Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679870
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Elwyn Jones, Kevin M Jones, John Pughe
Roberts ac Eirwyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2021 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22 Mehefin 2021 fel rhai cywir yn amodol ar
ychwanegu ym mhwynt 11.2 bod aelod wedi mynegi siom nad yw’r ysgolion yn medru
cynnal y Canolfannau Iaith. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL PDF 470 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth
Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd her o allu staff rheng flaen i ymateb i’r
arolwg staff hunanasesiad iaith Gymraeg oherwydd nad oes ganddynt fynediad
rhwydd i gyfrifiaduron personol. Ategwyd fod yr adran yn gweithio a’r Swyddog
Dysgu a Datblygu i geisio dod o hyd i ffyrdd addas i wella’r ymateb. Tynnwyd sylw yn ogystal i’r prif bwyntiau canlynol: -
Nodwyd
fod yr holl brentisiaethau yn yr adran yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg
a bod hysbysiadau Cymraeg ar gyfer y cyfleodd hyn bellach i’w gweld ar y
teledu. -
Mynegwyd
awydd i ddatblygu mwy o derminoleg Cymraeg o fewn yr adran ac i sicrhau defnydd
ohonynt yn y gweithlu yn ogystal â chynnal hyfforddiant iaith i’r staff. -
Gobeithir
annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymysg y staff, yn enwedig yn yr ardaloedd ble
mae llai o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio megis Meirionnydd. Pwysleisiwyd fod
hyn yn flaenoriaeth fel gall staff rheng-flaen roi'r argraff gorau o ddefnydd
yr iaith i drigolion Gwynedd. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor i holi
cwestiynau- -
Holwyd pa mor gynrychiadol oedd y cyfranogwyr a
ymatebodd i'r holiadur dynodiadau iaith. Nododd fod trefniadau i edrych ar yr
holiadur i sicrhau ei fod yn syml, a drwy hyn gobeithir y bydd cyfranogiad
ehangach. Holwyd hefyd pa mor debygol
oedd o fod unigolion Cymraeg wedi ei lenwi’n Saesneg. Eglurodd nad oedd modd o
wirio hyn. -
Gofynnwyd pa mor aml mae pethau’n cael eu
cyfieithu’n allanol. Mynegwyd nad oedd angen defnyddio cwmnïau allanol gan eu
bod yn defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu mewnol o fewn y Cyngor a nodwyd yr her
o gael mwy o ddefnydd o derminoleg Cymraeg gan staff. -
Holwyd beth oedd y drefn arferol pe bai rhaid
cyflogi rhywun di-gymraeg. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant addas yn cael ei
gynnig. Eglurwyd hefyd fod cefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r
staff presennol sydd ddim yn hyderus efo’u Cymraeg. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: AMGYCLHEDD PDF 204 KB Cyflwyno gwybodaeth am
gyfraniad yr Adran Amgylchedd i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran Amgylchedd. Nododd
addasiad i’r adroddiad sef bod 67.8% o’r adran wedi llenwi’r holiadur
hunanasesiad iaith Gymraeg a bod 93% o’r rhai ymatebodd yn cyrraedd gofynion
iaith eu swyddi. Cyfeiriodd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad: -
Nodwyd ei bod yn anodd cael unigolion gyda’r
arbenigedd cywir i ddod i weithio yn y maes cynllunio a gwarchod y cyhoedd.
Eglurodd bod cyrsiau cynhwyso yn cael eu trefnu i gynorthwyo gyda hyn. -
Mynegodd
bod y gallu i weithredu’n rhithiol wedi newid systemau gweithiol yr adran a bod
nifer o staff wedi gadael yr adran i geisio swyddi mewn lleoliadau eraill. Fodd
bynnag, nodwyd hefyd bod gweithio’n rhithiol yn golygu y gall y Cyngor annog
unigolion i ddod i weithio gyda nhw. Adnabuwyd bod angen hyfforddi a buddsoddi
yn y swyddogion er mwyn eu hannog i aros yn eu swyddi. -
Nodwyd angen i ddatblygu’r maes recriwtio ac i
greu a chynnal cyswllt ysgolion a cholegau yn ôl i’r arfer ar ôl cyfnod COVID -
Eglurwyd
bod cyfyngiadau ieithyddol wrth greu dogfennau rhwng yr adran a chwmnïau
allanol a bod sicrhau nad oes cam
camddehongli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. -
Pwysleisiwyd fod llawer o gwmnïau yn gweithredu
yn wirfoddol ar argymhellion yr adran i enwi datblygiadau yn Gymraeg er nad oes
deddfwriaeth i'w gorfodi Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau pellach - -
Holwyd pam fod nifer wedi gadael yr adran ac os
oedd rheswm dros hyn. Gofynnwyd, yn ogystal, am ddiweddariad am y newidiadau yn
yr adran. Nodwyd eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddi staff yr adran er mwyn eu
datblygu ymhellach. Ychwanegodd fod cyfnod hir o sefydlogrwydd wedi bod dros y
blynyddoedd diwethaf, ond yn dilyn newid mewn ffordd o weithio dros y pandemig fod hyn wedi rhoi mwy o gyfleon tu hwnt i’r Cyngor
i unigolion -
Gofynnwyd a oedd bwriad cael cyswllt gyda’r
Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc ymrwymo
i'r swyddi sydd ar gael efo Cyngor Gwynedd. Amlygwyd yr angen i ddatblygu’r
maes recriwtio, ac yn anffodus fod cynlluniau oedd ganddynt wedi ei dal yn ôl
gan y pandemig ond eu bod yn gobeithio ailgychwyn yn
fuan. Er hyn, eglurwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i hyrwyddo swyddi yn
lleol. -
Holwyd
a oedd bwriad i ddatblygu terminoleg Cymraeg o fewn yr adran. Eglurwyd fod y
derminoleg yn un anodd a’i bod yn ofynnol i’r gwasanaeth gynnig gwahoddiad
tendro’n ddwyieithog. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus efo’r cytundebau a
chontractau ac nad oes camddehongli i’w weld rhwng y ddwy iaith. O ganlyniad i
hyn, y cyngor cyfreithiol mae’r adran wedi ei dderbyn yw cyflwyno cytundebau a
chontractau mewn un iaith, a bod yr iaith felly’n amrywio o gwmni i gwmni. - Mynegwyd siom nad oedd Deddf i sicrhau fod enwau gwreiddiol Cymraeg sydd yn cael ei defnyddio yn lleol yn cael eu blaenoriaethu, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn annog defnydd o’r Gymraeg gyda chanran uchel o gwmnïau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: CYLLID PDF 195 KB Cyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid a chyfeiriodd yn fras
at y prif bwyntiau canlynol: -
Datblygiad yn yr adran dros y blynyddoedd o fod
yn bennaf Saesneg o ran arferion gwaith, i fod gyda chanran uchel o staff yn
meddu ar sgiliau iaith Gymraeg. -
Nodwyd fod yr adran yn unigryw yn y modd ei
mae’n cynhyrchu cyfrifon drwy gyfrwng y Gymraeg a'u cyfieithu i'r Saesneg, yn
annhebyg i unrhyw Gyngor arall. -
Cyfeiriwyd at y staff rheng flaen sy’n
cyfathrebu a’r cyhoedd o fewn yr adran a’u bod yn cwrdd â’r gofynion
ieithyddol. -
Manteisiwyd ar ddeunydd Cymraeg Clir er mwyn
symleiddio’r eirfa a ddefnyddiwyd o fewn gwaith yr adran fel bod pobl gyffredin
yn eu deall. Ategodd y Pennaeth bod cynghorau eraill yn efelychu’r gwaith hwn
ar gyfer safoni terminoleg gan fod yr adran wedi gweithio efo Canolfan Bedwyr i
sicrhau defnydd o ffurf geiriau cywir. -
Ategwyd bod yr adran wedi arloesi gyda’u defnydd
o Zoom ar gyfer hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn
cyfarfodydd allanol er enghraifft i sicrhau bod ansawdd a gweithrediad
dwyieithog yng nghyfarfodydd gronfa bensiwn. Ychwanegodd bod egwyddorion Ffordd
Gwynedd yn cael eu hallforio drwy hyn. -
Nododd
bod y systemau rhithiol wedi amddiffyn y drefn ddwyieithog a bod yr adran wedi
lobïo Microsoft drwy ysgrifennu llythyr atynt i fabwysiadu system sy’n caniatáu
cyfieithu ar y pryd. Fodd bynnag yn absenoldeb hyn mae Zoom
wedi caniatáu hyn ddigwydd yn rhwydd. -
Ategodd Pennaeth Cynorthwyol Technoleg
Gwybodaeth mwy o wybodaeth am y systemau gwe iaith a ddefnyddiwyd mewn ysgolion
yn llwyddiannus yn y gorffennol. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol:- -
Diolchwyd am yr adroddiad difyr a holwyd pa mor
debygol yw’r ddarpariaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd ar y cyd gyda sefydliadau
allanol. -
Nododd aelod ei fod yn synnu nad oes cyfieithu
ar Teams gan fod Microsoft yn gwmni byd-eang a holwyd
a oes rheswm pam nad yw’n cael ei gynnig. -
Gofynnwyd a oes gan Gyngor Gwynedd le i fynnu
bod darpariaeth a chyfleuster cyfieithu fel bod mwy o ddefnydd o Gymraeg mewn
cyfarfodydd. -
Holwyd os daeth unrhyw ateb o’r llythyr a
ysgrifennwyd at Microsoft. -
Croesawyd y trafodaethau efo’r adrannau, gan ei
fod yn gyfle da iddynt hunan-arfarnu am sefyllfa’r iaith Gymraeg wrth lunio eu
hadroddiadau. Ategodd bod heriau adrannol yn cael eu hamlygu wrth iddynt adrodd
yn ôl i'r Pwyllgor Iaith. -
Gofynnwyd a yw’n amser i edrych ar
flaenoriaethau’r Pwyllgor iaith ar gyfer y dyfodol. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid: -
Nad oes llawer o Gymraeg o fewn y cyfarfodydd
gyda swyddogion ar draws Cymru. Fodd bynnag o fewn cyfarfodydd cyhoeddus mae
cyfleuster cyfieithu ar gael bob tro. -
Bod Microsoft wedi canolbwyntio ar gyfieithu
mecanyddol a heb rannu eu sianel sain yn Teams yn
ddwy i alluogi cyfieithu ar y pryd fel mae Zoom wedi
ei wneud. Ategodd bod Microsoft yn y broses o newid hyn. - Nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod y mater cyfieithu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAMU YMLAEN: ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG PDF 963 KB Eitem er
gwybodaeth yn unig. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth gan yr Ymgynghorydd Iaith. Nodwyd
fod yr adroddiad yn adrodd ar
ganfyddiadau’r Comisiynydd o’r arferion ieithyddol yn Genedlaethol dros y
flwyddyn ddiwethaf yn dilyn Covid. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|
PROSIECT GWARCHOD ENWAU LLEOEDD CYNHENID PDF 359 KB Cyflwyno adroddiad
gan y Swyddog Prosiect yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am waith y prosiect
newydd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog
Prosiect a’r Ymgynghorydd Iaith. Nodwyd yn ôl yn 2018, fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Iaith,
oedd yn amlinellu cyfrifoldebau a phwerau’r Cyngor yn y maes enwi lleoedd.
Eglurwyd fod yr adroddiad yn ffrwyth gwaith ymchwil ac wedi ei greu mewn ymateb
i bryderon gan aelodau’r Pwyllgor ar y pryd am Seisnigeiddio enwau neu fathu
enwau newydd ar nodweddion daearyddol a thai. Eglurwyd o ganlyniad i rwystrau
megis Covid nad oedd modd symud y prosiect yn ei
flaen nes mis Medi eleni ble penodwyd Swyddog Prosiect i ddechrau ar y gwaith.
Bellach, nodwyd fod y cynllun hwn yn un o flaenoriaethau gwella'r Cyngor, ac o
ganlyniad wedi derbyn arian ychwanegol i wthio’r cynllun yn ei blaen. Mynegwyd nad oedd eglurdeb ar y drefn o newid enwau ac ail enwi tai a
strydoedd. Pwysleisiwyd fod hyn yn bennaf oherwydd yr angen i foderneiddio
deddfau a pholisïau i sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar enwau tai a
busnesau. Eglurwyd fod cyfle
gyda’r cynllun hwn i adrannau o fewn y Cyngor gydweithio gyda’i gilydd a bod
cyfarfod cychwynnol i sefydlu Grŵp Prosiect wedi ei gynnal. Nodwyd y bydd
modd bwrw ymlaen gweithdrefnau pendant ac sydd yn ateb yr angen am eglurdeb yn
y maes. Nodwyd y bydd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion a’r cyhoedd i
ennyn diddordeb hirdymor i’r cynllun. Adnabuwyd fod lle i
gydweithio efo Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref i weld camau maent wedi ei
wneud yn flaenorol neu beth sydd angen ei wneud yn y cymunedau. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach- -
Holwyd
pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â chyfathrebu efo busnesau a chymdeithasau tai.
Nodwyd eu bod yn y broses o ddatblygu ffurflen wybodaeth i fusnesau a
chymdeithasau tai fydd yn rhoi gwybodaeth glir o’r broses o enwi tai a
busnesau. Mynegwyd nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad yn y maes y trydydd
sector ond nodwyd awydd i ddatblygu perthynas o fewn y maes a drwy hyn y gallu
i ddylanwadu ymhellach. -
Tynnwyd
sylw at lwyddiant mae Cyngor Plwyf Llanystumdwy wedi cael i roi arwyddion enwau
ar bontydd a ger afonydd o fewn eu hardal, a gofynnwyd a oes modd datblygu’r
cynllun gyda’r adran Amgylchedd. Cytunwyd fod angen trafodaeth gyda’r adran a
bod angen parhau gyda chynlluniau o’r math hwn. -
Gofynnwyd
pa rôl sydd gan Gynghorwyr i gefnogi’r cynllun hwn, nodwyd y bydd cyfarfodydd
cyson yn cael ei gynnal gyda’r Cynghorwyr ac y bydd diweddariadau yn cael ei
rannu. Nodwyd y bydd hyn yn gyfle i Gynghorwyr i herio perfformiad y cynllun
ynghyd a rhannu eu syniadau hwythau. PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |