Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Roberts  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd buddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar  14 Ionawr 2016 fel rhai cywir.

 

Eglurwyd nad oedd y cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd i drafod y cyfleoedd a’r pryderon wedi cymryd lle eto oherwydd bod y Prif Weithredwr wedi colli ei dad yn ddiweddar.  Mae’r cyfarfod wedi ei ail-drefnu i ddigwydd yfory, 22 Ebrill 2016.

 

 

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – y Gymraeg.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Y gwaith Cymunedol Hunaniaith wedi ei gwblhau am y flwyddyn gyda gwaith da yn digwydd, ond bod ceisio gweld beth yw effaith y gwariant yn profi yn anodd.

·         Wedi penodi Rheolwr Canolfan Iaith Bangor.

·         Wedi cynnal trafodaeth gychwynnol efo Dr. Rhian Hodges o Brifysgol Bangor ac yn disgwyl awgrymiadau ymarferol ar i fesur llwyddiant.

·         Y Siarter Iaith yn ei lle ers tair blynedd yn yr Ysgolion Cynradd ac wedi cychwyn yn yr Ysgolion Uwchradd.  Mae wedi ei lledaenu ar draws Ysgolion Cynradd Gogledd Cymru ond mae angen trefn ddadansoddol gadarn.

·         Wedi cynnal Awdit Iaith ar staff Cyngor Gwynedd gyda’r holiaduron i mewn.

·         Ceisio ymrwymiad i gynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg cyrff allanol trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Y gwaith o drefnu cyfarfodydd efo’r cynghorau eraill er agor deialog ar hybu defnydd o’r iaith yn cychwyn mis nesaf.

 

Trafodwyd y materion a ganlyn:-

 

(A)      Defnydd a Safon yr Iaith Gymraeg

 

Trafodwyd yr iaith Gymraeg a ddefnyddir gan staff y Cyngor a’r nôd a sefydlwyd ym Mholisi Iaith y Cyngor.  Cytunwyd bod angen adnabod cynulleidfa a defnyddio’r iaith briodol. Nododd yr Uwch Reolwr – Cefnogaeth Gorfforaethol mai un o’r gwendidau oedd yn cael ei weld oedd bod iaith y Cyngor yn fwy cymhleth nag oedd rhaid iddo fod.  Nodwyd hefyd bod hyder staff yn ffactor a bod y gefnogaeth sydd ar gael yn gweithio er rhaid deall bod magu hyder yn cymryd amser ac y bydd sawl lefel o gyrhaeddiad.

 

Cyfeiriodd aelod at yr angen i daclo’r diffyg o  ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar ffonau digidol a dulliau cyfathrebu digidol eraill yn hytrach na chanolbwyntio ar safonau iaith a cheisio ennill y plant drosodd i’r Gymraeg drwy chwaraeon a gweithgareddau hamdden.  Adroddwyd bod gwersi i’w dysgu o Wlad y Basg.  Nodwyd bod angen ateb gwahanol ym mhob ardal o Gymru yn hytrach nag un cynllun ar gyfer Cymru gyfan.  Cyfeiriodd aelod at waith da'r Siarter Iaith a’r gwaith datblygu ‘Apps’ Cymraeg yn llwyddiannus gyda Chwmni Da wedi bod yn dysgu plant. 

 

Cyfeiriwyd at y mater o geisio cael rhieni i siarad Cymraeg efo’r plant.  Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni at y ffigyrau sydd yn dangos llithriad yn y defnydd o’r iaith Gymraeg gan blant unwaith maent yn symud i’r Uwchradd gyda’r angen i adnabod pam bo hyn yn digwydd ac ystyried sut i’w ddatrys.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar y cwynion iaith ddiweddaraf i law.

 

Trafodwyd yr ymholiad am enw Saesneg ar fap Arolwg Ordnans, sef Black Rock Sands. Awgrymwyd y dylid defnyddio’r enw Cymraeg a’r enw Saesneg. Eglurwyd bod Arolwg Ordnans yn dewis enwau ar sail defnydd lleol o unrhyw enw a bod yn rhaid i’r Cyngor fod yn barod i’r her hwn.  Nodwyd y dylid ceisio sicrhau defnyddio’r enwau Cymraeg cynhenid i geisio atal y dirywiad yn nefnydd o enwau lleoedd Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD yr angen i

a)    Sicrhau bod unrhyw sgyrsiau ar y ffôn gydag Arolwg Ordnans yn cael eu cofnodi.

b)    Sicrhau bod Arolwg Ordnans yn ymgynghori gyda Chynghorau Tref / Cymuned leol cyn penderfynu ar ba enw i’w roi ar fapiau Arolwg Ordnans.

c)    Gofyn i’r Swyddog Datblygu Iaith gasglu tystiolaeth o hen fapiau Arolwg Ordnans ac unrhyw lyfrau hanesyddol am yr ardal i gadarnhau’r enw cynhenid a ddefnyddir cyn trafod ymhellach gyda’r Arolwg Ordnans.

 

7.

SAFONAU IAITH A PHOLISI IAITH I'R CYNGOR (materion cyflogaeth) pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar gais yr aelodau er cael gwell dealltwriaeth am y Safonau Iaith a’r categoreiddio.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ac adroddodd ar y problemau a adnabuwyd.  Eglurodd bod lefelau iaith wedi’u dynodi ar gyfer cyflawni gofynion  swyddi er hynny nid oes sicrwydd bod pob Rheolwr wedi rhoi ystyriaeth ddigonol wrth ddynodi lefel briodol ar gyfer y swyddi a bod angen adolygu’r lefelau iaith a ddynodwyd ar gyfer pob swydd.  Yn ogystal, adroddwyd nad oes meini prawf cydnabyddedig yn perthyn i’r lefelau presennol a bod unrhyw asesiad yn ddibynnol ar ddehongliad a barn broffesiynol y Cyd-gysylltydd mewn ymgynghoriad hefo’r rheolwr llinell.  Adroddodd ar y bwriad i’r Tiwtor Iaith ddefnyddio’r cynllun asesu a nodir yn Atodiad 2 sydd yn gosod lefelau iaith ymarferol sydd yn cyd-fynd â lefelau iaith CBAC i asesu cyrhaeddiad swyddogion yn erbyn y gofynion iaith.

 

Nodwyd ymhellach bod angen gosod amserlen gytunedig ar gyfer cyrraedd y gofynion iaith ond y byddai’n ofynnol i’r amserlen honno fod yn hyblyg ac wedi’i haddasu ar gyfer gofynion iaith pob sefyllfa yn unigol.

 

Mewn ymateb i gais aelod am ffigyrau o ran cynnydd swyddogion yn cyrraedd y gofynion, cadarnhaodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod swyddogion yn gwneud cynnydd a bod yna lwyddiannau mawr sydd yn arwain at gyflwyno gwobr Dafydd Orwig yn flynyddol.

 

Mewn ymateb i bryder yr aelodau nad yw amodau'r Cyngor yn cael eu gwireddu, adroddwyd bod lle i sicrhau bod Penaethiaid Adran yn cyfeirio’r swyddogion ymlaen at y Tiwtor Iaith.

 

Eglurwyd y bwriedir cyflwyno manylion yr hyn gaiff ei argymell i’r Grŵp Rheoli fel y cam nesaf, gan yna raglennu ymgynghoriadau gyda rheolwyr gwasanaeth ar draws y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad aelod ar y rheswm pam nad yw’r Cyngor yn penodi swyddog ar lefel y gofynion iaith, eglurwyd bod diffyg siaradwyr Cymraeg ar gyfer rhai swyddi yn enwedig mewn rhai ardaloedd penodol yn y Sir.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y bydd tystiolaeth gadarn o dan y Cynllun newydd hwn i arddangos os yw swyddogion yn cyrraedd gofynion iaith berthnasol i’w swydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad Aelod paham bod prif swyddogion wedi’u heithrio o’r Polisi Tanberfformiad a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, eglurwyd bod y swyddogion hyn yn gweithio dan amodau gwaith gwahanol a bod polisi cyfatebol ar eu cyfer hwythau hefyd.

 

O ran amserlen eglurwyd y bydd y Cynllun yn cael ei roi ar waith yn syth gyda'r Gwasanaeth Ymgynghorol Adnoddau Dynol a’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu yn codi ymwybyddiaeth o’r trefniadau newydd.

 

PENDERFYNWYD

a)    Cymeradwyo’r Cynllun

b)    Gofyn i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol gyflwyno adroddiad cynnydd yn erbyn y Cynllun i’r Pwyllgor Iaith ymhen 12 mis.