Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679870
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd i’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd Alwyn
Gruffydd fel Caderiydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22. Cofnod: Ethol Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn
2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor ar
gyfer y cyfnod 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd
Judith Humphreys fel Is Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22. Cofnod: Ethol
Y Cynghorydd Judith Humphreys fel Is Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Alan Evans, Y Cynghorydd Eirwyn Williams, ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 29ain Ebrill, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 29 Ebrill 2021 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 442 KB I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Uwch Reolwr Busnes, Oedolion, Iechyd
a Llesiant ac amlygwyd y camau a gymerwyd
o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg. Tynnwyd
sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn: ·
Integreiddio
gwasanaethau wrth gydweithio efo partneriaid megis Bwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr. Ategwyd y byddai hyn yn newid y ffordd o weithio gan sicrhau gwell
defnydd o adnoddau. ·
Nodwyd bod staff y Cyngor yn
cydymffurfio â Pholisi Iaith y Cyngor, fodd
bynnag daw heriau gyda phartneriaid sydd
â pholisi iaith
wahanol i’r Cyngor. ·
Amlygwyd rhwystrau a
heriau gan nodi enghreifftiau fel defnydd iaith wrth gofnodi nodiadau
defnyddwyr. ·
Er bod sgiliau
iaith staff y Cyngor yn
cyrraedd y dynodiad angenrheidiol, nid oes
gwybodaeth ynghylch sgiliau iaith staff partneriaid. ·
Amlygwyd bod angen mwy
o waith wrth gomisiynu gwasanaethau gan fod yr adran yn dibynnu ar sector
annibynnol/ preifat sydd ddim yn atebol i safonau iaith a disgwyliadau'r Cyngor. ·
Trafodwyd heriau gan
gynnwys recriwtio a chadw staff a’r datrysiadau megis gwaith hyrwyddo llwybrau
gyrfa o fewn y maes. Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau
canlynol:- ·
Diolchwyd am yr
adroddiad a gofynnwyd a oedd y ffigwr 79% o staff sy’n cyrraedd y dynodiad
iaith yn cael effaith ar drigolion Gwynedd a’u dewis i dderbyn gwasanaethau
drwy’r Gymraeg. ·
Gofynnwyd i ba raddau
mae polisi iaith y Bwrdd Iechyd yn rhwystro Cyngor Gwynedd i gynnig darpariaeth ddwyieithog,
ar gynffon hyn gofynnwyd a oes dulliau mapio iaith staff y Bwrdd Iechyd. ·
Mynegwyd balchder bod
profiad defnyddwyr yn cael blaenoriaeth o fewn y gwasanaeth. ·
Holwyd am safbwynt
arolygwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â defnydd y Gymraeg o fewn yr
adran. Mewn
ymateb, nodwyd: ·
Bod yr her i sicrhau
staff sydd â sgiliau iaith Cymraeg yn fwy mewn rhai ardaloedd, fodd bynnag ar y
cyfan, isel iawn yw’r ffigwr o staff sydd heb allu yn y Gymraeg o gwbl. ·
Mai o fewn y swyddfa ac
wrth gofnodi nodiadau ar y system mae sicrhau defnydd y Gymraeg yn fwy heriol
gan fod y rhain yn cael eu rhannu efo cydweithwyr allanol. ·
Bod trafodaethau rhwng
yr Ymgynghorydd Iaith a’r Bwrdd Iechyd yn digwydd er mwyn gallu mapio sgiliau
staff. ·
Un her ddiweddar oedd
sicrhau gwasanaethau cyfarfodydd ar-lein
yn y Gymraeg gan nad oedd cyrff eraill yn defnyddio'r un meddalwedd. ·
Mai cam nesaf i’r adran
yw adnabod sgiliau iaith y gweithlu a phwy sydd angen hyfforddiant. Eglurwyd y
byddai hyn yn rhoi cyfle i gydweithio efo darparwyr sydd angen cymorth er mwyn
sicrhau hyn. ·
Bod gofyniad i’r adran
adrodd yn flynyddol ar sgiliau iaith ac yn ogystal bod y Bwrdd Iechyd hefyd yn
casglu data sgiliau iaith a’u diweddaru’n rheolaidd. Fodd bynnag, gan nad yw’r
dulliau yn gymharol nid yw’n bosib cymharu setiau data. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PLANT A CEFNOGI TEULU PDF 476 KB I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi
Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulu
ac amlygwyd
y camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg. Ategwyd
bod y gwasanaeth yn cynnwys elfen Gwasanaethau
Cymdeithasol, Tîm
Cefnogi Teulu, Blynyddoedd Cynnar & Meithrin, ac
adran Ieuenctid a Chyfiawnder.
Eglurwyd bod gan bob rhan o’r gwasanaeth cyfrifoldebau eang. Tynnwyd
sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn: ·
Hybu a hyrwyddo
gwasanaethau blynyddoedd cynnar wrth gydweithio efo Hunaniaeth. ·
Annog gweithwyr i ddefnyddio a
gwella eu sgiliau iaith, a
chyflwyno
adnoddau a chymorth i ofalwyr plant (childminders). ·
Cefnogi Cynllun
Croesi’r Bont ar gyfer trochi plant meithrin - nodwyd bod 11 cylch y Sir yn
derbyn cefnogaeth gan y cynllun hyd hwn. ·
Darparu cefnogaeth
i rieni – sesiynau clwb cwtsh ar lein 35 o
unigolion ·
Darparu cefnogaeth
i blant
a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau bod anghenion
iaith bob plentyn wedi ei hystyried. ·
Eglurwyd er bod Iaith
yn ffactor wrth ystyried pecyn gofal a chefnogaeth, mae ambell i blentyn neu
blant yn dod i ofal oherwydd risgiau neu anghenion dwys lle bod lleoliad
all-sirol yn angenrheidiol. Ategwyd er nad oedd modd i sicrhau dewis iaith yn
yr achos yma, bod y Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarch anghenion ieithyddol drwy
gadw cyswllt dros y ffon a darparu adnoddau yn eu lleoliad. ·
Rhannwyd a’r pwyllgor
bod 91% o weithwyr adran yn cyrraedd dynodiad iaith a rhoddwyd enghraifft o’r
Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi ymdrechu i ddysgu’r iaith ac
erbyn hyn yn rhugl. ·
Sicrhawyd bod
cytundebau trydydd parti yn cynnwys gofynion iaith mewn, ac eithrio rhai
cytundebau unigol sy’n ymwneud a lleoliad all-sirol. ·
Mynegwyd bod heriau
recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol sydd yn arwain at recriwtio gweithiwr
Di-gymraeg er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth a dyletswyddau statudol diogelu. ·
Diolchwyd i’r uned
gyfieithu am yr holl gefnogaeth yn
sicrhau bod cyfarfodydd rhithiol wedi parhau yn y Gymraeg. Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd
y sylwadau canlynol:- ·
Holwyd beth yw
cynlluniau’r adran i ymdopi a’r heriau megis recriwtio staff Cymraeg a chynnig
dewis iaith ragweithiol. ·
Gofynnwyd a oes unrhyw
beth all yr adran wneud ar y cyd efo’r sector addysg uwchradd i gwrdd â
phroblem recriwtio. ·
Holwyd pa mor gyffredin
yw sefyllfa o blentyn Cymraeg yn cael eu lleoli gyda rhieni maeth di-gymraeg? ·
Gofynnwyd beth
yw’r meini
prawf er mwyn i gylch meithrin cael
bod yn rhan
yn y cynllun Croesi’r Bont gan
mai dim ond 11 o gylchoedd sydd wedi
nodi. ·
Mynegwyd diolch i’r
adran am eu holl waith a bod eu hangerdd tuag at ddiogelu plant Gwynedd a’r
iaith Gymraeg yn ysbrydoledig. Ychwanegwyd diolch i’r Pennaeth
am ddisgrifio’r pwysau a straen sydd wedi bod ar y staff ag am egluro’r
sefyllfa ynglŷn â phrinder gweithwyr cymdeithasol. ·
Holwyd a oes llai o
bobl Cymraeg eu hiaith yn maethu neu fabwysiadu a beth fuasai’r rhwystrau. · Mynegwyd pryder bod plant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
YMGYNGHORIAD POLISI CENEDLAETHOL SEILWAITH IEITHYDDOL Y GYMRAEG PDF 341 KB I gyflwyno papurau’r Ymgynghoriad er gwybodaeth ac er mwyn
gwahodd sylwadau gan yr aelodau fydd yn cyfrannu at ymateb y Cyngor i'r
ymgynghoriad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cyflwynwyd
dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru gan yr Ymgynghorydd Iaith gan nodi bod
swyddogion iaith y Cyngor yn paratoi ymateb. Ategwyd bod hyn yn rhoi cyfle i
aelodau’r Pwyllgor gynnig sylwadau i fwydo mewn i ymateb y swyddogion. Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- ·
Gofynnwyd a fydd
cysylltiad gydag uned Cynllunio Iaith ym Mhrifysgol Bangor er mwyn derbyn
sylwadau gan arbenigwyr byd eang. ·
Defnydd iaith yw'r
flaenoriaeth os meddwl cael miliwn o siaradwyr, pwnc academaidd yw seilwaith ·
Holwyd a oes cyfeiriad
at Ap Geiriaduron o
fewn y ddogfen. Mewn
ymateb:- ·
Nodwyd gan mai dogfen
Llywodraeth Cymru yw hon, nid oes lle ar y Cyngor fynd i dderbyn sylwadau gan y
Brifysgol. ·
Eglurwyd bod y ddogfen
yn cyfeirio at nifer o adnoddau gan gynnwys yr ap Geiriaduron ac eglurwyd mai
un o’r cynigion yw bod un rhyngwyneb yn cael ei greu er mwyn cael mynediad at
yr holl adnoddau. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU'R GYMRAEG PDF 348 KB I
gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i'w gymeradwyo gan yr Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cyflwynwyd
yr adroddiad blynyddol gan yr Ymgynghorydd Iaith. Eglurwyd bod yr adroddiad yn
manylu ar gydymffurfiaeth y Cyngor o safonau iaith y Comisiynydd a bod angen
derbyn sylwadau ar y ddogfen ddrafft hon. Aethpwyd
ati i egluro beth yn union sydd angen eu cynnwys o fewn y ddogfen megis: ·
Cwynion ·
Nifer o staff sy’n meddu
ar sgiliau iaith Cymraeg ·
Nifer y staff
sydd wedi
mynychu
cyrsiau hyfforddiant penodol
yn y Gymraeg ·
Nifer swyddi sydd wedi eu
hysbysebu gyda dynodiad Cymraeg yn
hanfodol Eglurwyd
bod modd defnyddio hyn fel cyfle i amlygu arferion da'r cyngor a sut y
goresgynnwyd heriau sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er enghraifft
llwyddiannau ym maes cyfieithu sy’n arwain y blaen o ran cyfieithu ar y pryd
mewn pwyllgorau rhithiol. Ategwyd
hyn gan Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg gan nodi bod gwersi Cymraeg
mor brysur ac erioed ac wedi parhau ar-lein. Cyfeiriwyd unwaith eto at
enghraifft o’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi parhau i
ddysgu Cymraeg ac o ganlyniad wedi datblygu’i sgiliau’n sylweddol. Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- ·
Mynegwyd llongyfarch
i’r tîm cyfieithu am eu gwaith yn addasu i gyfieithu ar y pryd yn rhithiol. ·
Rhoddwyd sylw bod angen
ysgogi trigolion i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda’r Cyngor drwy newid delwedd y
Cyngor o un llai swyddogol. Ategwyd bod pobl yn defnyddio Cymraeg wrth gysylltu
â chynghorwyr ond nid efo swyddogion. ·
Holwyd os mai dim ond
pedwar cwyn oedd wedi ei dderbyn ac i egluro pam ei fod yn isel. Mewn
ymateb: ·
Eglurwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn edrych
ar ddefnydd iaith
o fewn derbynfeydd a
gwasanaethau
wyneb i wyneb, fodd bynnag mae’r canolbwynt ar
weithrediad mewnol trefniadau staff ac
nid os yw’r cyhoedd yn defnyddio’r
Gymraeg. ·
Nodwyd bod y Comisiynydd Iaith
yn ceisio gweld sut mae
modd annog
mwy o ddefnydd ymysg y cyhoedd. ·
Mewn ymateb, nodwyd mai
cwynion yn erbyn safonau neu bolisïau’r Cyngor yn unig sydd wedi adrodd i’r
pwyllgor iaith a dyna pam dim ond pedwar sydd i’w nodi. |
|
CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG A'R GYFUNDREFN ADDYSG DROCHI PDF 310 KB I ystyried a chynnig sylwadau ar gynnwys y Cynllun Strategol
drafft a chynnig sylwadau ar y cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu hwnt. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Eglurwyd
bod hyn yn gychwyn ar bennod
newydd o
safbwynt cynllunio'r Gymraeg mewn addysg ac
y bydd y
cynllun strategol ar ei newydd wedd yn
weithredol o Fedi 2022 ymlaen. Ategwyd mai trochi i’r Gymraeg drwy’r system
addysg yw’r model mwyaf dibynadwy ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg sef diben
strategaeth y Llywodraeth; Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Rhannwyd
gweledigaeth yr Aelod Cabinet
dros Addysg ynghyd â gweledigaeth
Pennaeth yr Adran Addysg.
Trafodwyd y 7 deilliant o ran y CSGA newydd am y ddeng mlynedd nesaf yn ogystal
â’r amserlen ymgynghori. Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- ·
Rhoddwyd sylw bod angen
ymestyn ffiniau’r Gymraeg y tu
hwnt i’r byd addysg fel
bod plant yn parhau i’w defnyddio a gofynnwyd sut gallai’r Adran
Addysg wneud hyn. ·
Nodwyd bod dau bwnc yn
unig drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel iawn ac a oes
cynlluniau i gynyddu hyn. ·
Mynegwyd bod angen
ysgolion dynodedig Gymraeg. ·
Diolchwyd am y cyflwyniad.
Cydnabuwyd bod Gwynedd yn arwain y ffordd mewn darpariaeth addysg
Gymraeg, fodd bynnag
mynegwyd pryder bod nifer uchel o blant sy’n dilyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn
gostwng yn CA4. ·
Holodd aelod
beth allai’r Cyngor wneud mewn sefyllfa lle
nad yw’r corff llywodraethu’n
rhannu’r un gwerthoedd o
ran darpariaeth addysg? Mewn
ymateb nodwyd: ·
Bydd y
ddogfen yn statudol ym mis Medi 2022. ·
Yr angen i sicrhau mwy
o athrawon sy’n hyderus i
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i atal nifer y disgyblion
sy’n
dewis astudio pynciau drwy gyfrwng y Saesneg
yn CA4 a thu hwnt. ·
Mai isafswm yn unig
yw’r 2 bwnc mewn ysgolion sy’n gynnig dim o gwbl yn bresennol. ·
Bod angen hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd ymhlith rhieni di-gymraeg
ac nad
yw’r Gymraeg ar draul y Saesneg. ·
Os bydd ysgolion yn
cael eu hadnabod fel rhai sy’n achosi pryder o ran darpariaeth y Gymraeg mae
camau gweithredol mewn lle i addysgu Llywodraethwyr ar eu darpariaeth. ·
Ategwyd bod hyn yn cael
ei drafod yn
rheolaidd mewn cyfarfodydd a rhan o hyfforddiant ein Llywodraethwyr. ·
Bod gwaith ymchwil i
sicrhau gwybod ymlaen llaw pa iaith fydd y cwrs yn cael ei gynnal os ydynt yn
symud o CA4 i goleg addysg bellach.
ii.Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032: Gweledigaeth newydd ar gyfer
Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt Cafwyd rhagair gan y Pennaeth Addysg yn nodi ei fod
yn croesawu’r cyfle i ddod â’r eitem gerbron y Pwyllgor Iaith o
ran ei phwysigrwydd. Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg gan gyfeirio at
weledigaeth yr Aelod Cabinet
dros Addysg a chyflwynwyd yr amcanion ar gyfer cyflawni’r weledigaeth. Aethpwyd ati i egluro i’r pwyllgor beth yn union fydd y ddarpariaeth newydd a fydd yn cael ei gynnig o ran addysg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |