Cymru sy’n
gyfrifol dros Fentrau Iaith a bydd cyfle pellach i drafod llwyddiannau ynghyd â
materion na lwyddwyd eu cyfarch mewn cyfarfod sydd eto i’w drefnu. Gofynnwyd a oedd paratoadau ar gyfer y
miloedd o bobl, a fydd yn symud i mewn i’r ardal yn sgil datblygiad Horizon? Adroddwyd
bod cwmni Horizon wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd
gyda gwasanaethau Cyngor Gwynedd wythnos nesaf.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
YMGYNGHORIAD AR STRATEGAETH Y GYMRAEG PDF 404 KB I gyflwyno
adroddiad ac ymateb drafft yr Aelod Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: 4. YMGYNGHORIAD
AR STRATEGAETH Y GYMRAEG Cyflwynwyd ymateb drafft yr Aelod Cabinet
i’r ddogfen ymgynghori: Miliwn o
siaradwyr erbyn 2050. Nodwyd bod ffocws
Strategaeth Iaith y Llywodraeth flaenorol wedi symud ymlaen erbyn y Strategaeth
hon i ganolbwyntio bron yn llwyr ar addysg a thwf addysg Gymraeg fel y cyfrwng
i allu gwireddu’r miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Adroddwyd bod ·
Angen
cyfeirio mwy at gadarnleoedd y Gymraeg a sut y bwriedir cryfhau’r Gymraeg yn yr
ardaloedd hynny sydd yn meithrin y Gymraeg yn gwbl naturiol. ·
Angen
cyfeirio at gynllunio cymunedol ·
Angen
ymrwymiad go iawn a fydd yn treiddio i holl waith Llywodraeth Cymru Gwnaed
y sylwadau ychwanegol ar yr ymateb drafft ·
Nodwyd
nad oes cyfeiriad ar sut y bwriedir gwireddu’r Strategaeth ac o ble daw’r
adnoddau i sicrhau ei llwyddiant. ·
Cyfeirir at addysg bellach ac addysg uwch. Nodwyd
pryder aelod am y gefnogaeth ariannol a roddir i fyfyrwyr Cymru i fynd i
brifysgolion o’u dewis. ·
Nodwyd yr angen am eglurder wrth gyfeirio at addysg
ddwyieithog. ·
Awgrymodd
aelod bod angen sefydlu ardaloedd penodol Gymraeg. ·
Angen rhoi gwerth economaidd i’r Gymraeg a rhaid
defnyddio deddfau cynllunio i warchod y Gymraeg. ·
Nodwyd bod angen ceisio perswadio pobl Gymraeg i
ddefnyddio’r Gymraeg. ·
Angen
rhoi ystyriaeth i swyddi yn y Strategaeth. ·
Angen
sicrhau nad yw’n bosib cam-ddehongli’r ymateb drafft o dan y Maes datblygu 3:
Addysg a bod angen cynnwys diffiniad o bolisi iaith addysg Cyngor Gwynedd. Adroddwyd y bydd yr ymateb drafft i’w
gyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth cyn diwedd y mis gyda’r cyfnod ymgynghori yn
dod i ben ar 31 Hydref 2016. Diolchwyd i’r aelodau am eu sylwadau ac
adroddwyd bod modd i’r aelodau ymateb yn uniongyrchol i’r ymgynghoriad hefyd. PENDERFYNWYD
ymgorffori’r sylwadau ychwanegol yn yr ymateb i’r ddogfen ymgynghori ar ran
Cyngor Gwynedd. |
|
CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT Adroddiad
llafar gan y Swyddog Addysg Ardal Gwynedd Cofnod: 5. CYNLLUN
STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT Derbyniwyd adroddiad llafar gan y
Swyddog Addysg Ardal Gwynedd yn egluro bod Cynllun 2017-20 yn parhau gyda phum
deilliant y cynllun 2010. Adroddwyd y
bwriad i osod targedau uchelgeisiol ond
yn gyraeddadwy gan y bydd y Cyngor yn gorfod adolygu cynnydd yn erbyn y
targedau hynny. Eglurwyd y bwriad gwreiddiol i
gyflwyno cynllun drafft i’r Pwyllgor Iaith ond oherwydd bod templed y cynllun
wedi newid cymaint ni fu hynny’n bosibl. Yn ogystal, adroddwyd nad oedd sesiynau
ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar draws y Gogledd wedi dod i ben tan wythnos
diwethaf, gyda’r olaf yn Llandudno. Adroddwyd ar y
tair Adran a’r deilliannau ynghyd a’r targedau drafft mae Cyngor Gwynedd yn
bwriadu gosod yn y cynllun gweithredu i ymateb i’r gofynion. Nodwyd bod fframwaith Estyn yn gofyn cwestiwn
am y modd y mae’r Cyngor yn cynllunio’n fwriadus a bydd angen dangos
hynny. Nodwyd yr amserlen
allweddol ganlynol:- 24 Hydref 2016 Awdurdodau lleol i lansio ymgynghoriad
statudol am 8 wythnos Canol Tachwedd Anfon data Mudiad Meithrin at yr awdurdodau 20 Rhagfyr 2016 Awdurdodau’n cyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2017-20 i’r Llywodraeth. Nodwyd er bod yr amserlen yn dynn bod
posibilrwydd y bydd y ddogfen wedi’i pharatoi ar amser. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu
Estyn bob blwyddyn i archwilio ar sail themâu ac archwiliwyd un o feysydd y
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Dewiswyd Gwynedd a Fflint i’w harchwilio. Nodwyd bod adroddiad terfynol Estyn ar eu
gwefan erbyn hyn ac mae paragraph 49 yn nodi fel a
ganlyn:- ‘Ceir rhai enghreifftiau da ble defnyddir
arbenigedd yn effeithiol i ddatblygu darpariaeth ar draws awdurdodau lleol,
mewn cydweithrediad â chonsortia rhanbarthol a rhwydweithiau rhanbarthol. Enghraifft o hyn yw datblygu’r ‘Siarter
Iaith’ yng Ngwynedd.
Nod y Siarter Iaith yw darparu fframwaith i hyrwyddo a chynyddu’r
defnydd o’r Gymraeg gan ddisgyblion mewn cyd-destun cymdeithasol. Ceir
arwyddion cynnar for y ‘Siarter’ yn dechrau cael
effaith gadarnhaol ar gynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan
ddisgyblion yn ysgolion Gwynedd. Mae’r ‘Siarter’ yn cael ei chyflwyno mewn
ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd.’ Nodwyd yr angen i sicrhau bod disgyblion
sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgolion yn gallu dilyn y
cyrsiau yn y Gymraeg yn y Colegau wedyn. PENDERFYNWYD
cynnal cyfarfod arbennig i drafod drafft o’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg 2017-20 yn ystod y cyfnod ymgynghori. |
|
DIWEDDARIAD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH PDF 321 KB Adroddiad
y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle yn diweddaru’r aelodau ar weithrediad
y Safonau Iaith Cofnod: 6. DIWEDDARIAD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU
IAITH Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog
Datblygu Iaith Gweithle. Nodwyd bod y
gwaith gyda’r Gwasanaeth Oedolion yn canolbwyntio ar ddeall perthynas y Safonau
Iaith a Mwy na Geiriau, a sicrhau bod unrhyw ymyrraeth a gynllunnir yn ateb
gofynion gweithredu Mwy na Geiriau a’r Awdit Iaith
mewnol. Eglurwyd y mewnbwn a roddwyd yn y sesiynau hyfforddiant ar
Ymwybyddiaeth Iaith y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer gweithwyr cymdeithasol
newydd. Nodwyd bod y
pwyslais yn y cyfnod diwethaf wedi bod ar godi ymwybyddiaeth staff a thimau am
ofynion y Safonau Iaith, ac y bydd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu i
ledaenu negeseuon am arfer dda. Adroddwyd hefyd
bod sgwrs wedi ei chynnal gyda’r tîm Dysgu a Datblygu i edrych ar newidiadau
posib i hyfforddiant datblygu sgiliau iaith. |
|
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: 7. CWYNION IAITH Cyflwynwyd -
adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar yr un gwyn iaith ddiweddaraf i
law a’r ymateb. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |