Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Ann Roberts 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer
2016/17 Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Eirwyn Williams yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer
2016/17 Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Charles Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb Cofnod: Y Cynghorydd Tom Ellis, Eric M. Jones ac
Owain Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 21/04/2016 fel rhai cywir (ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2016 fel rhai cywir. Mewn ymholiad am enw traeth lleol,
cadarnhaodd y Swyddog Datblygu Iaith ei bod wedi derbyn ateb gan ddau allan o bum
cyngor tref/cymuned leol yn nodi bod y ddau enw yn cael ei ddefnyddio - Traeth Greigddu a Black Rocks. Y Swyddog Datblygu Iaith i fynd yn ôl at y
tri chyngor cymuned arall i gael ymateb er cael tystiolaeth i Ordnans. Cyfeiriwyd at fap Saesneg a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor Cynllunio ddydd Llun, 4 Gorffennaf a chytunwyd i drafod y mater efo’r
Adran Cynllunio. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet – y Gymraeg Cofnod: Croesawyd Debbie Anne Jones yn ôl i’r gwaith
yn dilyn cyfnod mamolaeth. Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod
Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan
gynnwys y canlynol:- ·
Awdit Iaith a’r cynllun gweithredu. Hyrwyddo’r Iaith drwy ein hadnodd gwerthfawr,
sef y staff. ·
Cyfarfod
efo cynghorau cyfagos i drafod sut i ymateb i ofynion Safonau Iaith i ddod ·
Cynhadledd
Prifysgol Bangor a’u gwaith ymchwil oedd yn cynnig tystiolaeth. Angen mwy o gydweithio. ·
Cyfarfod
Prifysgol Aberystwyth. Adroddwyd bod y
Brifysgol yn chwilio am feysydd ymchwil yn y maes tai, symudiad pobl ac eraill. ·
Canolfan
Iaith Bangor yn agor diwedd yr haf. ·
Cyfarfod
i’w drefnu efo gweision sifil Llywodraeth Cymru i drafod Hunaniaith
Cyngor Gwynedd PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu
Iaith yn manylu ar y cwynion iaith ddiweddaraf i law a’r ymatebion. Codwyd cwyn am
dystysgrifau gwersi nofio uniaith Saesneg yn unig a
gyflwynir i blant gan y Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli. Adroddodd aelod ei
bod wedi rhoi cwyn ymlaen bythefnos yn ôl am arwydd gyda Chymraeg
gwallus arno. Nid oedd y Swyddog
Datblygu Iaith wedi derbyn y gwyn hyd yn hyn. Adroddwyd bod yr awdit iaith yn dangos yr angen i dargedu meysydd penodol
fel arwyddion a hamdden. PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL I'R COMISIYNYDD IAITH PDF 410 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith i’r Comisiynydd Iaith yn
adrodd yn erbyn y safonau iaith a ddaeth i rym ar 31 o Fawrth
2016. Nodwyd mai isafswm ydi'r safonau iaith ac mai uchelgais Cyngor Gwynedd
ydi cyrraedd lefelau uwch. PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
AWDIT IAITH - CANLYNIADAU IAITH A CHYNLLUN GWEITHREDU PDF 98 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu
Iaith gan yr Uwch Reolwr - Democratiaeth a Chyflawni. Manylwyd ar sut aethpwyd ati i gynnal yr awdit a’r canlyniadau o’r gwaith hynny a wnaeth arwain at y
camau gweithredu pellach. Adroddwyd bod
yna fwlch yn rhai elfennau gwasanaeth oedd yn rhwystro rhag gallu cynnig
gwasanaeth Cymraeg cyflawn, er enghraifft, systemau ddim ar gael yn y
Gymraeg. Er hynny, adroddwyd y byddir yn
cyfathrebu efo cyrff eraill i roi pwysau arnynt i gynnig gwasanaeth yn Gymraeg. Darganfu'r ‘ymarferiad siopwr cudd’ bod y
patrwm iaith yng nghlybiau ieuenctid yn siomedig iawn gyda’r angen i arfogi
staff i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg bob tro. Adroddwyd nad oedd y Cyngor wedi paratoi
esboniad o beth yn union mae Polisi Iaith yn golygu wrth ddefnyddio’r
iaith. O ganlyniad, crëwyd canllawiau
newydd yn ddiweddar sy’n cynnwys cyfeiriad at gymorth. Cyfeiriwyd at yr angen i gytundebau efo cwmniau allanol gynnwys amodau sy’n manylu beth yn union
oedd ei angen, er enghraifft gosod arwyddion Cymraeg, a bod angen swyddog
Cymraeg ar y safle. Nodwyd bod
recriwtio yn rhai meysydd yn anodd a bod trefniadau ar y gweill i drafod y
mater fesul Pennaeth Gwasanaeth, yn sgil penderfyniadau blaenorol gan y
Pwyllgor hwn. Cytunwyd bod angen newid ymddygiad staff a
rheolwyr ac y gellir dylanwadu drwy’r
Tîm Cyfathrebu Mewnol. Nodwyd bod y geiriad
‘Cychwynnwch y sgwrs yn y Gymraeg bob tro’ yn bwysig iawn i newid
ymddygiad staff a rheolwyr. Awgrymodd aelod y byddai gofyn i benaethiaid
ysgolion am adborth ar y Siarter Iaith yn werthfawr iawn. Nodwyd pryder yr aelod bod gwaith papur efo’r
Siarter Iaith yn mynd yn fyrdwn ar yr ysgolion.
Mewn ymateb i bryder yr aelod, adroddodd yr Uwch Reolwr - Democratiaeth
a Chyflawni bod Cyngor Gwynedd wedi arbrofi ers dwy flynedd ar y Siarter Iaith
ac yn awr yn edrych beth sydd yn ymarfer da. Eglurodd y Swyddog Datblygu Iaith bod y
Cyngor yn y broses o ddatblygu gwe iaith ar gyfer y swyddfa sydd yn cynnwys
wyth cwestiwn syml ar ddefnydd iaith, agwedd a hyder staff. Bydd y Swyddog Datblygu Iaith yn cael clywed
gan y swyddogion eu hunain yn hytrach na rheolwyr efo’r we iaith, gan mai barn
rheolwyr yn unig sydd ei dderbyn o’r awdit iaith. Y
bwriad ydyw defnyddio hwnnw ar gyfer ymyrraeth targedu adrannau sydd angen
sylw. Gwnaed y sylw mai anogaeth sydd angen ar
staff a chyfeiriwyd at y gwaith anhygoel wnaed gan Dîm Peldroed
Cymru yn ddiweddar ac y gall Cyngor Gwynedd wneud gwaith tebyg. Nodwyd bod dau swyddog cymunedol Hunaniaith wedi bod at Glybiau Ieuenctid yn cyflwyno hanes
Cymru. PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
YMCHWILIAD IAITH - GWELEDEDD Y GYMRAEG YNG NGWYNEDD PDF 57 KB Derbyn diweddariad ar waith yr Ymchwiliad Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Cynllunio
Strategol, Perfformiad a Phrosiectau yn rhoi diweddariad ar waith yr ymchwiliad
hyd yma. Adroddwyd bod cynnydd da gyda’r
gwaith ac anelir i adrodd i’r Pwyllgor Iaith ym mis Ionawr 2017. PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD Y GWEITHGOR AR YR IAITH GYMRAEG A LLYWODRAETH LEOL PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad a gyhoeddwyd gan y
Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol, Mehefin 2016 gan y Swyddog
Datblygu Iaith. Nodwyd bod yr adroddiad
yn gadarnhaol iawn i Wynedd ac yn cynnig 14 o
argymhellion. Adroddwyd bod Cyngor
Gwynedd yn barod yn ymateb i’r rhan fwyaf o’r argymhellion hyn. Nodwyd bod un o’r argymhellion yn berthnasol
iawn i Wynedd, sef “Dylai Awdurdodau Lleol, gan
gynnwys yn eu swyddogaeth fel Awdurdodau Addysg Leol, fod dan ddyletswydd
statudol i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, a lle bo angen, i
baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.” PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon y sylw canlynol at y Gweinidog Gwasanaethau
Cyhoeddus yn nodi bod y Pwyllgor yn croesawu'r
adroddiad sydd yn symud i’r cyfeiriad iawn ac yn edrych ymlaen at y camau
nesaf. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR IAITH AR GYFER 2016-17 PDF 44 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni ar raglen
waith y Pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Awgrymodd aelod bod angen datganiad gan y
Cyngor ar ddatblygiad y Cynllun Iaith. Adroddwyd y byddir yn cyflwyno Cynllun
Strategol newydd ym mis Mawrth 2017 gyda datganiad o fwriad i’w gyflwyno i staff
cyn hynny. Adroddwyd bod ystyriaeth yn
cael ei roi i gryfhau cyfarfodydd y Cyngor llawn a chynnwys trafodaeth
datganiad ‘cyflwr y genedl’ ar gynlluniau o bwys. Byddai modd cynnwys materion fel yr awdit iaith yn hynny. PENDERFYNWYD
nodi cynnwys yr adroddiad. |